Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

III5EH g (^be Cambrían ^emperance Cbronícle.) Cyf. l.-Rhif 7. RHAGFYR, 1891. PRIS CEINIOG. Y PARCH. MORRIS MORGAN. JID annerbyniol gan ddarllenwyr y Cronicl l'ydd cael ar ei dudalenau fraslun o hanes bywyd cysylltiedig âg " actau neu weilh- redoedd" (roruchwyliwr ac Ysgrifenydd ymroddedig Cymanfa Ddirwestol Deheudir Oymru. Mae ef yn ddisgyuydd o wehelyth nid anenwog yn hanes crefyddol ei wlad. Yr oedd ei dad-cu (taid), gwr o'r enw Morris Morris. yn flaenor dyianwadol yn nghapel y Methodistiaid yn Lledrod, sir Aberteifi, ac yn gefnder i'r pregeth- wr tywysogaidd, y Parch. Ebenezer Morris ; ac yr oedd ei hen da;l-cu, Morgan Morris,yn frawd i'r diwyg- iwr nerthol, Dafydd Mor- ris, tad Eben. Hawdd i'r neb sydd yn hyddysg yn hanes yr enwogion hyu gaufod fod ein gwrth- ddrych yn dwyn llawer o'u delw yn amgylchedd trwchus ei ddyn oddiallan, hylithrwydd ei ddawn ym- adroddi, ac yn nerthol- rwydd cwmpasog ei lais soniarus. 0 fewn i'r uu fro, ac o íewn i filldir i'r fan y magesid y Morris- iaid mawrion uchod, y gwnaeth y Parch. Morris Morgan yntau hefyd ei ymddangosiad ar y 23ain o fis Medi, 1837. Anedd- dy bychan, dinod, yn mhlwyf Lledrod, o'r enw Penrhiw, yr hwn a saif ar yrnyl y ffordd fawr sydd yn arwain o Dregaron i Aberystwyth, yw y fangre y gwelodd ein gwrou gyntaf oleuni y dydd. Enw ei dad ydoedd James Morgan, gwr crefyddol, cadarn yu yr Ysgrythyrau, yr hwn briododd â Sarah, mereh i'r crybwylledig Morris Morris. ICyflwynwyd Morris bach yn y bedydd i'r Arglwydd gan y diweddar Barch. Richard Humphreys, a phan ddeallodd yr hen sant sarff golomenaidd o'r Dyffryn fod y baban newydd-fedyddiedig yn dal cysylltiad perthynasol â'r Morrisiaid gwlad-enwog, ao hefvd â'r hen offeir- iad Methodistaidd, y Parch. J. Williams, Lìedrod, gofynai, " Beth fydd y bachgenyn hwn?" Pan yn llanc, yr oedd Morris yn llawn asbri yn mhlith ei gyfoedion, a bu ei ym- ddygiadau beiddgar a di- arswyd ar fîn ei arwain fwy nag unwaith i enbyd- rwydd am ei einioes. Pan oedd ef ond ieuanc, sy- mudodd y teulu i ardal Cefngorwydd, sir Frych- einiog,oherwydd amgylch- iadau cysylltiedig â chelf- yddyd ei dad, yr hwn oedd law-weithydd medrus mewn gwlan. Gan nad oedd tuedd yn y llanc at alwedigaeth ei dad, pren- tisiwyd ef i fod yn siopwr. Er fod rhyw ymferwad o'i fewn er yn blentyn am fod yn wr cyhoeddus, oddeutu y tymlior hwn y teimlodd awyddfryd difrif- ol am fod yn bregethwr. Wedi gorphen ei ymrwym- iad fel egwyddorwas, aeth i'r ysgol (yr ydym yn meddwl) i Aberaeron, yr hon a gedwid gan y Parch. Danieì Evans, Ffosyffin, gwr o athrylith diamheuol. Tua yr adeg hono yr oedd Diwygiad Dafydd Morgau, Ysbytty, yn ei nerth, ac yn ysgwyd yr holl wlad o'i chanolbwynt i'w ham- gylchoedd. Cynhyrfwyd Morris ieuanc hyd wraidd ei bersonoliaeth gan y Diwygiad grymus hwn. Cof gan yr ysgrifenydd ei weled ef ac amryw ereill o lancian y Diwygiad ar y llwyían yn Llangeithot mewn cyfarfod gweddi am 8 o'r gloch dydd olaf