Skip to main content

Mr. W. T. REES {Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. RHIF II. TACHWEDD, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWY8EB: Dyddiau Boreuol Madame Patti ...... Cyngherddau ein Heisteddfodau......... Llety'rGân.................. Gwersi Cerddorol............... Cerddoriaeth i'r Ieuenctyd— Cedwch o'r Ymylon ............ Bywgraffiadau Byrion— Bywyd a Marwolaeth Heman Gwent...... Colof n yr Hanesydd— Y Delyn.................. Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1878 ... Plant yr Ysgol: neu Wersi Syml ar Gynghan- edd a Chanu ... ... \ ...... Hysbysiadau................. 84 85 DYDDIAU BOREUOL MADAME PATTI. Mae y stori am ddyddiau boreuol Madame Patti, f el yr adroddwyd hi gan y gantores ddoniog ei hun wrth Dr. Edward Hans- lick, o Milan, yn werth ei hail-adrodd. Ganwyd hi yn Madrid, yn 1843. Siciliad oedd ei thad, a Rhufein-wraig oedd ei mam; ac yr oedd y ddau yn gantorion rhagorol. Pan oedd hi ond plentyn, ym- fudodd y teulu i New York, lle y daeth yn hyddysg yn y ieithoedd diweddar; a dysgwyd hi i ganu gan ei llys-frawd. Cafodd hefyd wersi mewn dadganu gan Mr. Maurice Strakosch, yr hwn a briod- odd ei chwaer hynaf—Amelia. Clust gerddorol a gallu ac awydd i ganu a ymddadblygwyd ynof pan oeddwn yn ieuanc, meddai y gantores. Pa bryd a pha le bynag y canai fy mam, yr oeddwn inau yn y chwareudy, a phob melodedd ac ysgogiad a argraffasant yn gadarn ar fy meddwl. Ar ol cael fy nodi yn y gwely mi a godwn yn llech- wrus o hono, a thrwy gymhorth goleuni y lainp fechan, cyflawnwn, i'm boddhad fy hunan, yr oll o'r golygfeydd a welais yn y chwareudy. Gwrthban coch o eiddo fy nhad, a hen het a wisgid gan fy mam, a wasanaethent i mi fel dull-wisg; ac fel hyn yr actiwn, y dawnsiwn, ac y pynciwn —yn droednoeth, ond gyda golwg ramantaidd—drwy yr holl opera a glywn. Nid oeddwn heb gymeradwyaethâu a phlethdorchau hefyd, oblegyd mi a ber- sonolwn fy nghynulleidfaoedd—curwn mewn cymeradwyaeth, a thaflwn bleth- flodau ataf fy hunan—plethflodau a wnaethwn o hen newyddiaduron. Wedi hyn daeth aflwyddiant chwerw i'n cyfar- fod! Methodd yr arolygwr, a chiliodd heb dalu ei ddyledion, a gwasgarodd y troupe. Heb fod yn hir dirwasgwyd ni gan angen a thylodi. Cariodd fy nhad lawer o bethau i'w gwystlo, a Uawer pryd ni wyddai pa fodd y cawsai fara i ni. Daeth i feddwl fy nhad y gallasai fy llais, er fy mod yn ieuanc, eu hachub rhag newyn; a, diolch i Dduw, mi a'u hachub- ais hwynt. Pan yn saith mlwydd oed, ymddangosais fel cantores mewn cyngh- erdd, a chyflawnais fy nyledswydd gyda Loll bleser a llawenydd plentyndod. Yn y neuadd sefais ar ben bord, yn agos i'r berdoneg, fel y gallasai yr holl gynulleidfa weled y " ddoli fechan." A beth i chwi yn feddwl genais gyntaf ? Beth ? Dim ond alawon tanllyd (brawura arias), " Una voce poco fa," gyda'r un addurniadau yn union ag y canaf yr alaw heddyw. Cefais y pleser o weled y dillad a'r teganau a wystlwyd yn dychwelyd yn ol, a buom yn byw wed'yn fywyd cysurus. Fel hyn y pasiodd ychydig flynyddau, yn ystód pa rai y chwareuais ac y cenais yn ddyfal gyda fy chwaer Carlotta. Cryfhaodd fy ngallu a'm cariad at y llwyfan yn ddir- fawr, ac yn 1859, pan eto ond yn ferch wedi haner tyfu, esgynais i'r esgynlawr fel " Lucia di Lammermoor." Yn rhifyn Hydref o'r papyr a elwir The Theatre, y mae cyfeiriad yn cael ei wneud at y tebygolrwydd ei bod wedi prynu Castell Craig-y-nos, Ystradgynlais. Dyma y gantores ryfedd, go debyg, yn dyfod yn gymydoges i ni!