Skip to main content

HD-AJST OLY&IAETH Mrf W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. IYFROL II. RHIF 20. AWST, 1879. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: L'erddoriaeth y Cysegr, gan Dr. Parry......85 ííodau Damweiniol...............86 í Delyn ..................87 Eíunanoldeb Cerddorion............88 Maw Ddu a Cherddoriaeth y Cysegr ......88 Prifysgol Aberystwyth a'r Gangen Gerddorol 89 Cerddoriaeth— " Dal byth wnawn ni"............90 Plant yr Ysgol ...... .........91 Congl y Cyfansoddwr .........92 Beirniadaeth......... .........92 Ein Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol ... .........94 Y Wasg Gerddorol .........94 "Yr Orllewin Fonachlog" .........94 Hysbysiadau........ .........95 |£§P" Nid oes hawl gan néb gyhoeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Ysgol héb ganiatad, neu ynte gydnabod obaley cymerir hwy. CERDDORIAETH Y CYSEGR. GAN DR. JOSEPH PARRY. (Parhad o tudalen 74). Y pedwerydd sylw y carwn osod o dan ystyriaeth ein heglwysi ydyw y ddyled- swydd a'r fantais a ddeilliaw i ganiadaeth pob eglwys, o roddi blwyddyn o addysg gerddorol i'w harweinydd canu. Y mae swydd a chyfrifoldeb arweinydd canu pob capel yn gyfryw ag sydd yn deilwng o lawer mwy o sylw a chefnogaeth pob eglwys nag y maent wedi ei gael hyd yn hyn yn Nghymru ; a chredwyf fod hwn eto yn un aohos o sefyllfa isel ac unrhyw- iol cerddoriaeth y cysegr gan ein cenedl. Y mae sefyllfa caniadaeth gysegredig ein gwlad yn ymddibynu yn hollol ar lafur, gallu, a chymhwysder ein harweinwyr canu; ac yr ydym ni fel cenedl ar ol cenedloedd ereill yn ein cefnogaeth i sicrhau gwasanaeth ein prif dalentau cerddorol i lafurio gyda cherddoriaeth y cysegr. Credwyf fod yr idea hon yn deilwng o sylw ein heglwysi, ac o fewn cyrhaedd canoedd o eglwysi ein gwlad drwy gynal cyngherdd nea ddau yn y fiwyddyn er talu y treuliau, àc, o roddi blwyddyn o addysg gerddorol a chyffredin i'w harweÌDyddion, er eu gwneud yn gym- hwys i ymgymeryd a gofal holl gerddori- aeth yr Ysgol Sul a chyf arf odydd cyhoedd- us yr eglwys. Pe y mabwysiedid y cynllun syml ac effeithiol hwn, codid cerddoriaeth gysegredig Gymreig i ddylanwad a sefyllfa urddasol a theilwng o'r cysegr, a throid llifeiriant cerddorol ein gwlad at wasanaeth crefydd ; a gwelai ein heglwysi yn fuan iawn y fantais a ddeilliai drwy barotoi dynion addas yn mhob ystyr, er ymddiried iddynt ran mor bwysig a dadblygiad cerddoriaeth y cysegr. Yn bumed, yr organ neu yr harmonium. Y mae Uawer o gulni ac anwybodaeth wedi bod yn ein gwlad mewn cysylltiad a defnyddio yr offeryn ardderchog hwn gyda cherddoriaeth yn y cysegr. Carwn i'n heglwysi gredu ein bod, wrth filwrio yn erbyn yr organ, yn milwrio yn erbyn llwyddiant, amcanion, ac effeithiau uchaf a dyfnaf cerddoriaeth gysegredig. Dyma eto un achos arall fod prif gerddoriaeth ein gwlad tu allan i'r eglwys, nes y ìaae ein cyfansoddwyr yn rhoddi ffrwyth eu hathrylith drwy gyfan&oddi glees a cherddoriaeh foesol, gan fod y demand am gyfansoddiadau cerddorol tuallan i'r eglwys. Gwelwn oddiwrth hyn y gall yr eglwys ljrvvodraethu ac arwain talent gerddorol yr holl genedl, os rhoddir maes eangach i'r rhan gerddorol o'n gwasan- aeth crefyddol. Tn chweched, safle yr arweinydd, yr offeryn cerdd, a'r cor eglwysig. Y lle mwyaf manteisiol er arwain y gynulleidfa ydyw iddynt wynebu y gynulleidfa; fod i'r organ, yr arweinydd, yn nghyd a'r cor fod tu cefn i'r gweinidog a'r pwlpud; ac os na bydd hyn yn gyfleus, fod i'r ar- weinydd a'r offeryn i gael eu lle yn y set fawr, a'r cor i fod yn y seti blaenaf ac agosaf at yr offeryn a'r arweinydd, fel y lle mwýaf manteisiol a gwasanaethgar i arwain yr holl gynulleidfa. Grali yr ar-