Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN Y GYMDEITHAS ER TAENÜ GWYBODAETH FÜDDIOL RHIFYN II.—CHWEFROR 15, 1834. RHINWYR SEIRPH. [Hudol.vyr Indi.iidd yn dangos Nadroedd wedi eu dofi.] Y mae amrywiol fanau yn yr Ysgrythyr a gyf- eiriant at y dyb a dderbynir yn gyffredin yn y Dwyrain, y g^llir dofi seirpb, neu o'r hyn lleiaf eu gwneuthur yn ddiniwed, trwy ryw swýnion neu riniau. Y mwyaf hynod o'r testunau hynny sydd yn Salm 58. lle y mae yr annuwiolion yn cael eu cydmaru i'r "neidr fyddar yr hon a gau ei chlust- iau ; yr hon ni wrendy ar lais y rhinwyr, er cyfar- wydded fyddo'r swynwr ;" a'r un sydd yn yr 8fed bennod o Jeremi, " Mi a ddanfonaf seirph, aspiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt." Y Dr. Shaw a sonia am y grediniaeth y gellid gwneuthur seirph gwenwynliyd yn ddiniwed, trwy ganiadau, neu eiriau yn cael eu mwngial, fel peth cyíFiedia