Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRINACH Y BEDYDDWYR. RlHÍ. *.] MAWRTH, 1827. [Cw. I. BUCHEDD MARTIN LUTHER, D. D. Y mae coffadwriaeth y cyf- iawn yn fendigedig, medd genau y gwirionedd dwyfol ei hun.— Diau fod coffadwriaeth gyda dynion, yn enwedig gyda'r wir eglwys, yn deilwng i holl wei- nidogion ffyddlon y Testament Newydd: ond yn neillduol i'r rhai hyny a roddasant eu heneid- iau, eu cyrff, eu meddiannau, eu hamser, a'u bywydau, i beryglon y marwolaethau creulonaf, (ag a fedrai dynion ac ellyllon uffernol eu dyfeisio) yn achos y gwirionedd. Dichon na ddylem farnu fod y gwron enwog hwn, Martin Luther, yn well dyn, yn unionach ei egwyddor, nac yn ffyddlonach i'w Arglwydd, nâ'r cannoedd gweinidogion ereill, a wrthsafasant gyfeiliornadau y pabau ac eglwys Rufain: ond y mae yn ddiau ddarfod i'r Arglwydd ei neillduo a'i gym- mwyso ef, íel offeryn, i roddi dyfnach clwyf, a thori lletach adwy yn muriau y Fabilon Fawr hòno, nâ neb a fuasai o'i flaen ef, nac aymddangosodd byth ar ei ol efychwaith, ac ystyried ei fod ef yn dechreu ar ei waith megis ar ganol nos, pryd yr oedd awdurdod a gelyniaeth y pabau a'u prif swyddogion, fel poeth- wynt ystormus, yn diffodd pob canwyll a ennynid i oleuo dyn- cyf. i. ion; ac yn barod i chwythu, trwy dân a ffagodau, dros der- fyn amser, bawb a gynnygent am- ddiffyn y gwirionedd. Ẃrth ys- tyried ei waith, a'r hanesion geir- wir am dano, fe ymddengys mor amlwg, fel ag y mae yn ddi- ddadl ei fod ef wedi ei ethol, ei alw gan Dduw, a'i gymmwyso mewn corff ac enaid, dawn dys- geidiaeth, meddwlgrymusyn yr ysgry thyrau, cariad at Iachawd- wr y byd, a sêl danllyd dros adeiladaeth yr eglwys yn y gwir- ionedd, fel gellir dywedyd mewn ystyr, fod wedi cyfarfod ynddo, fawredd behemoth, hyfdra llew, callineb sarff, a diniweidrwydd colomen: pethau hollol angen- rheidiol i'w addasu ef i'r gwaith pwysig ag oedd o'i flaen, ac a orphenwyd ganddo, neu yn hyt- rach gan Dduw trwyddo, sef tori, mewn rhan, yr iau babaidd, a gwrthsefyll cyfeiliornadau a thwyil eglwys Rufain. Mor selog, diysgog, a ffyddlon, y bu y gwron hwn ymhlaid y gwirion- edd, gyda'r fantais a roddes yr Arglwydd iddo, o fod mewn ffafr gyda rhai tywysogion, y rhai oeddent yn meddu llawer o aw- dyrdod wladol, fel yr ymdrech- odd, a hyny gyda'r hyfdra inwy- af, megis â holl lewod a llew- pardiaid yr anialwch, y Pab, ei