Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN Y GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH FUDDIOL RHIFYN XIII.—IONAWR 15, 1835. GWAITH EMRYS. [Dailun Gwaith Emrys.] Wrth yr enwau Caer Gawr, Cor Gawr, Gwaith Emrys, a'r Seisnig Stonehenge, yr adwaenir yr adfeilion i'hyfeddaf o adeiladaeth hen yn yr holl ynys. Er nad ydynt yn awr hanner y peth y huont, perthyna mawrhydi iddynt etto sydd yn Ilenwi pawb a'u gwel â syndod; ac os ehwilir i mewn i gynllun dechreuol y gwaith, teimlir ei fod yn dangos dychymmyg ardderchog, yn gystai a gallu a chyw- reiiirwydd nodedig. Safa Gwaith Emrys ychydig yn y gogledd or llewin oddiwrth dref Amesbury, yn swydd Wilî, ar ael un o'r twmpathau Uydain hynny, sydd mewn rhai manau yn tori ar wastadrwydd maith Caer Caradog. Cylchir y lle gan íFos, dri chant a thri- ugain a naw o latheni yn ei chwmpas. Yn y clawdd hwn y mae un adwy i fyned i mewn i'r caeadle, lle y mae yr adail. Tybiwyd unwaith bod dwy fynedfa arall iddo, ond meddylia y Dr. Stukeley a Syr