Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINACH Y BEDYDDW YR. Rhif. 7.] GORPHENAF, 1827. [Cyf. I. COFFADWRIAETH Y PARCH. ABEL YAUGHAN. Ar dydd Llun, y 23 o Ebrill, 1827, wedi dyoddef yn amyn- eddgar iawn oddiamgylch saith mis o gystudd nychlyd, bu farw y Parch. Abel Vaughan, gwein- idog y Bedyddwyr Neillduol yn y Cefn Bychan a Phen-y-cae, plwyf Ruabon, swydd Dinbych, yn 42 oed, wedi llafnrio yn y weinidogaeth o gylch un flynedd ar hugain. Efe ydoedd wr cadarn a nerth- ol. Gwr a gerid ac a berchid yn íawr, nid yn unig gan ei deulu, ei berthynasau, ei eglwys, a'i gyfeillion neillduol; ond hefyd gan ei wrandawyr, ei gymmyd- ogion, íe, a chan bawb a'i ad- waenent yn gyfíredinol. Mwynhaodd trwy gydol ystod ei gystudd, i raddau helaethach nâ'r cyffredin o blant Duw yn y cyfryw sefyllfa, o'r diddanwch hwnw a dardda o lonyddwch cydwybod wedi ei chlirio trwy waed y groes, adnabyddiaeth brofiadol o faddeuant pechodau, ac o hawl wirioneddol yn, a pherthynas annattodol â Phryn- wr byw. Ymostyngodd yn gynar, yn nechreuadeigystuddjdanaliuog law Duw. Dywedodd wrth gyf- aill mynwesol iddo, gydag i'r anhwyldeb o ba un y bu farw ymaflyd ynddo, Nis gwn i beth a fydd y canlyniad o beth fel hyn, y mae genyf deulu i ofalu CYF. i. am danynt, felly, ar yr olwg hòno, gwell genyf fyw, os bydd hyny yn unol â meddwl Duw, ond os rhaid marw o'r cystudd hwn, nid oes dim i'w wneud ond boddloni—ymostwng sydd oreu, —yr ydwyf fì a bwythau yn llaw Arglwydd tirion—Gwnaed a fyddo da yn ei olwg. Yr oedd ei dymher yn hynod o addfwyn, ei ysbryd yn fywiog, a'i feddwl yn siriol y rhan fwyaf o'ramserybudangystudd. Pan y dechreuai son am Iesu Grist, a'r iachawdwriaeth fawr sydd ynddo, llafarai gyda'r fath sel a gwresogrwydd, nes y llwyr orch- fygai ei natur lesg; byddai ei agwedd yn profl ei fod yn profi grym, gwerth, a gwres yr iach- awdwriaeth yn tauio ei holl en- aid. Gweddiai yn daer a my- nych ar i Dduw faddeu ei holl bechodau,ei ddiogelu rhaggrym. ei elynion ysbrydol, a chadw y Uwybr yn oleu o'i flaen ar ei fynediad trwy y glyn arswydus. Ac efe a gafodd ei wrando. Fel yr oedd ei natur yn llesg- hau yn raddol, yr oedd ei feddwl yn adfywio yn feunyddiol, fel y gallesid gwneuthurcymhwysiad o eiriau yr apostol yn eithaf addasatei amgylchiad ef. * Eithr er llygru ein dyn oddiallan, er hyny y dyn oddimewn a adnew- yddiro ddydd i ddydd. Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd 2b