Skip to main content

II u. 111 3D-A.3ST OLTGIAETH Mr, W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. RHIF I. IONAWR, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWY8EB: At ein Darllenwyr.......... Llety'r Gân............... Colofn yr Arweinydd ......... Colofn y Dadganydd ... *. Y Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol......... Barddoniaeth— Pan ar y pell Orllewin For ...... Can Ruth............... Penod i'r Hanesydd— Mozart a'i Neillduolion......... Colofn Holi ac Ateb............ Cynghorion Schumann i'r Cerddor Ieuanc Cronicl y Mis ............ AT EIN DARLLENWYR Gydwladwyr,—Yr ydym heddyw yn agor Ysgol na cheuir ei dorau, ni obe:-th- iwn, tra miwsig yn nentydd gwylltion Cymru, a cherddi y gwyntoedd yn seinio yn nghlustiau ei mynyddoedd. Buoni yn meddwl er ys amser maith bellach fod eisieu cyhoeddiad cerddorol teilwng yn " ngwlad y gân." Ar ol trancedigaeth y Cerddor Cymreig, nid oes genym fawr ddim ar gyfer angen y llenor cerddorol Gymreig. Gwyddom fod llawer iawn o'n cerddorion ieuainc yn deall elfenau cyntaf cerddoriaeth yn dda ; ond teimlwn eu bod ar ol yn egwyddorion cyfan- soddiant, ac yn fynych iawn, y mae eisieu puro a dyrchafu eu chwaeth hefyd. Creu diwygiad yn y cyfeiriad hwn fydd un o brif amcanion yr Ysgol Gerddorol. Nid ydym yn codi " cestyll aur" o addewidion yn nen ein dyfodol er hudo pobl i ddyfod yn dderbynwyr; ond yr ydym yn addaw cyflawni pob addewid a wnawn, ac yn penderfynu gwneud ein goreu i lanw bwlch pwysig yn nghaniad- aeth ein gwlad. Mae gan y Saeson lu mawr o gyhoeddiadau cerddorol campus ar y maes, ac nis gwyddom paham y rhaid i " Gymru lân, gwlad y gân," fod yn ol i'r un genedl dan haul yn hyn o beth. Yr ydym fel Alexander, wedi gorchfygu y byd cerddorol, ac ychydig fydd y parch a deilyngwn os na fedrwn gadw yn fyw un cyhoeddiad teilwng o'r dalent gerddorol ag sydd yn ein nodweddu fel cenedl. Bwriadwn osod y ddau air " byrder " a "symledd" yn arwyddeiriau i'n colofnau. Treth ar amynedd y darllenydd, a gwas- traff ar ein gofod ninau fydd rhyw ribynau hirion ac annyddorol. Tipyn yn fyr a thipyn yn felus fydd ein nod. Gan mai pobl ieuainc fydd y mwyafrif o'n derbynwyr, gofalwn gael pob ysgrif yn syml a dealladwy : Ooleuo fydd ein hamcan, ac nid â cholofn neu ädwy o dywyllwcli yr Aifft y gwneir hynŷ. Ond cofier, wrth fod yn syml, ni byddwn un amser yn blentynaidd ychwaith. Cym- erwn i fyny bethau mwyaf dyrys cerddor- iaeth, ond triniwn yr oll mewn arddull ddigon syml i fod yn ddyddorol i'r mwyaf byr-ddeallgar, fel y gallo yr hwn a redo eu darllen. Ni chaniatawn er dim i ddifriaeth bersonol anurddo ein colofnau, gan na chaiff neb ond y diafol ddifyrwch wrth weled pobl yn lluchio llaid at eu gilydd. Ni chaiff blaen corn y cythraul canu aflonyddu ar ein Hysgol. Ni bydd dim a wnelom a sectariaid un enwad ; ond byddwn yn gefnogwyr ac addysgwyr ffyddlon i gerddorion pob enwad. Deisyfwn yn daer ar ein prif- gerddorion i'n hanrhegu a byr-ysgrifau destlus a dyddorol—tipyn o fwyd blasus o'r fath a gar y cerddor ieuanc. Bydd genym ysgrif arweiniol yn mhob rhifyn ar gerddoriaeth, yn ymarferol ac athronyddol ; ond byddwn bob amser yn rhoddi y lle blaenaf ynddi i gerddoriaeth y cysegr. Gwnawn ein goreu i godi mor-glawdd er cadw diluw cerddoriaeth lygredig allan o'n tir, a cheisâwn ad- gymeryd y cerddi mae y diafol wedi eu Uadrata i'w demlau ei hun allan o deml yr Arglwydd. Bydd gan Alaw Ddu gyfres o papyrau gwerthfawr ar " Gerdd- oriaeth Gysegredig" yn y rnifynäu