Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SYLWEDYDD. Rhif. 8.] AWST, 1831. [Cyf. I. ■ ' i i iii ■■ - - - tim NODIADAU AR Y DIWYGIAD SENEDDOL, DEDDF YR YD, DEGWM, &c AT OLYGWR Y SYLWEDYDD. Syr,—Yn gymaint a bod y Diwygiad Seneddol, y mae ein brenin gwladgarawl a'i weinidogion yn ei gynnyg i'r wlad, bron wedi sicrhau ei gymmeradwyaeth yn yr etholiad diweddar o gyf- eillion rhyddid i gynnrychioli y bobl yn Senedd Brydain, y mae llawer o ymofyn a dirnad gan drigolion ein gwlad, pa gyfhewidion a gymerant le mewn canlyniad iddo, ac amryw o wahanol dybiau am ei fuddioldeb; a diamau fod y fath ymofyniad yn rhesymol i fod gan bob dyn ystyriol, sydd a gofal ganddo am iawn drefn a daioni y wlad, fel y gallo weitliredu yn briodol erbyn y fath gyf- newidiad, a gochel y llwybr a farno yn aflwyddiannus, fel y dywed Solomon, " Y doeth a genfydd y drwg o bell, ac a ymgudd." Fel y bydd i'r Diwygiad amcanedig fod yn foddion i gryfhau llais y bobl yn y Senedd, ac yn wanhad i bendefig-lywiaeth (aris-> tocracy), disgwylir y gwneir ymdrech dioed er ysgafnhau beichiau y cyffredin, a symud y gorthrwm a'r trais oddiar y werin, megis diddymu caeth-waith (slavery), difodi y gribddeiliaeth Indiaidd, chwalu trefniant y degwm, didol y berthynas rhwng crefydd a gwladwriaeth, cwtogi y gyflog-restr, cyfhewid cyfreithiau anrheith- iol dyledwr ac echwynwr, lleihau byddinoedd y filwriaeth, diddymu swyddau diangenrhaid, ac yn benaf difbdi deddf yr ŷd. Amlwg yw, mai prif ddyben deddf yr ýd,- ydyw cynnal i fynu bendefig-lywiaeth trwy fod yn achlysur i ddal pris yr ŷd yn uwch nag y gellir dwyn ýd tramor i'w plith, ac felly i gadw pris y tir yn uchel, ond wedi symud y rhwystr hwn, dygir cyflenwad o