Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cydymaith. Cyf. II, AWST, 1895. IIhif 16. Petrson Cirisf. jETH a ddywed Crist am dano ei hun ? Yn ol addefiad pawb ag y mae pwys yn eu barn ar y mater hwn, nid dibwys ydyw pa beth a ddywed Crist am dano ei hun. Dyma ddyn na bu ei gyfî'elyb. Y mae ei ddysgeidiaeth heb allu beio arni wedi holl feirniadaeth elynol yr oesoedd, ac y mae eifywyd yn ddií'rycheulyd. " Pwy a'm hargyhoedda i o bechod," medd un diwrnod ; ac y mae y gofyniad heb ei ateb eto. " Nid wyf fi yn cael un bai ynddo," medd Pilat; na minau, medd Herod. " Ond pa ddrwg a wnaeth," meddai Pilat drachefn, wrth yr archoffeiriaid a'r Cyngor, a'r dorf, ond ni chaed ateb. Medd Duw, foreu y trydydd dydd, nid ydwyf yn cael un bai yn y dyn hwn. " Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd." Yn ddiau y mae pwys yn yr hyn a ddywed hwn am dano ei hun. Y mae anfiyddwyr erbyn hyn, rhag cywilydd, yn gorfod addef fod y fath un wedi bod, ac na bu ei gyfielyb. Y maent gan hyny yn ateb gormod i beidio addef mwy. Yn awr beth a ddywed y fath un a hwn am dano ei hun? Y mae yn rhoddi addewidion nas gall neb eu cyflawni ond Duw. Y mae yn addaw maddeu ; a phwy a ddichon faddeu pechodau ond Duw yn unig ? Y mae yn addaw glanhau oddiwrth bob pechod; ac oni raid cael rhinwedd anfeidrol i hyny? Y mae yn addaw adgyfodi ei bobl i fywyd tragwyddol; a rhaid cael hollalluowgrwwdd i wneyd hyny. Dywed ei fod ef yn adnabod y Tad, a'r Tad yn ei adnabod yntau mewn modd priodol iddynt eu hunain, ac nad oes neb yn ad- nabod y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo ; ac hefyd fod adnabyddiaeth o hono ef, yr un peth ag adnab- yddiaeth o'r Tad, ac yn fywyd tragwyddol. Galwai Dduw yn Dad iddo, a chydnabyddai ei fod yn gwneyd felly mewn ystyr ag oedd yn ei wneyd cystal a Duw. Dywedai hefyd fod undeb di- eithriad rhyngddo a'i Dad yn mhob peth a wnelo. "Pa beth bynag," meddai " y mae y Tad yti ei wneuthur, hyny hefyd y mae