Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"STIR, IDA.lSr OLYGIAETH Mr, W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. RHIF 2. CHWEFROR, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Cor y Capel a Chaniadaeth y Cysegr ..... 9 Llety'rGân..................11 Cymanfa Gerddorol Gwent a Morganwg ... 12 Taith Lenorol a C herddorol .........12 Y diweddar William Hophin .........13 Colofn y Dadganydd ... *.......13 Y Bwrdd Golygyddol— Congl y Cyfansoddwr............11 Ein Bwrdd Cerddorol............11 Ein Bwrdd Barddonol............14 Apel at y Beirdd...............15 Ein Ff ngenwau Dichwaeth ... ... ..15 Barddoniaeth— YBlewynBrith...............15 Colofn Holi ac Ateb...............15 Cronicl y Mis ...............16 CWRS 0 ANERCHIADAU NEU BAPYRAU YMARFEROL A BEIRNIADOL AR GERDDORIAETH A CHANIAD- AETH 6YSE6REDIG. Y S G E I F I. COR Y CAPEL A CHANIADAETH Y CYSEGR. jRhagarweiniad.—Yn awr, pan y mae canu corawl yn cael y fath sylw, ac wedi cyrhaedd y fath berffeithrwydd mewn llawer lle, a phan y meddylioin fod pob capel ac eglwys bron yn Ngogledd a Deheudir Cymru yn gallu ymffrostio yn eu côr cynuÜeidfaol, y mae o'rpimjs mwyaf i nì ddeall beth ydyw dyledswydd ein corau tuag at ganiadaeth gynulleidfaol. Ein hamcan, gan hyny, wrth barotoi y cwrs o anerchiadau byrion hyn fydd ceisio dcíîroi a chodi awydd yn ein cantorion i dalu y sylw dyladwy, ac i ystyried mai y gwasanaeth uchaf y gallant byth ei gyf- lawni ydyw clodfori Creawdydd a Chyf- ranydd pob daioni yn weddus a threfnus yn ei dy. Ond cyn dechreu ar ein tasg, goddef er i ni egluro nad ydym yn golÿgu edrych ar y pwnc mewn gwedd gyfyng a sectar- aidd. Nid yw cerddoriaeth yn cydnabod sect neu opitdon, ac ni ddylai cerddorion wneuthur hyny. Y mae hi yn gyffrcdinol yn ei natur a'i dylanwad, Nid ydym ychwaith jn ngliwrs y gyf- res hon am fyned i mewn i'r pwnc—Pa un ai corawl ynte cynulleidfaol ddylai ein gwasanaeth cerddorol fod ? Y mae ein testyn felly yn un syml ac ymarferol. Oor y Capel a Ghaniadaeth y Gysegr.— Dywedwyd gan un ysgrifenydd nad yw hancsiaeth yn ddim amgen nag athron- iaeth yn cael ei dysga drwy esiamplau. Gan hyny, ni a roddwn i c1iavì ychydig o engreiíftiau (o fysg llawer ereill allem ddwyn yn mlaen) i ddangos fod eiu corau, ie, ein corau cynulleidfaol, y rhai sydd yn ymgynull Sabbath ac wythnos yn ein capelau a'n heglwysi, yn hollol esgenlus o ganiadaeth gynulleidfaol. Dygwydd- asom fod yn treulio Sabbath yn ddiweddar, mewn lle poblogaidd yn îígogledd Cymru. Aethom i'r capel i wrando y bregeth ac i glywed y canu, fel y mae yn arferiad genym ni y Cymry, gan obcithio gallu cydaddoli a hwynt; ond yn fuan teimlem fod .hyny yn anmhosibl. Ar ganol y llawr (basement) yr oedd harmonium mawr, a dyn ieuanc, o ymddangosiad da, yn eistedd o'i fiaen. Yn y seti amgylch- ynol eisteddai y cantorion. Yn fuan dyma y gweinidog yn codi i roddi emyn allan i'w ganu; nid yn hynod o ddeall- adwy a synwyrol, mae'n wir, fel y gall- asem yn naturiol ddysgwyl i bregethwr wneud. Chwareuwyd y dôn drosti yn weddol gyson o ran amser, a gweddol gj- wir o ran sain; gan dalu hefyd gryn dipyn o sylw i aceniaeth, mydryddiaeth, a mynegiant. Codasai aelodau y côr ar eu traed o un i un—rywbryd cyn ter- fynu y penill blaenaf, a'r gynulleidfa yn eu dilyn jn yr un glem. Yr oedd yn eu canu, rhaid addef, dipyn bach o wres a theimlad; ond nid oeddent yn gofalu nemawr ddim am donyddiaeth, mynegiant a threfn. Wrth gwrs, nid llawer o fel- odedd a gynyrchid ganddynt; a'r argrafE adawodd eu cyflawniad arnom oedd, nad oeddent yn malio pa wedd yr ymlusgent drwy y gwasanaeth, ond mynsd drwyddo.