Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINACH Y BEDYDDWYR. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1827. [Cyf. I. AR DDÉFNYDDIOLDEB GWYBODAETH. Dywed Salòmon, * Bod yr cnaid heb wybodaeth nid yvv dda.' Y mae gwybodaeth a doethineb yn cael eu cyssylltu yn aml yn yr ysgrytbyrau ; ac y mae Job yn gystal a Salomon yn ei hystyried hi yn drysor tra rhagorol, íel y dengys ei ym- ofyniad am dani, pan y dywed efe, * Ond pa le y ceir doeth- ineb ?—Ni ẁyr dyn beth a dâl hi—Ni cheir hi eraurpur: ac ni ellir pwvso ei gwerth hi o arian/ &c. Job 28.12—19. Y mae doethineb yn gwaeddi ar í'eibion dynion i dderbyn ei ha- ddysg hi, ac nid arian; a gwy- bodaeth o flaen aur etholedig: gan ddangos ei bod hi yn well nâ gemau; ac nad oes dim dymunol cvn*'elyb iddi. Diar. 8.10,11. Gwybodaetb, yn y perffeith- rwydd o honi, ydyw iawn ddeall ac amgyíì'red pethau i'r hyn ydynt, o barth natur, sefyllfa, a defnyddioldeb. I Dduw yn unig y perthyn, ac ynddo ef yn unig y gorwedd, perffeithrwydd gwybodaeth:—a rhan o ddelw Duw ar enaid dyn fel creadur rhesymol, ydoedd gwybodaeth, a hòno yn wybodaeth mor ber- flaith ag a berthynai i greadur, am natur, sefyllfa, a defnydd- ioldeb pethau, yn eu perthynas â'u gilydd, ac â'r natur ddynol. CYF. i. Gellir dosparthu gwybodaetb. i ddwy ran, nid amgen, Cre- fyddol a Naturiol. Gwybod- aeth grefyddol ydyw adnabydd- iaeth o'r unig wir a'r bywioj Dduw, ei berthynas â dyn, a dýledswydd dyn tuag at Dduw. Y mae gwybodaeth o Dduw yn cynnwys crediniaeth o'i fodol- iaeth, ei hunan-ymddibyniaetb, ysbrydolrwydd ei natur, a di- goll berffeithrwydd ei hanfod ; yr hyn a brofir yn egîur i bawb a gawsant neu a gânt wybodaeth, yn holl anian, cydbwys, pryd- ferthwch, a chystrawen gwaith natur, o barth ansawdd, rhin- wedd, harddwch, a defnyddiol- deb. Gyda golwg ar hanfodiad, trefn, dosparthiadau, ac ysgog- iadau ardderchog a defnyddiol natur, yn yjjtorfafen, ac ar y ddaear, y dywed y Salmydd, fod dydd i ddydd yn traethu ym- adrodd, a nos i nos yn dangos gwybodaeth,— bod y nefoedd yn datgan gogoniant Duw, a'r ífurf- afen yn mynegu gwaith ei ddwy- law ef: felly y mae ei anweledig bethau ef, er creadigaeth y byd, wrth ei ystyried yn y pethau a wnaed, i'w gweled yn amlwg; sef ei dragywyddol allu ef, a'i Dduwdod, hyd onid yw ei holl greaduriaid rhesymol ef ar y ddaear yn ddiesgus. Rhuf. 1,20. Y mae gwybodaefh grefyddol 2 Y