Skip to main content

YB 3D-Ô.IT OLTGIAETH Mr. W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. ÖSSIAN DAVIES. CYFROL II. RHIF 17. MAI, 1879. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Opera Librettos ............... Nodau Damweiniol............... Colofn yr Hanesydd— Y Delyn.................. Bywgraffiadau Byrion — Mr. John Eees (Eos Taf) ......... Cyfarfod Llenyddol Undebol Penygroes, Llan- llyfni, a Nebo ............... Gwersi Cerddorol............... Cerddoriaeth — " Dewrion Filwyr Iesu " ......... Y Gantawd.................. Ein Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol ............ Y Wasg Gerddorol ......... Alaw Ddu yn y Tònau ............ Amrywiaeth— Y Modd y mae Cyfansoddwyr yn Ysgrifenu... 58 Cyflogau Cantorion ............58 Tonau yr Almaen...............58 Hysbysiadau.................59 OPERA LIBRETTOS. Yr. oedd Bellini yn ffodus iawn gyda librettos " La Sonnambula," " Norma," ac " I Puritani." Mae " La Somnan- bula " yn llawn o nodweddion gwledig a digrif—mae yn comedy dda iawn. Mae y Dderwyddes yn "Norma" yn gwneyd y darn hwn yn un o'r tragedies goreu fu ar fanlawr erioed. Am " I Puritani," mae yn llawn dyddordeb hanesyddol. Nid oes gan Verdi ond ei " Ernani " na chan Donizetti ond ei " Lucia" yn deilwng o gymhariaeth a thair libretto Bellini. Ond nid oes yn y tair, wedi'r cyfan, deilyngdod llenyddol mawr, a phe buasai, collent drwy hyny eu gogoniant fel Ubrettos da. Teimladau pobl, ac nid yn gymaint eu syniadau, sydd a fynom mewn opera. Wrth gyfansoddi libretto, yn gyntaf, dylid dwyn yn mlaen bersonau ag y byddid yn debyg o deimlo dyddordeb dwfn yn eu tynged; ae yn ail, dylid gosod y personau hyny yn y fath leoedd fel ag i ddwyn allan ystorm o deimladau. At hyn, dylid ychwanegu hanes syml, clir, a hawdd ei ddeall. Mae yr oll o hyn yn librettos Bellini. Ar y llaw arall, mae yr holl opera Ubretto8 o ddyddiau Mozart hyd yn awr yn profi nad oes gau plot ond pur ychydig i'w wneyd a'u llwyddiant. Mae y libretto fawr Don Giovanni wedi ei chyfansoddi yn wanaidd ae afler ; mae rhanau o'r peiij'Iiion vn blentynaidd, megys "Vedrai Carino; " mae rhanau ereiìl yn anfoesoî. megys cân " Mada- mina." Mae y libretio yn Der Fraiscliutz hefyd yn ymwneyd yn llawer rhy goel- grefyddol a'r goruwch naturiol. Mae yr un bai hefyd yn nglyn a Faiist Gounod. Mae pob ymgais i gynrychioli gwyrth- iau ar y banlawr yn rhwym o greu crechwen ond yn meddyliau plant. Ond am y cerddor, osyn feistr ar ei gelfyddyd, gall efe blethu seiniau mor gywraindrwy eu gilydd fel ag i wir gynrychioli unrhyw beth, a hyny gydag urddas a phrydferth- wch. Gall cerddoriaeth gario i'r enaid gydag urddas a plirydferthwch yr hyn na fedr yr un gwrthddrych gario i'r enaid drwy synwyrau y corff. Mewn libretto dda, ni raid ei gwybod oll cyn y gellir mwynhauyr opera. Dylai y teimladau a ddangosir ynddi fod yn eglur i bawb sy'n gwrando, er heb ddeall cymaint a gair o'r penillion. Dyma lle y mae Wagner yn methu. rlhaid darllen a myfyrio ei librettos ef cyn byth y gellir deall yr hyn sydd yn myned yn mlaen ar y banlawr. Yn hyn, ac hefyd yn ei ddygiad i fewn o'r goruwch-naturiol i'w waith, fel ag yn Lohengrin, y mae Wagner wedi tori dwy reol bwysig—yn gyntaf, nid yw y plot yn ddigon syml ganddo, ac yn ail, nid yw yr iaithwedd yn ddigon syml, teimladwy, a gorchfygol. Dyma ddau goll sy'n angeu i lwyddiant unrhyw libretto. Dychwelwn at librettos ereill yn fuan, ac fe ddichon at libretto ein Opera Gt/mreig.