Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&& t m$íèM [Géllir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c., os géllir.] Rhif. XXV. EBRILL 1, 1863. Pris 2g- CYNNWYSIAD. Eisteddfod Bethesda...... 189 Alawon Cymreig ■;....... 190 Cynghanedd........ 192 Grammadeg Cerddoriaeth..... 19i Newyddion Cerddorol...... 195 Y GfíRDDCMUAETH. " Aderyn Pur." Trefnwyd gyn y Parch. E. Stephen. EISTEDDFOD BETHESDA, MAWRTH 19eg, 1863. EEIRNIADAETH Y TONAü. Derbyniwyd deunaw o donau, yn dwyn y ffugen- wau canlynol:—Brocbwael, Öla, Ioau Àrfon, Cymro Gwylit, Aruos, Gwladwr. Nid oes genyni syniad uchel am y cliwech yna, ac yu sicr rhaid addef uad ydynt yn deilwng o gantorion clodforus ardal mor gerddorol a Bethesda. Dyma bedair ereill ag sydd i raddau yn ì'hagori rhywfaint ar y chwech anodwvd. Dygant y ffugenwau yma :—Gwydion ab Don, My- nyddog, Ap Madog, Cymro. Gwelwyd eu gwaelach, eithr y mae eu gweíl yn y gystadleuaeth. Dosbarth- wyd chwech ereill genym yn uwch na'r ddau ddos- barth cyntaf a nodwyd, sef eiddo Judeus, Heruan, Jeduthun, Pererin, Gwent, a Nathan. Nid ydym am gynnyg penderfynu pa un o'r rhai yna yw y goreu, am yr ystyriwn hyny yn orchwy] llawer rhy anhawdd ; a'r tro hwn, fel y mae y goreu, yn ddiangenrhaid, drwy fodymaddwy ereillagsydd dybygeni ni i raddau yn rhagori arnynt, sef eiddo I. S. Bach, a Bochlwyd. Tôu leddf, wedi ei hysgrifenu yn y cyweirnod A tf, a'i chyfansoddi yn yr arddull Germanaidd, sydd gan Bochlwyd. Diwedda ei frawddeg flaenaf ar y pummed, yr ail ar y cyweirnod, y drydedd ar y seithfed, cyweiruod llon perthynasol y pummed. Mae hyna yn dipyn o'r ffordd gytfred- iu fe ddichon mewn tôn eglwysig, eithr nid yw ond megys ei gyffwrdd ar ei ffordd i derfyniad y bedwar- edd frawddeg ar y trydydd perthynasol. Y tair brawddeg nesaf ar y pummed, ond fod y ganol yu myned iddo trwy drawsgyweiriad, a therfyna megys y dechreuodd ar y cyweirnod. Mae yr alaw drwy- ddo yn hawdd, ystwyth, a pheroriaethol, eithr nid yw pob brawddeg o'r cynghaneddiad mor lithrig a swynol ag yr hoffem gael mewn tôn gynnulleidfaol. I. S. Bach—Bhanodd ef ei dôn i bedair adran. Diwedda y gyntaf ar y cyweirnod, yr ail ar y pum- med, y drydedd ar bummed y cyweirnod lleddf per- thynasol,,a'r olaf'ar y cyweirnod decbreuol. Llon yw ei gywreirnod sylfaenol. Mae ei alaw yn hynod o naturiol, ac felly wrth reswm yn rhwym o fod yn beroriaethol. Mae ei gyughanedd yn llithricach ac felly yn fwy swyngar a chaniadol nag eiddo ei gydymgeisydd, oddi eithr un neu ddau o drawsgy- weiiiadau cynghaneddol sydyn a ddefnyddiwyd ganddo. Bhaid i ni addef mai y tonau a feddant fwyaf o amrywiaeth yn niweddiadeu brawddegau, agynnwys fwyaf o beroriaeth, nid yn unig yn yr alaw, ond hefyd yn y lleisiau yu gyffredinol ac a gynnyrchant fwyaf o naws addoìi yn ein calonau, yw y rhai a sw3rnant ein serchiadau ac a dderbyniaut fwyaf o'n cymmeradwyaeth. Tybiwn fod I. S. Bach a Boch- lwyd yu gyflawnach o'r rhagoriaethau yna na neb ereill o'u cydymgeiswyr. Pa un o'r ddau yna yw y goreu, nis gallwn yn awr benderfynu, a chredwn mai y peth goreu yw rhanu y wobr rhyngddynt. YR ALAWON. Anfonwyd naw i'r ymrysoufa. Nid oes dim yn neiliduol o swynol mewn pump o honynt, sef eiddo Tallis, Perorydd, Ninimus, D. Glan unos, ac ümer Pasha. Tueddir ni i gredu na fu yr ymgeiswyr yn rhyw ry ymdrechgar i ehwilio am ormod, os digon, o wreiddioldeb yn eu halawon, feluadydymyncaelein swyno gannewydd-deb defnyddiau,uacychwaithgan drefniad newydd ar hen geltì. Os ndi chawn ni bethau newydd, teg iawn, dybygem ni, yw cael gwedd newydd ar hen bethau. Mae yma bedair ereill yn yn fwy cymmeradwy o dipyn. Tiwbal Llechid. Nid oes cyfeiliant yn dilyn ei alaw, felly nis gallwn yn sicr benderfynu ei sym- mudiadau trawsgyweiriadol. Gwell genym ni heb slurs mewn alawon sydd wedi eu bwriadu at ganeu- on, ond nodyn plaen ar bob sill, fel y gellid siarad y geiriau yn fwy cerddorolac effeithiol. Gastaldi. Alaw gweddol ar y cyfan, ond ryw- fodd nid oes digon o fyn'd ynddo—ei gylch yn llawn rhy fychan i fod yn teîling. Morley. Mae yr alaw yma yn rhagori ar y ddau arall o gryn lawer, eithr diniwed braidd yw y cyfeil- iant. Gallesid ei gyfansoddi yn llawn mor syrnJ, ac etto rhoddi mwy oflow ac yni ynddo. Asaph. Dyma y goreu. Mae yr alaw yn ystwyth ddigon, pe buasai mwy o wreiddioldeb a llai o'r naws Italaìdd ynddo, credwn y buasai yn rhagorach. Mae y cyfeiliant yn syml a chywir, eithr dylasai fod mwy o amrywiaeth yn ei drawsgyweiriadau eratteb i feddyliau amrywiaethol y geiriau, ac er gwneud ei symmudiadau yn fwy peroriaethol, yn gystal ag er rhoddi arbenigrwydd gwahanol i bobadran o'r alaw. Ond yn sicr efe yw y goreu o'r holl ymgeiswyr. Qan hyny, iddo ef y dyfarnwn y Uawryf. Yreiddoch, E. STEPHBîr.