Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN Y GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH EUDDIOL RHIFYN I—10NAWR 15, 1834. ANNERCHIAD. ORIAU SEGUR. m ________ Y mae dynion yn fynych yn camdreulio eu ham- ser am na wyddant yn iawn pa fodd i'w ddefnyddio yn well. Yr un nifer o oriau sydd yn y dydd a'r flwyddyn i bawb, ond gellid meddwl wrth weled gymmaint o bethau y mae rhai yn medru eu cyf- flawni, bod mwy o amser wedi ei roddi iddynt hwy nag i ddynion eraill, neu ynte eu bod yn gallu by w heb gysgu. Ond dyma y dirgelwch,—nid ydyw y dynion diwyd hyn ddim yn gwastraffu eu hamser mewn segurdod ac oferedd; nid ydynt yn dy- wedyd, " Gan nad oes genyf onid banner awr i'w hebcor, gallaf segura hynny." Na ! o ychydig o hanner oriau y mae y dyddgwaith yn cael ei wneud i fynu. Pa beth bynag ydyw eich galwedigaeth —pa un bynag ai llafur yn y maes, ai crefft yn y tŷ—y mae gan bawb o honoch un awr o'r dydd at eich gwasanaeth eich hunain. Yn yr haf y mae oriau yr hwyr yn gyffredin yn oriau segur; hwyr- ach eich bod yn eu treulio mewn ymddiddan difudd â'ch cymmydogion, yn nrysau eich tai, gan fwrw enllib ac anair ar y neb a ddigwyddo fod yn absen- nol. Yn y gauaf y mae y prydnawn yn hir ac yn dywyll; efallai eich bod yn treulio y r amser mewn syrthni wrth y tan, neu ynte mewn dadleuon gwag ac ofer gyda'ch tylwyth. Rhai o honoch hwyrach heb wybod yn iawn pa beth i wneud â'r oríau segur hyn yn myned i'r dafarn, ac felly yn rhoddi eich troed ar un o'r llwybrau a wnant i fynu y ffordd lydan sydd yn arwain i ddistryw. Ond nid amser yn unig a gollwch yn y Ue dinystriol hwn; os gweriwch eich oriau segur yn y diodty, chwi a gollwch eich arian, eich iechyd, eich cysuron car- tref, eich cyfeillion, eich gwaith, a chwychwi a'ch rhai bach a suddwch i dlodi ac angen; chwi a goll- wch heddwch cydwybod, eich enw da; a pheth sydd yn fwy pwysig na'r cyfan, heb wir edifeir- wch, chwi a gollwch eich enaid. Byddai llawer gwell trefn ar y byd pe gwyddai dynion yn gyffredin pa fodd i dreulio eu horiau segur. Pe " prynent yr arnser" hwn trwy ei ddef- nyddio i gasglu gwybodaeth o'r "pethau buddiol,"— "y pethau a berthynant i fywyd a duwioldeb," caent weled y gwnai y cynnyrch yn fuan ad-dalu idd- ynt am eu llafur. Y mae gwybodaeth fuddiol yn debyg i arian wedi ei gasglu a'i roddi allan ar lôg ; y mae yn dwyn ychwaneg i mewn nes cynnyddu yn swm mawr, a rhyw ddiwrnod fe a'i gwelir gymmaint ddeng waith ag yr ymddangosai ar y cyntaf. Yr holl gymmwynas a ddymunem i chwi ddangos i'r Cylchgrawn ydyw ei gymmeryd i fynu a'i ddarllen ar eich oriau segur. Ni ddy- munem er dim i'r darlleniad o hono beri i chwi fod yn fwy esgeulus o'ch gorchwyl; heb ddiwydrwydd gyda'ch gwaith ni ellwch gael bwyd a dillad, a chysuron i'ch gwragedd a'ch rhai bach. Yr ydym yn wir yn awyddus am eich gweìed yn bobl ddar- llengar; ond yr ydym yn fwy awyddus am eich gweled yn ddiwyd, yn gysurus, ac yn rhinweddol. Nid ydym yn gofyn i chwi ddarllen pan y dylech fod gyda'ch gwaith—byddem ar fai pe dymunem i chwi wneathur peth mor groes i'éh dyledswydd; rhoddwch i'r Cylchgrawn eich oriau segur yn unig, a byddwn foddlon. Pe darllenech ein Cy- hoeddiad onid dau hanner awr yn yr wythnos, chwi a ddarllenech felly un rhifyn cyn i'r llall ddyfod allan; a chwi a ryfeddech ddiwedd y flwyddyn gynnifer o bethau newyddion a fyddech wedi eu dysgu. Gwybodaeth sydd yn peri i'r naill grefftwr a llafurwr ragori ar ei gymmydog; a gwybodaeth sydd yn darostwng i wasanaeth dyn yr anifeiliaid