Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN Y GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH FÜDDIOL. RHIFYN XV.—MAWRTH,1835. BISON GOGLEDD AMERIG. Y mae y rywogaeth hon o genecll yr ych yn pres- wylio Gogledd Amerig; ac, hyd y gwybuwyd, nid ydyw i'w gweled yn un wlad arall. Hyd yn ddiwedd- ar, meddyliwyd nad oedd yr ych cartrefol, yr urus,— tarw gwyílt Ewrob ac Asia, a bison yr Amerig, onid amrywiaethau o'r un rywogaeth : mewn geiriau ereill, mai yr urus oedd yr ych cyffredin gwedi ei ddofì,—ac mai yr urus oedd y bison gwedi ei newid gan yr hin- sawdd. Ond cafodd Cnvier allan bod bison yr Ameng yn rywogaeth lwyr wahanol, ac enwa lawer o bethau yn y rhai y maent yn amrywio. [Darlun y Bison.] | Y mae gan y bison bymtheg pâr o asenau; nid oes i gan yr ych gwyllt onid pedwar ar ddeg: ei ranau ol j hefyd ydynt lawer llai nâ'i ranau blaen. Yr achos o ! hyn ydyw y crwm mawr sydd ar ei ysgwyddau. Y | crwm hwn sydd yn hirgrwn, ac yn myned yn llai fel yr | ymestyna yn ol. Y blew ar y pen, gwddf, a rhanau I blaen y corff, sydd hir a chedenog, yn gwneyd barf o 1 dan yr ên, ac yn disgyn, yn gudyn, yn îs nâ'r glin. Cyfyd y rhawn ar y pen yn grug tew, nes cyrhaedd blaen y cyrn, ac ar y talcen y mae yn fodrwyog, ac fel yn gymmhleth. Cynnelir y pen anferth bwn gan wddf