Y SEREN FOREU. RHAGFYR, 1846. TRAETHODAU, &c. SYTH (STARCHJ. Gwltchir blawd eàn gwenith â dwfr, a maeddir ef yn dda â llaw; yna gollyngir dwfr arno yn araf a pharhaus, yr hwn a red i lestr gerllaw i gadw. Ar ol gosod yr hylif hwn ar dân araf, try yr holl ddwfr yn darth, ac erys yr holl flawd a lynasai ynddo ar y gwaelod, yr hwn a sychir, ac a weithir yn syth cyíí'redin. Gwneir y math puraf o hono drwy wlychu y grawn goreu, a gwasgu eu nôdd allan pan fyddont feddal, a bron ag egino. Ar ol i'r dwfr hwn gael amser i suro, yr hyn sydd yn ei buro oddiwrth bob peth dianghenrhaid, ac ar ol ei sychu, torir a gwerthir ef fel y llall. Gellir ycliwanegu mai syth yw pob hadau, megys gwenith, haidd, ceirch, &c, a ddef- nyddir gan ddyn. Gellir ei gyfansoddi hefyd o'r pytatw, ond nid yn ogystal ei natur. Ni wna syth ymgymmysgu â dwfr oer, ond disgyna yn bowdr i'r gwaelod. Cym- mysga yn hawdd â dwfr berwedig. Y mae Bffir. 6.] f