Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINACH Y BEDYÛDWYR. Rhif. e.] MEHEFIN, 1827. [Cyf. I; BUCHEDD MARTIN LUTHER, D. D, {ParJiad o Tudal. 135.) Fel hyn yr oedd Luther yn myned rhagddo ýn ngweinidog- aeth y gair, gan draddodi yr athrawiaeíh sydd yn ol duwiol- deb i glywei wrandawyr; weith- iau yn cael.ei gymmeradwyo yn fawr gan rai dynion enwog a dysgedig, ac weithiau mewn brwydrau â swyddogion y Pab. Mewn llythyr at Melancthon, yn y fl. 1519, y mae Erasmus yn dywedyd í'od yr holl fyd adnabyddus iddo yn canmol ac yn cyinmeradwyo cymmeriad moesol Luther, ac yn dymuno ar Dduw ei ìwyddo ef yn yr hyn a gymmerodd efe arno. Fe ys- grifenodd athraw Pabaidd o'r enw Ecius nodíadau gwrth- wynebol ar rai o gyhoeddiadau Luther, atebwyd y traethawd hwnw gan Caroìostadius: bu cynnadledd ar y pyngciau mewn dadl yn Leipsic, yrhon gynuad- ìedd a ddcchreuwyd ar y seith- fed ar hugaìn o Fëhefifl, yn y fl. 1519, ac a barhaodd bedwar diwrnod ar ddeg. Yno fe fu Ecius yn ceisio amddiffyn ewy- Hýs rydd, a rhai pyngciau Ár- miniaidd ereiîl; bu heíyd yn dadìeu dros ornch-awduidod y Pab, a thros werthu pardynau, neu faddcu pechodau dyuion am arian: yn yr hyn y gwríh- wynebwyd ef yn r'ymus gan CYF. i. Luther a'i gymdeithion, y rhai é brofent yn eglur mai trwy olyg- iadau cyfeiliornus y Pabau, a'a hawydd annigonol i fydr elw, y dygwyd y fath ddychymmygion i gred ac ymarferiad yn eglwys Rufain: methwyd penderfynu y ddadl er cyhyd y parhaodd y gynpâdledd, ond gadawyd yr achos i farn meistriaid athrofaa Paris ac Erford, y rhai a'i gad- awsant mor ddi sylw fel na ddarfu iddyntbythroddieubarn ar y pyngciau mewn dadl. Wedi i'r athrofau uchod esgeuluso yr achos, cymmerodd athrofau Lou- vain a Cologne y mater mewrt ilaw; ac wedi ymgyngbori â'r Cardinal de Tortosa, ac â'r Pab Adrian VI. hwy a farnasant ddau ar hugain o erthyglau Luther yn hereticiaidd, neu o ìeiaf yn tueddu at hyny, ac a bende' fÿnasant y dylasai ei lyfr- au eí'gael eu llosgi, ac y dylasai yntef gael ei rwymo i wadu ei athrawiaethyngyhoeddus. Ond fe safodd Luther ei dir, gaa ddangos nad oedd ef yn prisio dim am ddedfryd farnol y ddwy athrofa; am fod Occam, Sta- pulcusis, Hus, ac amryw wyr rhagorol ereilí, wedi cael eu. condemnio yn yr unrhyw fodd anghyfìawn o'i flaen ef. Yr oedd ymarodr Germani