Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN FOREU. CHWEFROR, 1847. TRAETHODAU, &c. TRINIAETH TE. Ýn nechreuad Ebrill, y dail a dynir oddiar y planigyn ; a chnwd newydd o honynt sydd yn ymddangos ar ol hyny, yr hwn a dynir ymaith yn mhen chwech wythnos ar ol y cyntaf, a thrydydd cnwd ar ol diwedd Mai: y ddau gasgliad cyntaf ydynt y goreur ac o'r bron ogystal â'u gilydd. Tê gwan a geir o'r trydydd cynnyrch; gan hyny, y ddau gasgliad cyntaf sy'n gwneyd yr holl dê goreu, at y rhai y rhoddir ychydig o'r blagur cynnaraf, y rhai a dynasid yn Mawrth, ar eu toriad allan, ac a elwir pehoe. Cynnwysa y cnwd gwaelaf y casgliad diweddaraf yn unig, heb ddim o'r pekoe. Sychir y dail yn ngwres yr haul, neu ger bron tân araf. Daw y marsiandwyr odd- eutu y wlad yn mis Mai. i brynu y cwbl, gan gadw y naill rywogaeth yn ofalus oddi- wrth gymmysgu â'r llall. Y gwydnaf o'r dail ydynt y diweddaraf, a dail hen goed. Bhif. 8.]* b