Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMEDROLWR. Rhif. 3. Mawrth. 1836. A ELLIR DIWYGIO Y MEDDWYN? (Parhad o tu dal. U.) " A cllir diwygio y meddwyn ?" Attebai Cymcìeithasau Cymedroldeb ar y dechreu, ' Na ellir.' Neu, o leiaf, yn erbyn gobaith y credent mewn gobaith : a chan na feddenf, ryw ddysgwyliad uchel am allu diwygio y meddwyn, sefyd- lasant foddion o attaliad yn hytrach nac o wellhâd. Gallas- ent ddywedyd yn wylofus yn eu cyfarfodydd, A all fod ys- tyriaeth fwy aiswydus a galarus, na bod tua deugain mil bob blwyddyn yn syithio i feddrod y meddwyn, o blith poblogaeth Unol Daleithiau America, y rhui nid ydynt uwchlaw deuddeng mil o filoedd? Gallent gadw eu medd- yliau yn synedig uwch ben hyn yna, pe na buasai dim mwy arswydus i dynu eu sylw,sef yr ystyriaeth a ganlyn, yr hon a wanai eu calonau i'r byw, Mor sicr a bod tua deugain mil yn y flwyddyn yn cael eu gwthio yn anmhrydlawn i ẃydd eu Barnydd bob blwyddyn, yr oedd tua deugain mil eraill, o feibion a meiched ieuaingc, gwỳr agwragedd ieuaingc, yn cael eu dwyn i fynu i lanw rhesau y fyddin ddu yn eu lle. Gan hyny, eu gofal mawr oedd am geisio attal y rhai hyn ar y íFordd i ddystryw,a'n cadw yn bello grafangau y dem- tasiwn ; eu diogelu rhag colyn y sarph cyn iddynt gael eu hudo gan ei swyn angeuol. Dysgwylient yn Iled hyderus y gallent lwyddo i attal yr ieuainc rhag syrthio yn ysglyfaetli i'r demtasiwn—ond,yroedd anobaith am achub y medd- wyn, yn effeithio arnynt hwythan hefyd, ac nid rhyfedd : hwy a adwaenent nerth y lefiathan o anghymedroldeb, ac yr oeddynt yn barod i ddywedyd, " Gosod dy law arno ef, cofla y rhyfel, na wna mwy." Gwelsent bob penderfyniad daionus, a phob addewid am ddiwygiad yn cael eu dryllio gan yr archwaetb feddwawl, " fel y torir edau garth wedi cyífwrdd a'r tán," ac nid oedd llwyr ymattaliadam flyn- yddoedd, yn alluog i leddfu syched meddwl y meddwyn am ddíod gaclarn.