Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YB IDA.3ST OLYGIAETH Mr. W. T, REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. RHIF 8. AWST, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Caniadaeth Cysegr Duw Taith Lenyddol a Cherddorol .....oi ......58 Eisteddf od Genedlaethol Carnarfon ......59 Cynghorion Schumann i Gerddorion Ieuaine... 59 Gwersi Cerddorol...............60 Barddoniaeth— Un Galon Bur ......... ......60 Cerddoriaeth i'r Ieuenctyd— Mae'r Blodau wedi Gwywo .........61 Penod i'r Ieuenctyd— Walter Thomas Barker, y Telynor Ieuanc Rhyfedd o Gaerffili............62 Cerddoriaeth Natur— Cyngherdd y Brogaod...... Congl y Cyfansoddwr ...... Ein Bwrdd Cerddorol ...... ......62 ......63 ......63 Hysbysiadau........... ......64 CANIADAETH CYSEGR DUW. (Parhad o tudalen 50). GAN SYLWEDYDD PREGETHWROL. I. Dyledswydd Dyn i Ganu. 4. Dylai ganu amfod Angelion yn canu. —Nis gallwn uno a'r angel mewn llawer o'i orchestion, ani ei fod.yn rhy "gadarn o nerth " i rai mor ddinertli; ond yn y gân, gallwn gyflawni yr un gwaith ag yntau, a phlethu ein moliant a'i foliant yntau. Canodd yr angelion gorawd pan " gydganodd ser y bore, ac y gorfoleddodd meibion Duw." Yr oedd gan y Jehofa flaensedd yn y cyngherdd hwnw, a thebyg i'r dadganwyr roddi trwyadl foddlon- rwydd iddo, am nad yw wedi eu talu off o'i wasanaeth hyd heddyw. Canodd yr angelion yn bereiddiach uwchben Bethle- hem—cyrhaeddasant nodau uwch pan yn eanu am eni Gwaredwr o Mair nag am eni creadigaeth o'r tryblith—ac nid rhy- fedd yn wir, oblegyd yr oedd ganddynt fil gwell testyn, a chawsant 4,000 o Aynyddoedd yn y man lleiaf yn rhagor o bractice. Pe buasai y cerdd-frenin Dafydd ar feusydd Bethlehem pan ganodd "y Uuaws o lu nefol," maeynamheus genym a fedrai cerddor cywrain fel efe notio ei gân, am fod ei synradiadau yn rhy fywiog a chyflym iddo. Nid oes yn staves cerddorol y ddaear le i ragor nag un nodyn ar ugain, heb osod man stares y tu allan iddynt. Yn wir, ni ellir notiû corawdau angelion yn staves y ddaear— mae y cylch yn rhy gul i gwmpas ìlais angel—ni buasai 40 par o staves y ddaear yn ddigon eang i ddal esgyniadau a disgyniadau llais cerddorion y Brenin Mawr. Rhyfedd y fath wahaaiaeth sydd rhwng ein lleisiau ni a llais angel! Lleisiau geirwon a symudiadau afrosgo iawn sydd gan ein Nilssons a'n Pattisa'n Eeeres ni yn ymyl pencerddorion Duw. Drwy ymdrech y gallwn ni seinio dwy wythawd ; ond gall yr angel redeg ei lais drwy wjthawdau afrifed heb flino. Rhyw gripian drwy wythawd neu ddwy a wnawn ni; ond llam-neidio drwy gant o honynt wna'r angel! Os canwn ni aaewn ysgol gâu am awr, byddwn yu flinedig a chryglyd ; ond mae yr angel yn yr ysgol gàn er ys 6,000 o flynyddoedd yn y man lleiaf, ac heb grygu dim—bydd llais un angel, ar ol ysgol gân mor hir, yn ddigon cryf a chlir i ddeffro cwsg marwolion Vr oesau yn morcu y farn. Nid oes sori na " phwdi" yn nghor yr angel, na discord yn y lleisiau na'r calonau chwaith. Buasai yn drugaredd cael rhyw Ddafydd a'i delyn i gorau y ddaear weithiau i ymlid y diafol oedd yn Saul allan o fysg ein cantorion ; ond ni chaiff y c---------1 canu lety eiliad yn nghor mawr y nef. Ni raid i'r cor-fìaenor Gabriel ymboeni am fis i ddysgu corawd i angelion, oblegyd gallant hwy ganu off-hand ar unwaith. Àc yn wir, rhaid iddynt wneud hj'ny, am mai " caniad neìcydd " fydd ganddynt o hyd—mor newydd fel yr â yn hen os arosir lianer awr i'w dysgu. Er ei chadw yn dragywyddol neu-ydd, rhaid fydd i le'is- yddion gogoniant ganu yn mlaen yn ddiatal nes y bydd gorseddau y nefoedd bron dawnsio yn swn eu peroriaeth. Gran fod yr angel yn canu ynte, " Pobperchen anadl, molianed yr Arglwydd."