Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TWil GWALIA. DAN O L Y G I A D I S A A C H . HARRIES ifroìf mtD gafiiu Net>-" Ilhiljn 13.] BHIGITB, 1843. [Pris 3c. PARHAD O'R ARAETII AR Y MIL BLYNYDDOEDD. III. Amscryddiaeth y Mìl Blyn- yddoedd. Mae yn ddiameu fod y peth hwn wedi achosi cymaint o chwilio, ac ysgrifenu, a darllen, ac un pwngc o fewn duwinyddiaeth, ac hanesiaeth, a hyny gau enwogion Iawer. Methu a chyd farnu pa le i ddechreu eu cyfrifon y maent; felly ni's gallant ddiweddu yn yr un man. Mae amser prophwydoliaeth yn un o'r pethau anhawddaf ei benderfynu; óblegid yn gyffredin y mae graddau yn y cyflawniad o brophwydoliaeth amseryddol, a phob un o'r graddau hyny yn cael son am danynt fel y prif adeg. Yn enwedig gellir enwi tri gradd yn nghyflawniad prophwydoliaeth amseryddol; sef ei dechreuad, cyn- nydd y cyflawniad, a'r cwblhad perffaith. Felly yn union y mae yr ysgrifenwyr sanctaidd yn son am y Mil Blynyddoedd, mewn gwahanol (23) amserau. Sonia Daniel am y tri gradd, ac y mae yn gosod y tri mewn parallel yn cyd redeg ar faes amseryddiaeth eglwysig. Mae yr ysgrifenwyr pabaidd wrth esponio ar lyí'r Datguddiad loan yn priodoli yr holl gyssylltiadau prophwydol yno, at yr erlidiau paganaidd, ac amseryddiaeth yr Ymherodraeth Rufeinaidd ; a hyny heb fod mewn cyssylltiad a'r Grefydd Gristionogol mewn un modd, ond priodolant y cwbl i'r grefydd baganaidd, yn yr Ymherodraeth hono. Ond nid oes dim yn fwy amlwg na bod Ioan yn ysgrifenu am Rhvfain babaidd, ac nid Rhnfain baganaidd. Oblegid gellir sicrhau am Rhufain baganaidd, na fu ei rhwysg erlidgar ddim dros '' amser amseroedd, a rhan amser ;" sef, 1260 o ddyddiau neu flwyddi, yn yr holl ddulliau a wisgodd. Heblaw hyn, y mae yn ddiau na pharhaodd erlidiau paganaidd ddim dros 50 o