Skip to main content

ITTb xxa.:dt olygiaeth Mr, W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. GYFROL III. RHIF 26. CHWEFROR, 1880. PRIS CEINlOa CYNWYSEB: Llenladrad..................13 ìíodion o'r Brif Ddinaa ............14 Congl yr Hanesydd— Y Delyn..................14 Nodion o Lanan y Mersey............15 Mr. Brinley Bichards ar Gerddoriaeth y Cymry 15 - - - - 16 17 18 19 20 21 21 22 22 Pa beth yw Cerddoriaeth, a'i dechreuad Cymanfaoedd Cerddorol Cynulleidfaol... Cerddoriaeth— " Gras eia Harglwydd Iesu Grist " ... Congl yr Hen Alawon—Crefyddol a Moesol Cylchwyl Lenyddol Trefriw ...... Barddoniaeth—" Y Gwanwyn Mwyn "... Ein Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol......... Y Wasg Gerddorol ......... Amrywiaeth............... Nid oes hawl gan néb gyhoeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Ysgol heb ganiatad, neu ynte gydnabod obale y cymerir hwy. L L E N U_D R A D . {Traethawd buddugol yn Eisteddfod Jewin Cres- cent, Llundain, Nadolig, 1875, dan feirniadaeth y Parch. D. C. Davies. Gan "Brysiog," sef Seth P. Jones]. Llenladrad sydd air cyfansawdd yn rhan- edig i "Llen" a " Lladrad." Ystyr " Llen" yn y cysylltiad yrna ydyw llen- yddiaeth, neu gyfansoddiadau rhydd- iaethol a barddonol. " Lladrad" ydyw cympryd unrhyw beth yn wirfoddol ac heb ganiatad o eiddo arall, a'i bei*chenogi fel ein heiddo ein hunain. Drwy gysylltu y ddau air yn nghyd a'u hystyr, ceir fod Ilenladrad yn arwyddo cymeryd yn wir- foddol, ac heb ganiatad eu hawdwyr, unrhyw weithiau llenyddol a'u defnyddio fel ein heiddo ein hunain. Cynwysa hyn gymeryd rhanau o weithiau—brawddegau neu syniadau. Gwelir nad ydyw j gair ynddo ei hun yn cynwys lladrad cerdd- orol; ond yn absenoldeb gair arferedig i'r pwrpas, megys cerddladrad, defnyddir y têrm llenladrad mewn ystyr gerddorol jn ogystal ag mewn ystyr lenyddol. Y mae llenladrad yr un mor waharddedig a chosbadwy ag ydyw lladrad cyffredin, oblegyd y maent yn hanfodol debyg. Ond cyn y gellir ystyried gweithred yn ladrad, rbaid cael pei'chenogydd i'r hyna ystyrir yn cael ei ladrata. Hefyd rhaid i'r weithred fod yn ymwybyddol. Yn gymaint ag fod gwrthddrychau llen- ladrad yn fwy o eiddo cyffredinol na gwrthddrychau lladrad cyffredin, nid ydyw cyn hawdded dadenhuddo (detectio) y naill a'r llall. Perchenogir yn agos yr oll o bethau cyffredin a materol gan unigolion, ac nis gall yr un peth gael ei berchenogi yn gyflawn gan fwy nag un person ar y pryd. Ond am bethau meddyliol, megys brawddegau a meddyl- ddrychau llenyddol a cherddorol, gallanfc gael eu hamgyffred neu eu cyfansoddi gan laweroedd, a hyny mewn modd hollol annibynol. Arweinia hyn i debygolrwydd cyfansoddiadol a chrea ddrwgdybiaeth o barthed i onestrwydd y gwahauol gyfan- soddwyr. Er hyny, dylem feddu sicr- wydd fod y naill wedi gweled neu glywed. cyfansoddiad y llall, ac yn wirfoddol wedi mabwysiadu yr hyn ddrwgdybir, cyn coleddu y syniad mai llenladrad ydyw. Nid llenîadrad o gwbl ydyw yr hyn a elwir yn lenladrad anfwriadol neu anymwybodol. Y mae yn dygwydd yn aml fod cyfansoddwyr yn ystyried fel eu heiddo eu hunain syniadau barddonol neu strains cerddorol wTedi eu cyfansoddi gan ereill; ac nis gellir eu cyhuddo o len- ladrata, os yn annibynol ar y cyfryw. Y mae y geiriau, " fel eu heiddo eu hunain," yn awgrymu idd ein meddwl y gofyniad, Pa bryd y gellir ystyried meddylddrychau barddonol neu gerddorol yn eiddo personol. A oes rhaid iddynfc gael eu creu ynom ein hunain cyn y byddonfc felly ? Y mae y gair " creu" yn golygu gwneud unrhyw beth heb gymhorth allanol—gwneud o ddim. Y mae creu meddylddrych yn ol ein darn- odiad yn golygu ei gynyrchu ynom ac o honom ein hunain heb unrhyw gymhorth oddiwrth arall. Pe cynyrchem un yn y modd hwn, yn ddiddadl byddai yn eiddo