Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN Y GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH FUDDIOL. RHIFYN VIII—AWST 15, 1834. HELA Y BAEDD GWYLLT. [Y Dull o Ymosod ar y Baedd Gwyllt.] Oddiwrth y Baecld Gwyllt, yn ol barh yr an~ ianydd Cuvier, y tarddodd yr holl rywogaethau o focb dofion; ac ymddengys fod y creaduriaid hyn yn yr amser gynt yn dra lliosog yn holl wledydd Ewrob ac Asia, ac mewn rhai rhanau o Affrica hefyd. Yr oeddynt yn anadnabyddus yn yr Amerig, hyd nes y dygwyd hwynt drosodd gan Ewrobiaid; oblegid er fod y Peccary yn cael ei alw weithiau yn Fochyn Mexico, ymddengys yn amlwg ei fod yn greadur o rywogaeth arali. 2E Fitzstephen, yn ei 'Ddarluhiad o Lundain/ yr hwn a ysgrifenwyd yn amser teyrnasiad Harri yr Ail, tua diwedd y deuddegfed canrif, a ddywed fod y goedwig a amgylchynai Lundain yn yr am- ser hwnnw, yn llawn o faeddod gwylltion ac anif- eiliaid rheibus ereill. Yn yr Alban, mewn hen amserau, gelwid un o gyrau swydd Fife wrth yr enw Muckross, ystyr yr"hwn, yn yr iaith Gelltiaid, yw Penryn y Baedd; ac y mae traddodiad yn y gymmydogaeth fod y lle, yn yr amser gynt, yn