Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Z":r, I3^»3Sr OLY"G-IAETII Mr. W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. CYFROL II. RHIF 19. GORPHENHAF, 1879. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Cerddoriaeth y Cysegr, gan Dr. Pariy......73 Nodau Damweiniol...............74 Gwreiddioldeb—PabethydywP.........75 Y Delyn ..................76 Prif Gor Cymru ...............77 Cymdeithas y Cerddorion............77 Cerddoriaeth— " Breuddwyd y Fam "............78 Alaw Ddu a Cherddoriaeth y Cysegr ......79 Copgl yr Hynaíiaethydd Cerddorol ......79 Beirniadaeth..................80 Cymanfaoedd Cerddorol Cynulleidfaol......80 Ein Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol............81 Hysbysiadau.................83 Nid oes hawl gan neb gylioeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Tsgol heb ganiatad, neu ynte gydnabod obaley cymerir hwy. CERDDORIAETH Y CYSEGR. GAN DE. JOSEPH I'AREY. Y mae yn galondid mawr i ni gredu fod cerddorion ein gwlad, yn ogystal a'n heglwysi, yn dechreu teimlo dyddordeb yn, a'u dyledswydd tuag at, ganiadaeth tufewn i furiau yr eglwys ; ac yn barod i roddi cyfran o'u llafur er codi cerddor- iaeth y cysegr i safle uchel, nes cael yr argraff a'r effaith briodol arnoni. Er cyr- haeddhynnid oesyrunmudiad mor effeith- iol a chymanfaoedd canu cynulleidfaol, pa rai ag sydd eisoes A\edi gwneud cyf- newidiad mawr yn nghaniadaeth eglwysig ein gwlad; a chyda chydwoithrediad pob eglwys, yn nghyd a'r dalent 'gerddorol a berthyna i bob eglwys, gellir dysgwyl dyfodol gobeithiol ac effeithiol i'n cerdd- oriaeth gysegredig. Teimlwyf mai y d&nl o bob lle a deilynga y pur, y coeth, yr aruchel, a'r gelfyddyd uwchaf; eto, y ^e yn ffaith annymunol fod llifeiriant cerddorol ein gwlad tuallan i'n heglwysi, äc mai eia cyngherddau a'n heisteddfodau jydd wedi denu a sicrhau prif lafur a jjalentau cerddorol ein cenedl, er ys ^ynyddau lawer; ac y niae yr achos o hyn yn gorwedd, i raddau helaeth iawn, wrth ddrysau ein heglwysi, am nad ydynt wedi bod yn ddigon effro i roddi maes eangach, a rhan helaetbach, i gerddoriaeth yn ein gwasanaeth crefyddol cyhoeddus. Fy marn ddiysgog i yw, ein bod ni fel Anghydffurfwyr yn rhy gyfyng a chul yn y defnydd a wnawn o gerddoriaeth yn ein gwasanaeth crefyddol. Y mae pawb yn addef, ac hefyd yn teimlo, mai rhan wir bwysig a gafaelgar ydyw y rhan gerddorol o'n gwasanaeth, ac mai y rhan hon yn unig o'n cyfeillachau, ein cyfarfodydd gweddio, a phregethu, ydyw yr unig ran y gall yr holl gynulleidfa gyd- uno ynddi jn gyhoeddus. Êto, er mor fan- teisiol ydyw i"n cynhesu, gresyn mor unrhywiol, ac mor ychydig yw y defnydd a wneir o honi. Y'mfoddlonwn ar y dôn fer yn unig, gan amdditadu ein hunain o ffurfiau ac effeithiau llawer uwch a dyfnach ar y galon ddynol; hefyd yn esgeuluso gwneud yr iawn ddefnydd o'r dalent gerddorol ag sydd yn gorwedd yn segur yn mhob eglwys. Gan fy mod yn credu nad yw y rhan gerddorol yn ddigon amrywiol, ac nad ydym yn gwneud y defnydd priodol o dalent gerddorol ein heglwysi, dymunaf gyüwyno i'ch ystyr- iaeth y sylwadau eanlynol:— Yn laf.—Y dymunoldeb o ddwyn i ymarferiad cyffredinol yn mhob cyfarfod cyhoeddus y Salm-don, ac yn neillduol yr Anthem Gynulleidfaol, fel peth hawdd ac effeithiol iawn gan yr holl gynulleidfa. Nid anthem neu gydgan i gor yn unig a olygaf, ond anthem fcr, syml, addoliadol, a pherffaith gynulleidfaoì; anthem o ran teimlad, tymher, ac arddull—yn hollol Gymroaidd, fel ein hen donau cynulleid- faol, yn orlawn o'r tan, y moliant, a'r arbenigrwydd hwnw a berthyn i gerdd- oriaeth wir Gymreig. Anthemau ar rai o'r adnodau mwyaf cyfarwydd a phwr- pasol; hefyd anthemau ar rai o'rhen emyn- au mwyaf anwyl gan ein cenedl, pa rai ag sydd yn anthemau o fawl, ac yn agored i