Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&& ¥ €#14 [Otllir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai eael anfon 4, 8, &&, os gcüir.] Rhif. XXVI. MAI 1, 1863. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tonic Sol-fa o ddysgu Canu - - - - - 197 Cynghanedd........ 199 Y Wyneb-ddalen....... i Anerchiad........ iii Y Cynnwysiad....... iv Y GERDDORIAETH. AîíTHElí.—" Gan yr Arglwydd ein Duw."—Gan Mr. Griffith Rowlands (Asaph),|Bethesda. TONIC SOL-FA O DDYSGU CANU. Dyna enw a roddir ar hen drefn adnewyddol o ddysgu canu. Ei phrif ddysgawdwr a'i threfnydd, yn ol y cynllun presennol sydd arni, ydyw y Parch. J. Curwen. Y mae un Cymro wedi ei mabwysiadu er's blynyddoedd, ac wedi bod yn dra llwyddiannus mewn dysgu dosbarthiadau mewn cerddoriaeth drwyddi—sef Mr. R. Jones, Manchester. Clywsom yn ddiweddar fod y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt) wedi neu yn darparu argraphiad o'i Lyfr Tonau yn y drefn yma, Ond yn ddiweddar, y mae Mr. E. Roberts, Liverpool (Gohebydd y Faner) wedi dwyn allan yn Gyrnraeg y rhan gyntaf o lyfr a eilw yn " Llawlyfr Caniadaeth ; sef cyfres o wersi ar drefn y Tonic Sol-fa o ddysgu canu, wedi eu dethol gan mwyaf o wahanol lyfrau y Parch. J. Curwen;" ac at hwnw a'r drefn y dymunem alw sylw ein darllen- Mae canu a dysgu canu, er pan ydym yn cofio, ac am a wyddom ni, cyn hyny, wedi bod yn hynod o dymmorog ac anwadal. Un tymmor, ni chlywid ac ni feddylid am ddim ond canu byth a hefyd ; tym- mor arall, bydd y twrw mawr mor ddistaw a'r saith cysgaduriaid. Yr ydym yn cofio cynnadledd un gymmanfa yn sir Gaernarfon yn cael ei threulio yn gwbl ar bwngc y canu. Cwynid yno fod gormod o ganu, a bod y genedl ieuanc yn gyffredin wedi meddwi ar ganu— nad oedd ganddynt flas at unrhyw lyfr ond Uyfr notes—na hyfrydwch mewn unrhy w gyfarfod, ond lle y byddo adar y gân yn ymddeori ar eu halawon a'u Ueisiau eu hunain, ac nad gormod fyddai gan gantor- ion fyned i ben y Wyddfa ar fore Nadolig oud cael bara brith, cyflath, a digon o ganu. Dichon fod y sylwadau yna yn myned braidd yn rhy bell, etto yr ydym yn argyhoeddedig fod ymddygiadau llawer o gantorion ar yr adeg hono, ac ansawdd dieneiniad y rhan fwyaf o'r alawon, a'r darnau a genid, ynghyd â'r difarerwch torcalonus a amlygai y wlad yn gytf- redin at yr efengyl, tra ar yr un prydyr ymwibiai yn heidiau eellweirus, ac yn dyrfaoedd dioruchwyl- iàeth o'r naill gymmydogaeth i'r llall, hyd yn oed ar ddydd yr Arglwydd, ar ol y canu, yn temtio, os nad yn galw yn gyf reithlawn am y fath sylwadau. Y gŵyn erbyn hyn ydyw, fod rhy fach o sylw yn cael ei dalu i'r canu, a bod yr eglwysi a'r cynnulleid- faoedd yn amlygu gormod o ddifaterwch a diystyr- wch at y gangen bwysig yma a berthyn i waith y cyssegr. Ac er symmud yr aflwydd yna ymaith, ffurfir undebau cerddorol: casglir, argraphir, a chefnogir Uyfrau o donau cynnulleidfaol—ymdrechir dwyn tonau a dybir yn hawdd a pheroriaethus, ac o arddull gyssegredig ac addoliadol i'r gynnulleidfa, gydag annogaethau taer, serchog, a difrifol o'r cyf- arfod eglwysig, cyfarfod misol, a'r gymmanfa, ar i'r cynnulleidfoedd yn gyffredinol fabwysiadu y cyfryw donau, ymdrechu eu dysgu, acymuno i'wcanuynyr addoliad; ac etto llwydaidd, diafael, a diaddoliad yw y canu, fel canu cynnulleidfaol, mewn llawer cyn- nulleidfa. Beth yw yr achos ? Byddai gallu atteb hyn yna yn hanner y gwaith i'w wella—y tônau yn rhy an- hawdd, yn rhy newydd, yn rhy annhebyg i'r hen dônau anwyl, yn rhy rywbeth na wyddant hwy na ninnau, yw y drwg, medd un dosbarth lled bwysig. Y canu corawl, ceífyddol, a detholedig yma yw y felldith, medd ereill. Diffyg dealltwriaeth a chyd- ymdeimlad rhwng y cantorion, â'r gynnulleidfa ac â'r eglwys, yw yr holl achos, medd rhai lled ddeall- twrus ; tra y taera cantorion selog iawn mai am na ddeuai y gynnulleidfa a'r eglwys i'r cyfarfod dysgu canu—mai yn y fan yna y mae yr aflwydd yn aros. Myn ereill mai anwybodaeth y gynnulieidfa o egwyddorion cerddoriaeth, ynghyd â'i hanallu i ddar- llen y tônau, a'u canu ar yr olwg gyntaf yw'r achos. Credwn ninnau fod y diweddaf yna yn un achos lled bwysig, a buasem wedi ysgrifenu yn Ued hyderus arno fel yr unig achos, oni b'ai ein hadnabyddiaeth o lawer sydd yn alluog i ddarllen cerddoriaeth ar yr ólwg gyntaf, ac etto heb ymostwng i ganu yn gy- hoeddus gyda'r gynnulleidfa. Ond y mae yr an- wybodaeth a'r anallu yna yn sicr yn rhwystr; a thuag at symmud y rhwystr yna, y mae llawer o ddysgawdwyr y gân a chefnogwyr y gelfyddyd gerddorol wedi bod yn effro eu meddwl i ddwyn all- an amryw foddion a chynlluniau er ei ddileu, a'r moddion, ynghyd â'r cynllun effeithiolaf, yn ol barn Uuaws mawr heblaw Mr. Curwen a'i gyfeillion, yw trefn y tonic sol-fa. Fe allai eu bod yn gywir; ond yn ein byw nis gallwn feithrin y cyfryw syniad, a'r fath argyhoeddiad ein huuain. Nid ydym yn pro- ffesu ein bod yn deall y drefn yn drwyadl, ac wrth wrandaw ar ereill yn ei chanmawl, tueddir ni i gredu nad ydym yn deall dim am dani; eithr os ydym, yn wir nid ydym yn gweled ynddi yr holl rinweddau a'r holl ragoriaethau a briodolir iddi. Gallem dybied fod dau neu dri o ragonaethau yn cael eu priodoli iddi rhagor ýr hen gynUun. Un