Skip to main content

■2-R/ TDJ^JST OLYG-IAETH Mr. W. T. REES (A/aw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. RHIF 6. MEHEFIN, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Caniadaeth Cysegr Duw...... Uythyrau Ieuan Gwyllt ...... Llety'r Gân............ Barddoniaeth— I fyny mae'r Nef......... Gwersi Cerddorol......... Cerddoriaeth i'r Ieuenctyd— O! tyr'd i'r Ysgol Sul...... Addfwyn Iesu ... ...... Teithiau Cerddorol Cynulleidfaol Y Bwrdd Golygyddol— Congl y Cyfansoddwr...... Ein Bwrdd Cerddorol ...... Y Wasg Gerddorol ...... 11 -12 ■12 43 4-1 45 45 46 40 47 47 CANTADAETH CYSEGR DTJW. (Parhad o tudalen 33). GAN SYLWEDYDD PREGETHWHOL. I. ÜYLEDSWYDD DYN I GrANU. 1. Dylai ganu am fod natur yn canu.— Cyngherdd-dy mawreddog yn llawn miwsig yw y cread, ac y mae aelodau y cor yn amrywio o'r ceiliog y rhedyn i fyny at y daran drystiawg. Mae y dy- mhestl yn canu rhyw bedair gwaith y flwyddyn, mae y dafnau gwlaw yn canu yn nghlustiau y glaswellt ryw ddwywaith yr wythnos ar gyfartaledd—mae y daran yn dadgan rhyw 50 o unawdau grymus foob blwyddyn. Cana y llew yn ei ffau nes siglo yr anialwch, ac adseinia ia-fryniau Nova Zembla i gan arw yr arth wen. Cana yr aderyn yn yr awyr a'r criced yn y borfa. Cana yr elepliant mawr a'r mor- grugyn distadl! Mae can yn anadliad aroglus y tiwlip, ac yn ysgydwad aden iar fach yr haf. Cynalia y gwynt gyngherdd yn yr ogofeydd, cana y gor- nant ei hunawd rhwng y serthgreig, ac y niae corawd nerthol y cefnfor yn crynu y creigiau cedyrn ! Mae yn y dyferyn dwfr 500,000,000 o drychfilod, a phob un o honynt yn gerddor; ac y mae cystal íûiwsig yn y dafn dwfr ag sydd yn y Royal Acaclemy of Music, pe gallasem ei glywed yn iawn! Mae eithafìon yn cyfarfod ar esgynlawr y gerdd—yn un pen iddi ceir yr eos a'i phereiddsain, ac yn y pen arall ceir yr asyn a'i oernadau, ac er mor aflafar yw can yr asyn, bernir fod ei heisieu cyn gwneud anthem y greadigaeth yn llawn a pherorol. Tybir yn gyffredin pe cesglid lleisiau llafar ac aflafar natur at eu gilydd, y buasai yn eu cerdd unedig fiwsig heb ddim discord. Safer yn ymyl organ cryf, ni chlywir dim ond swn trystfawr; ond safer gryn bell- der oddiwrth yr offeryn, bydd y claag aflafar wedi cilio, a'r beroriaeth felusaf yn taro ar y glust. Safer yn swn yr ystorm a'r daran, a'r fuwch a'r fran, pan yn canu, mae y seiniau yn taro yn aílafar ar y glust; ond pe gallem esgyn i fyny filldir neu ddwy i'r awyr, i wrando ar y seiniau sydd yn esgyn at Dduw o'r gread- igaeth, buasent oll yn syrthio feldyferion o dant Gabriel ar ein clustiau. Mae llais y frau ar ei phen ei hun yn oeraidd— mae Uais y llo ar ei ben ei hun yn aflafar, ond cymysger y llafar a'r aflafar a'u gilydd—cladder lleisiau y fran a'r llo yn seiniau pereiddiach cor mawr anian, a tharawed pob un ei nodyn yr un eiliad, a bydd yna golofn o gynghanedd felunber yn esgyn i'r nefoedd ! O ! syniad gogon- eddus, onide, fod y lleisiau o bob planed yn toddi yn swynol i'w gilydd, nes peri i bob planed seinio fel cloch arian wrth ddawnsio o gylch gorseddfainc y Jehofa! Ac y mae y Beibl yn cyfaddef fod natur yn balas y gan. " Rhued y mor a'i gyf- lawndei:—llawenhaed y maes a'r hyn oll sydd ynddo—yna prenau y coed a ganant o flaen yr Arglwydd! " Dyna driawd pur swynol—y mor, y maes, a'r goedwig. " Y dolydd a wisgir a defaid, a'r djffryn- oedd a orchuddir ag yd, am hyny y bloeddiant ac y canant." Dyna ddeuawd hyfrydol eto gan y ddol a'r dyfíryn, a chryn dipyn o hwyl ynddo hefyd, oblegyd " bloeddiant a cbanant." T mae genym