Skip to main content

r)-A.3ST OLYGIAETH Mr, W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAVIES. RHIF 3. MAWRTH, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Cor y Capel a Chaniadaeth y Cysegr Prifysgol Aberystwyth ......... Yr Eisteddfod Genedlaethol ...... Llety'r Gân............... Gwersi Cerddorol............ Teithian Cerddorol Cynulleidfaol Undeb Llenyddol Dolyddelen ...... Y Bwrdd Golygyddol— Cerddoriaeth yr Ysgol Gerddorol Colofn y Dadganydd Barddoniaeth— Hiraethgan ar ol y Gohebydd...... Yr Hen Gelynen Werdd ...... Cymdeithas Gorawl Bangor ...... Cynghorion Schumann i'r Cerddor Ieuanc Colofn Holi ac Ateb ......... 17 18 19 19 20 20 21 21 22 22 23 24 21 CWRS 0 ANERCHIADAU NEU BAPYRAU YMARFEROL A BEIRNIADOL AR GERDDORIAETH A CHANIAD- AETH 6YSEGREDIG. YSGEIF II . COR Y CAPEL A CHANIADAETH Y CYSEGE. Yn ein hysgrif o'r blaen ni a draethasoin ar gorau ein capelau fel y raaeut ysyw aeth. Yn awr rhaid i ni geisio eich arwain i chwilio allan beth sydd yn achosi y fath sefyllfa ddifrifol a hynyina ar cin cantor- ion yn eu cysylltiad a gwaeanaeth y cysegr. Y mae amrywiol o bethau, ond dyma dri o resymau sydd yn rhwystr neu yn sefyll ar ffordd ein caniadaeth gysegredig; megys (1) anwybodaeth a hunanoldeb, (2) cystadleuaeth eistcddfodol a gwib- deithiau, (3) diogi a diffyg archwaeth. Anwybodaeth a hunanoldeb.—Yr ydym yn teimlo fod yn rhaid i rywrai ysgrif- onu a thraethu llawer iawn eto ar bynciau yn dal cysylltiad a'r gelfyddyd gerddorol cyn gallu codi a chymhwyso y mwyafrif o'n pobl ieuainc cerddgar i lanw eu lle yn nghôr y capel neu'r eglwys, a gwneud öu dyledswyddau yu deilwng tuag at ganiadaeth y cysegr. Nid yw y bachgen ûeu'r ferch yn gwybod digon am elfenau cyntaf y gelfyddyd, chwaithach am gerddoriaeth yn gyffredinol, fel ag i'w haddasu i fwynhau cerddoriaeth bur a chysegredig. Am hyny crefant am bethau mwy bywiog ac ysgafn—pethau mwy arwynebol a gogleisiol. Cynghorwn chwi, ieuenctyd ein corau, yn ddifrifol i wneud y defnydd goreu o'r manteision sydd o fewn eich cyrhaedd, er ceisio dod i ddeall cymaint byth ag a fedroch. Dyma y feddyginiaeth oreu y gwyddom am dani at wella, ie, at ladd coegni a hunan- oldeb. Y chwi, y Solffawyr yma, ewch i lawr yn is na'r notatìon. Nid ydyw y nodiant—yr hen na'r newydd—ond y plisgyn sydd yn amdoi gwyneb yr eigion ; o dano mae y mor mawr, llydan, a di- ysbydd—yn llawn perlau a thlysau ; ac fel y byddoch yn dynesu tua'i lan, a dechreu gwlychu eich traed yn ei ddyfr- oedd mawreddog, a chodi i fyny y trysorau o un i un, chwi a deimlwch eich hunan- oldeb a'ch mursendod yn syrthio i ffwrdd, a dewch yn rhai bychain, diymhongar, hawdd eich trin, a chymhwys i waith a ' bywyd o ddefnyddioldeb. Cystadleuaeth a cju'ìbdeithio.—Pell ydym o fod yn erbyn yr eisteddfod a chystadlu. Gwnaeth yr eisteddfod, a gwna eto, ond ei chadw yn ei phurdeb—ond gofalu iddi gael ei chadw yn ei 11 e priodol—lawer o les. Hi yw yr unig athrofa ag y mae aml i fab a merch sydd heddyw yn addurn i'w gwlad wedi eu meithrin ynddi. Ar ei bronau hi, mewn gwirionedd, y mae rhai o'n dynion mwyaf athrylithgar wedi eu magu. Cystadleuaeth roddodd gychwyniad—ie, a ddygodd i'r golwg dalentau a fuasai byth yn nghudd oni bai y symbyliad hwn. Na, nis gallwn fod yn erbyn yr eisteddfod, ond ei chadw a'i chynal yn ei lle. Ond yr ydym yn gryf yn erbyn, ac am wrthdystio yn y modd niwyaf difrifol yn erbyn yr ysfa yma sydd wedi meddianu ein corau, a j rhai o'n cerddorion, i hol pres a chlod; a I hyny ar draul esgeuluso eu dyledswyddau I fel aelodau o gôr y capel. Credwn y deilliai mwy o les i'n cerddoriaeth, ao fe