Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ODYDD CYMREIG. Cyf. I. MEDI, 1842. Rhif. 3. «'CYMRU, CYMRO, A CHYMRAEG." AT DDARLLENYDDION YR ODYDD. Gymry Mygedwiw,—Wele ni, unwaith eto, er pob trafferth a helbul, wedi cael cymhorth idd eich anerch ar faes Ya Odydd, gan ddwys obeithio na bydd ein hymweliad â chwi y tro hwn yn fwy oerllyd nac annerbyniol nâ'r troion blaenorol. Yr ydym, fely gwydd- och, wedi cael llawer cadgyrch chwerw i wynebu arnynt oddiar y cychwynasom ar ein gyrfa anturiaethol; ond wele ni, trwy drugaredd, wedi dianc allan o honynt oll a'n crwyn yn gyfain, ac heb lawer o glwyfau, nac archollion ar ein cyrff na'n hysprydoedd. Gwir i lawer picell danllyd gael eu hanelu atom, ac i ni fod lawer tro megys a'n heinioes yn ein dwrn, ac yn barod i chwythu yr ebychiad olaf, ond wele ni eto yn fyw, a'n Cyhoeddiad hefyd ar esgynlawr anrhydeddus y cyfnodolion, càn ucheled, os nid yn uwch ei ben, ac yn fwy cawr- aidd nag y bu erioed. Da genym eich hyspysu nad oes bellach rith o rwystr ar ffordd ei gylchrediad, namyn diffyg cefnogaeth a chyn- naliaeth oddiwrth y sawl y bwriadwyd ef iddynt, ac i weinyddu arnynt, sef yn benaf, Odyddion Cymru, ynghyd ag ewyllyswyr da i Odyddieth yn y Dywysogaeth. Nid am ddim y cyrhaeddasom yr orsaf hon ; ac nid heb ymdreeh galed y llwyddasom i sefydlu ein hawlfraint a'n hiawnderau fel Cymry ac fel Odyddion, canys nid am ddim un amser y gollynga meibion trais a gormes eu gafaelion ; ac nid wrth gysgu a phendwmpian yr enilla neb y dydd ar uehelgais a thraws- arglwyddiaeth. Nage, nage, frodyr bach, a hyny a wyddom ni yn dcMgon da. Anwyl ddarllenwyr, er ein bod ni bob amser yn eiddgar, efallai i eithafion, dros ein hannibyniaeth a'n hiawnderau, ac yn elynion annghymodlawn i bob gradd o drais a gormes, nid ydym trwy hyny yn ol o neb i dalu parch lle y mae hyny yn ddyledus, nac o roddi pob ufudd-dod cyfiawnbwyll i bawb a fyddo yn blaenori arnom mewn gwlad a chymdeithas. Nac ydym, frodyr, ac ni chwenychem, er dim, ddarbwyllo neb arall i fod yn fyr o wneuthur hyny chwaitb, can belled a byddo yn uniawn a gweddus. Y mae swyddogion a blaen- oriaid yn anghenrheidiol anhebgorol er llywiadau a threfnu achosion pob sefydliad, neu gymdeithas ddynol, bydded ei natur a'i ddyben y peth a fyddo, canys hebddynt ni byddai unrhyw sefydliad namyn cymysgfa o annybendod a thryblith o annhrefn ac afreoleiddiwch. Gan hyny, frodyr, parchwch eich blaenoriaid er mwyn eu swydd, a rhoddwch iddynt bob ufudd-dod dyladwy, gan edrych arnyntmegys eich tadau a'ch gwarcheidyddion cymdeithasol, yn rhwymau cysegr- edig Cyfeillgarwch, Cariad, a Gwirionedd. Ond, er dywedyd fel hyna,