Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINACH Y BEDYDDWYR. Rhif. 9.] MEDI, 1827. [Cvr. I. DIFYNIADAU O WAITH PATRICR HAMILTON. Yn y Rhifyn ara y mis di- weddaf ymddangosodd Bywyd y Merthyr duwiol uchod, ac addawyd yno y buasai i ych- ydig ddifyniadau o'i waith ym- ddangos yn y mis hwn. Y nod at yr hon y mae tyniad ei holl sylwadau yw cyfíawnhad trwy fl'ydd ac nid trwy weithred- oedd, yr hyn oedd yn cael ei wadu gan offeiriaid Eglwys Ruf- ain, â'r rhai yr oedd ef yn dadleu. Fel hyn y maeyn dangos gwa- hanol natur y ddeddf a'r efengyl: '< Y mae y ddeddf yn dangos i ni ein pechod, Rhuf. 3. Y mae yr efengyl yn dangos meddygin- iaeth iddo, Ioan 1. Y mae y ddeddf yn dangos i ni ein con- demniad, Rhuf. 7. Y mae yr efengyl yn dangos i ni ein pryn- edigaeth, Col. 1. Y ddeddfsydd air digofaint, Rhuf. 4. Yr efeng- yl sydd air gras, Act. 14. Y ddeddf ywgair anobaith, Deut. 27. Yr efengyl yw gair cysur, Luc. 2. Y ddeddfyw gair aflon- yddwch, Rhuf. 7. Yr efengyl yw gair tangnefedd, Eph. 6. Dy wed y ddeddf, Tâl dy ddyled. Dywed yr efengyl, Crist a'i talodd. Dywed y ddeddf, Ti wyt bechadur, anobeithia, a thi a ddamnir. Yr efengyl,* Ma- ddeuwyd dy bechodau—cym- * Wrth y eyt'tyw ag y niae gwir edifeir- wch wecli ei brofi ganddynt. CVF. I. mer gysur, canys ti a gedwir. Y ddeddf, Gwna iawn am dy feiau. Yr efengyl—Crist a'i gwnaeth drosot. Dywed y ddeddf, Y maeTady nefyn ddigllon wrth- yt. Yr eí'engyl, Y mae Crist wediei wneuthuryn heddychlon â'i waed. Y ddeddf, Pa le y mae dy syfiawnder, dy ddaioni, a'r boddlonrwydd ag wyt yn ei wneuthur? Yr efengyl, Crist yw dy gyfiawnder, dy ddaioni, a'th iòddlonrwydd. V ddeddf, Yr wyt yn rhwym i mi, i ddiafol, aciufl'em. Yr efengyl, Crista'th waredodd oddiwrthyut oll." Fel hyn y mae yn cymham ffydd ac angrediniaeth :— " Ffydd sydd wreiddyn pob daioni. Anghrediniaeth yw gwreiddyn pob drwg. Ffydd a wna Dduw a dyn yn gyfeillion. Anghrediniaeth a'i gwnant yn elynion. Y mae ffydd yn dwyn Duw a dyn ynghyd. Y mae anghrcdiniaeth yn eu gwahanu. Y mae yr hyn oll y mae ffydd yn ei wneud yn boddloni DuW. Y mae yr hyn oll ag y mae anghrediniaeth yn ei wneud yn ei anfoddloni ef. Ffydd yn unig a wna ddyn yn gyfiawn a da. 2k