Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ud-ôjn- oh.ttgí-i.a.etb: Mr, W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. CYFROL II. RHIF 21. MEDI, 1879. PRIS CEINIOG. ŷ CYNWY8EB: Y diweddar John Atnbrose Lloyd ...... 97 Gwreiddioldeb—Pa beth ydyw? ...... 98 Nodion o'r Brif Ddinas............99 Y Delyn ..................100 Cerddoriaeth ...............101 Cerddoriaeth— "Cadw fi" ...............102 Pa beth yw Cerddoriaeth, a'i dechrenad ... 103 Alaw Ddu a Cherddoriaeth y Cysegr......103 Cymanfaoedd Cerddorol Cynulleidfaol ... 104 Y Mis— Eisteddfod Genedîaethol Conwy ......105 Eisteddfod Gadeiriol Eryri.........105 Ein Bwrdd Golygyddol— Y Wasg Gerddorol ............106 Hysbysiadau ...............108 tggjT Nid oes hawl gan ncb gyhoeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Ysgol heb ganiatad, neu ynte gydnabod o bale y cymerir hwy. Y DIWEDDAR JOHN AMBROSE LLOYD. GAN DR. JOSEPH PARRY. Yr ydwyf wedi teimlo er ys amser maith bellach, fod enw yr awdwr athrylithgar a*gorphenedig hwn wedi ei anghofio yn rhy f uan, a'i weithiati wedi cael eu hes- geuluso yn ormodol. Pan yn bresenol yn ein heisteddfodau, a phan yr edrych- wyf o amgylch a darllen enwau llenorion, beirdd, a cherddorion ymadawedig ein gwlad, yr wyf yn cael fy synu a'm clwyfo na welir ddim o'r enw anwyl hwn yn mhlith yr enwau a anrhydeddir genym fel cenedl. Teimlaf nad oes enw mwy hoff ac anwyl genym, ac nad oes un o'n cydoeswyr cerddorol yn feddianol ar fwy o athrylith naturiol, na a mwy o chwaeth a'r gorphenedig yn ei gyf ansoddiadau; hefyd wedi ysgrifenu yn fwy, os mor, llwyddianus yn amrywiol ffurfiau cyfan- soddiant, a'r cyfansoddiadau hyny wedi gwreiddio yn serch a chalon y genedl, na gwrthddrych yr erthygl hon. Nid oes angen ond crybwyll ei " Eifionydd" áfc ereill fel tonau, " Y Blodeuyn Olaf " fel canig, a " Theymasoedd y Ddaiar" fel anthem, er profi fod sail i'n hedmygedd. Collasom wroniad o'r blaen yn ddiweddar —sef Mynyddog a'r Parch. Ieuan Gwyllt —ac y mae y genedl yn gwneud ymdrech er adgoffa eu henwau yn deilwng; ond yn hyn eto cawn fod yr enw anwyl hwn yn cael ei anghofìo a'i esgeuluso. Y mae yn dda genyf allu hysbysu fy narllenwyr fod ar ei ol ddau fab, pa rai sydd yn gerddorion gwych, deallus, a dysgedig; ac un o honynt wedi enill iddo ei hun y gradd o Bachelor of Music. Gwn fod rhai o'n cerddorion yn rhy dueddol o wenu yn wawdus ar ofynion arholiadol, a gwerth ■musical degrees; ond gallaf ddyweyd fel un sydd wedi ac yri debyg o barotoi ym- geiswyr i'r arholiadau hyn, ac wedi bod trwy y bwlch cyfyng—bwlch ag sydd mor gyfyng fel y gellir dyweyd am- dano fel ag y dywedodd yr hen Hiraethog, yn Llanrwst, am fylchau rhai o fesurau caethion barddoniaeth Gymreig, fod am- bell fardd yn cael y bwlch mor gyf^'ng " nes y mae yn gadael blew ei groen ar ei ol." Felly y tybiaf y b^ ddai ar ambell un o'r cerddorion hyn pe yr anfonid hwy drwy y bwlch hwn, a gwelid blew eu crwyn hwythau ar eu hol, nes y cyf- newidient eu barn a meddwl llai o honynt eu hunain. Y mae yn fy meddiant luaws o MSS. jt awdwr hwn, pa rai sydd heb eu cyhoeddi erioed. Ar íy nghais cefais hwynt, fel y gallwyf wneud ychydig tuag at eu dwyn i sylw y wlad. Felly mi a ddechreuais eu hadolygu, a theimlais yn bur fuan nas gallaswn, gan eu bod mor lluosog, gario allan fy nymuniad. Ni wnaf felly ond eu henwi:—1. "Y Mab Afradlon," yn G lon, anthem neill- duol dda i bum llais, o arddullllym Bach. 2. " Cwymp Meddwdod," yn C lon, cyd- gan yn Uawn o nodweddion ei bawdwr. 3. " Bydd lawen iawn," yn Bfat. anthem faith ac amrywiol ei symudiadau. -4. "Cwymp Babilon," G lon ; mae chorale a bass solo dda yn yr anthem hon. 5. "Can y Gwaredigion," yn D lon; anthem o arddull fawreddog, ac fel yr oll o gyfan-