Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRÌNACH Y BEDYDDW YR Rhif. 10.] HYDBEF, 1827. [Cyf. I. BUCHEDD ROBERT FERRAR, GENT. ^» ESGOB TY DDEWI. Wrth ystyried dyben a thu- edd da Bucheddau Cyn-Gen- hadonffyddlon Duw, nis gallwn lai nag ystyried coffadwriaeth ymdrechiadaa y Merthyr enwog uchod o blaid y gwirionedd, yn deilwngole yn einCYFRiNACH, yr hwn y llidiwyd cymmaint wrtho am ei athrawiaeth, fel y defnyddiodd ei elynion y cyf- leusdracyntäf,a'rmoddionmwy- af chwerw tuag at gymmeryd ei fywyd ef yraaith. Yr ydym yn gobeithio nad oes cymmaint ag un o ddarllenwyr Cyfrinach y Bedyddwyr heb iawn ddef- nyddio er addysg yr engreifFt o'r gwroldeb a'r sel dduwiol a ddangosir mor eglur yn y Buch- eddau a gyhoeddir genyra o bryd i bryd. Derbyniodd Mr. Ferrar ei ddysgeidiaeth yn Rhydychen, ac yr oedd yn ganonwr rheol- aidd yn ngoleg St. Mary, yn y dref hòno. Y mae yn ymddangos mai duc Somersét, arglwydd ámddi- ffynydd yn nheyrnasiad Edward VI. yr hwn oedd ewyllysiwr da llwyddiant y Diwygiad, oedd noddwr Mr. Ferrar, ac yr oedd yn barnu ei fod yn offeryn addas i ddwyn y gwaith pwysig hwnw ymlaen. Yn ganlynol efe a gaf- odd iddo esgobaeth Tŷ Ddewi, yn Nghymru, i'r hon y cyssegr- cyf. i. wyd ef y 9fed o Fedi, 1547; yn yr hwn le y dygodd ei sêl îddo lawer o elynion ymhlith y Pab- yddion a'u hymlynwyr. Yn fuan wedi hyn diraddiwyd ei noddwr trwy ddichellion plaid wrthwynebol; ac wedi hyny daetb gelynion yr esgob hwn yn fwy erlidgar ac aflonydd o Iawer, a chawsant (trwy ddau swyddog anffyddlon perthynol i'w esgobaeth) gyfraith yn ei erbyn, trwy yr hon, ryw gym- maint o amser cyn marw y bre- nin, y gosodasant ef yn nghar- char am ddyled, yr hon a ffug- honid yn ddyledus oddiwrth ei esgobaeth i'r goron. Gellir yn hawdd rhágfarnu, na allasai y fath ddyn dan y fath deyrnasiad a'r hon a gan- Iynodd, ddysgw;yl am adferiad. Ac yn lle dwyn yr achos agjfr oedd efe wedi cael ei gyhuddo a'i osod yn y Carchar o'i her- wydd, gan y rhai oedd yn chwen- ych ac yn ymegnio ei ddifedd- iannu o'i esgobáeth, dygwyd yn ei erbyn ef gyhuddiad newydd am heresi gan ryw blaid arall o elynion ag oedd yn hela am ei einioes. Ar y pedwarydd o Chwefror, 1555, dygwyd ef, ynghyd ag esgob Hooper, Mr/ Bradford, Mr. Rogers, Mr. Sannders, ac ereill, o flaen y dienyddwr seiog 2 o