Skip to main content

JDj&l.HT olttg-iaeth Mr, W. T. REES (Âlaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAVIES. CYFROL II. RHIF 18. MEHEFIN, 1879. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Ychydig Sylwadau ar Gerddoriaeth yn pherthynas a'r Celfau Awengar Nodau Damweiniol............ Alaw Ddu a Cherddoriaeth y Cysegr ... "Emmanuel" Dr. Parry......... Cerddoriaeth— " Cartref Cysurus " ......... Cystadleuaeth Lenyddol Ysbytty Ystwyth Cymanfaoedd Cerddorol Cynulleidfaol... Ein Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol ......... Y Wasg Gerddorol ......... Amrywiaeth............... Barddoniaeth— " Nac Wylwch Mwy :'......... Hysbysiadau.............. ... 61 ... 63 ... 64 ... 64 ... 66 ... 67 ... 68 ... 68 ... 69 ... 70 ... 70 ... 71 YCHYDIG SYLWADAU AR GERDDORIAETH YN El PHERTHYNAS A'R CELFAU AWENGAR. O'r pum synwyr ag y n\ae dyn wedi eu cyunysgaethu a hwy, dau yn unig sydd agorfa neu gludai i ddwyn i mewn bryd- ferthion natur i'r enaid, sef y gwelediad a'r elyw (y llygaid a'r glust). Gellir yn briodol ddywedyd, mai dyma y ddau synwyr o'r gweddill ag y mae arferiad parhaus bron yn cael ei wneud o honynt. Hae'r llygaid ar waith o hyd, ao mae üithau y glust yn wastad yn derbyn y gwahanol seiniau a gynyrchir. Mae'r glust, neu organ y olyw, yn beiriant mwy ysbrydol (goddefer yr ymadrodd) na'r Úygaid, ac yn rhwyddach mynedfa neu agorfa i'r enaid, ac yn cyfranogi mwy yn niwylliant y meddwl a chynydd teim- ladau tynerach. Trwy y llygaid y mae yr enaid megys yn ymagor ac yn tremio ar y hyd yn allanol—yn delweddoli y gwa- üanol ffurfiau ac agweddau a gyffyrddir ynddo : ond drwy y glust mae'r enaid yn tynu iddo ei hun, megys drwy gyfrwng rbyw dannau dirgeledig, gynwysiad .Ysbrydol, neu aughorfforol y byd allanoì. wy gyfrwng y gwelediad, yr ydys yn ^aufod y dyn yn allanol—ei ff urf a'i ag- wedd, a'r hyn y mae yn ei wneud : ond drwy gyfrwng y clyw, yr ydys yn canfod y dyn oddimewn—ei feddyliau, &c, wedi eu corffori yn ei ymadrodd. Y llygaid sydd yn cludo i'r enaid y wybodaeth o ffurf, agwedd, a chydberthynasau pethau a'u gilydd mewn lle (space), ond y glust a gluda i'r enaid y wybodaeth o gyfan- soddiad mewnol a dirgelaidd yr unrhyw bethau neu sylweddau. Nis gallwn wy- bod fod unrhy w sylwedd yn galed, durfìn, hydwyth, brau, <fec, oddiwrth ei ffurf allanol o'r Uygaid ; ond oddiwrth y dòn neu y swn a gynyrcha, pan mewn cynhyrfiad. Fel hyn, drwy gyfrwng y cîyw> yr ydym yn dyfod i wybod am hanfodion dirgelaidd unrhyw sylwedd, yr hyn nis gall y llygaid mo'i ganfod; ac fel hyn yr ydys yn casglu fod y celfyddydau sydd yn llefaru wrth yr enaid drwy gyfrwng y clyw, yn fwy ysbrydol, neu ausylweddol, na'r rhai sydd yn ymrithio i'r enaid drwy gyfrwng y Uygaid. Tn ddiau, yr un sydd yn sefyll yn flaenaf a'r odidocaf o'r celfau llafar ac awengar hyn yw cerddoriaeth. Wrth fyned ya mlaen, ni sylwn ychydig ar rai o'r celfau awen- gar mewn dull cymhariaethol a chyfer- byniol i benawd y testyn. Mae arliw- iaethjn gelf awengar, ac yn gofynoleiaf ddau beth er ei bodolaeth, sef dau fesuriad —hyd a lled: ond nid jw cerddoriaetli mewn un modd yn gofyn hyn, mae'n hollol rydd oddiwrth y fath fesuriad. Mae yn gadael heibio bob perthynas a ìle, ac yn sefyll, megys yn y canol, rhwng y meddwl a'r peth j gweithredir arno; canys defnyddiau ccrddoriaeth yw swn, yr hwn nid yw yn meddianu lle (space) ond sydd yn ymddadblygu niewn amser yn unig. Cerddoriaeth yw mynegiad naturiol y teimladau, yn yr un ruodd ag y mae iaith yn fynegiad naturiol y meddwl. " Y glust a egyr yn glau  chwyd yr holl serchiadau ; At lu Ner, telynorion Ei lys e£! anwylweis Ion."