Skip to main content

U-áLlST OLTGIAETH Urt W. L REES (A/aw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAVIES. CYFROL II. RHIF 22. HYDREF, 1879. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Trem ar Gerddoriaeth ein Heisteddfodau, 1878 9, a'nDyfodol ............ Prifysgol Cytnru a'r Adran Gerddorol Nodion o'r Brif Ddinas............ Y Delyn .................. Cwrs o Ysgrifan ar y Tonic Sol-ffa ...... Pa beth yw Cerddoriaeth, a'i dechrenad Cerddoriaeth— '' Bendithiaf yr Arglwydd "...... Ein Bwrdd Golygyddol......... Congl Alawon y Diwygiad ...... Cymanfaoedd Cerddorol Cynulleidfaol Barddoniaeth— " Yn Mhob Gwlad y Megir Glew " ... Hysbysiadau ............ 109 110 110 111 112 113 114 115 116 117 118 120 Nid oes hawl gan neb gyhoeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Ysgol heb ganiatad, neu ynte gydnábod obaley cymerir hwy. TREM AR GERDDORIAETH EIN HEISTEDDFODAU, 1878-9, A'N DYFODOL Ek mai amrywiol yw y cyrddau, neu y cynulliadau a gamenwir yn eisteddfodau eleni eto, fel arfer, ychydig mewn gwir- ionedd ydyw nifer y rhai sydd a hawl gyfreithlawn i'r hen enw anwyl—ie, anwyl i bob Cymro sydd yn caru ei wlad a'i genedl—yr Eisteddfod. Nid oes neb a wâd nad oes gan ein heisteddfodau, teilwng o'r enw, ddylan- wad iachusol a llesiol iawn ar gerddonaeth Gymreig; tra, o'r ochr arall, fod gan y rhan fwyaf o'r rhai a elwir felly, ond heb eu cychwyn gydag amcan teilwng o'r sefydliad, ddylanwad hynod niweidiol ac afiachus ar ein cerddoriaeth yn mhob gwedd. Gan fod pob cerddor yn addef hynyna, nid oes achos i ni yn y fan. hon ddwyn profion yn mlaen i'w brofi. Yr Eisteddfodau pwysicaf yn ddiau y flwyddyn hon, o ran maint a gwerth y gwobrwyon, a'u dylanwad yn mhob ystyr oeddynt, Eisteddfodau Cenedlaethol Con- *y a Chaerdydd, ac Eisteddfod Daleithiol Eryri. Gwasanaethwyd ynddynt gan amryw o brif feirdd, llenorion, a cherdd- orion y genedl; ac yr oeddynt yn cael en noddi gan lawer iawn o'n prif foneddigion. Gan mai a'r rhan gerddorol y mae a fynom ni yn benaf, gallwn nodi nad oedd y gwobrwyon yn Eisteddfod y Gogledd eleni, am ganu corawl, o gymaint gwerth ag oeddynt yn Birkenhead y llynedd, na Chaernarfon y flwyddyn cyn hyny ; ond deallwn fod y gystadleuaetb o nodwedd uchel, er nad yn lluosog. Cyffredin a theneu iawn, yn ol tystiolaeth y beirniaid, oeddy cystadleuaethau ar y testynau ereill, yn enwedig yr unawdau, o'u cymharu a'r blynyddoedd o'r blaen. Dichon mai i'r ffaith fod y gwobrwyon wedi eu gostwng y mae cyfrif am hyny. Ond os oedd nifer y cystadleuwyr yn fychan ar gan- iadaeth yn Conwy, yr oeddynt, fel y deallwn, yn dra lluosog yn Nghaerdydd, a chafwyd canu ardderchog yno ar y cyfan. Profodd cor Taibach ac Aberafon, o dan arweiniad Eos Cynlais, eu bod yn ddigon trechna'u cydymgeiswyr profiadol, os cymerwn ffigyrau y beirniaid i ystyr- iaeth. Y mae system y standard ffigyrol yn ffordd ysgoleigaidd a chlasurol iawn o feii'niadu, ond yn ol ein profiad ni t mae yn ddigon hawdd rhoddi ffigwr yn ormod i un, a haner ffigwr yn rhy faclí i'r llall; a synwn, hytrach, fod beirniaid sydd wedi gwneud cryn waith, ac wedi gwneuthur enw iddynt eu hunain yn ol yr hen ddull eisteddfodol yn neidio at ddull colegawl fel hyn o feirniadu. Ond nid oes ynom. y petrusder Ueiaf na aethant ti'wy eu gwaith yn anrhydeddus a boddliaol. Chlywsom ni ddim fod un o'r Eistedd- fodau hyn wedi dwyn i'r golwg un canwr neu gantores newydd o allu arbenig. Ond lled debyg fod llawer o'r bechgyn a'r genethod ieuainc a ymgeisiodd yn dra addawol; ac mae'n gysur i ni feddwl fod yr hen gantorion yn cadw eu lleoedd. Yn yr adran offerynol, o bosibl, y mae mwyaf o dalent yn dod i'r golwg y dyddiau yma, ac mae hyn yn argoeli yn dda am y dyfodol. Dygir i fewn yn lled