Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mr GBAL Y COHAU. roddant frawddegau defodwych, rhosliwiog, ae y màent yn ddifeddwl yn twyllo eu hunain ac ereill trwy ledaenu y fath sothach. Gan gelfragrithwyr, y rhai ydynt yn teimlo yn wahanol i'r hyn y ma'ént yn broffesu, ond gan ofni i neb dybied eu bod yn anwybodus, a ddynwaredant gelfbenboethiaid, dy- chymmygion gwammal y, rh'ai, yn y cyffredin, a dderbynir fel gwirionedd. Ac yn ddiweddaf, gan gélfgelwyddwyr; dynia.y dosbarth mwyaf peryglus ajiiweidiol, o herwydd y maent yn ffurfio euhunain yn gymdeithasau dillynwych (?), ac o herwydd hyny yn teilyngu llythyr neillduol a gwahanredol. Mae beirniadaethau celfwyddiaid gwirioneddol yn dra phrini.on, ac.y'niaentfel lleisiau unigol yn ymgolli yn udiad.yr anialwch gwag erchyll, ac yn caei eu gorohfygu gan swn trystfawr y lliaws. üs mynwch gael esampl fechan o nodiadau a haeriadau newydd- iaduron, dynia hi :—Dywed un am symphoni—" Y mae rhy ychydig o felodedi ynddi;" ac wedi i by- thefnoa fyped heibio, dywed am un arall, " Y mae gormod o felodedd ynddi." Anrhydeddwyd Schu- mann gan un o'r cyfryw feirniaid mewn newydd- iadur cerddorol, â'r teitl urddasol " Palm y by wyd," ar gyfrif y symmudiad cyntaf yn ei symphoui; ond am y lleilj, efe a wrthododd eu "cofnodi ar ddalenau hanesyddiaeth." Mae Spohr, yn y ' Berggeist' wedi gosod aHan yr egwyddor wreiddiol mewn dull tra Argraphiadol, sef fod cariad yn perthyn i'r dynol, ac nid i'r ysbrydoL (Pa fodd y cafodd efe hyn allan ?) I>ywed BrendaU—" Mozart ydyw awenydd cariad ystlenaidd." Haera Griepenkerl, yr hwn a ewyllys- iai dori adenydd Pegasus, a'i ddefnyddio yn farch rhyfel mewncatrawdddemocrataidd wirfoddol, "fod symphonau Haydn yn cyniwys opiniynau y saith mlynedd o ryfel," ac am hyn, y mae efe yn argym- mhell cerddoriaeth i ddynodi cyfnodau. Y mae Brendall yn rhanu cerddoriaeth i ' gerddoiiaeth bendefigol a gweriniaethol.' Ystyrir y brawddegau canlynol a'u cyffelyb ynjsafonawl:—" Rhaid i athry- lith gaeì bod yn rhydd;" " Mae efe yn def nyddio moddion sydd wedi ei lwyr dret lio allan;" "Nidyw efe wedi tori allan unrhyw Iwybr newydd." Ymaey eyfryw, ac ereill, a elwir yn frawddegau celfathronaidd, fel cnau caledion, y rhai y mae yn rhaid cnoi cryn lawer arnynt cyn y gallwn dori y plisgyn tew ; a phan y gwneir hyny, ni chawu yn aml ond cnewyllyn crebachlyd a diflas, neu fag'ien, neu ddim byd. Mae y cyhoedd, y rhai ydynt byth a hefyd yn troseddu yn erbyn y gorchymyn, 'Goch- elwch rhag cael eich cymmeryd i mewn,' yn dychym- mygu fod rhyfeddo<lau doethineb yn hanfodi yn rhywle ; ond y mâe y celfyddwr ieuanc, yncaelei flino gany gwirebau rhyfedd hyn, y rhai ydynt yn sefyll rhyngddo a'i gelfyddyd feldrychiolaethau bygythiol. Dywed Madame de Stael: " Ymddengys fod Uiaws o, gyfrolau ar gelfyddyd—ar y dychymmygol a'r sylweddol, yn cyfryngu rhyngom a'r hyn yr ydym yn ymdrechu ei ddarlunio, fel nad yw y celfyddwr a natur mwyach yn neillduedig gyda' u gilydd. Dywed Ectermann yn ei ' Ymddiddanion,' " Mae yn dru- enua. meddwl fod cymmaint o gau athrawon yn bod- oll, o herwydd y maent mor lliosog fel na ŵyr y celfyddwr ieuanc i ba s«nt i gyflwyno ei hun." Mae geným esamplau o hyn," meddai Goethe; "gwelsom genhediaethau cyfain wedi caeì eu dirywio a'u di- nystfio gan haerebau gau." TJn o dclrygau beirn- iadaethau newyddiaduron yw, eu bod yn cynnyrchu teimlad o ddirmyg yn y celfyddwr ieuangc at gyn- lluniau sefydledig ac awdurdodedig, ac vmfoddloni heb gynnyddu ynddynt, na chwanegu atynt gyn- nyrchion ei ddarfelydd, ac felly arweinir ef i'r amryw goeglwybrau ar hyd y rhai yr ydym yn gweled am- ryw-gyfansoddwyr diweddar yn crwydro. Disgrifir gŵeithiáU y prif feistriaid fel wedi eu gwisgo allan, am hyny mae newyddianiaid yn ymdrechu, deued a ddelo,i ffurfio cyfnod newydd, neu i weith- io allan gynllun newydd. Pan gyfansoddodd Han- deí, Haydn, Mozart, a Beethoven, &c, eu gorchest- weithiau aruchel, nid oedd beirniaid newyddiadurol yn hanfodi; neu o leiaf, nid oedd lleisiau beirniadol yn cydysgrephian ar uuwaith o wahanol bedryfanau. Cyrhaeddodd y cyfansoddwyr dihafal hyn, ac ereill cyffelyb-iddynt, eu safle uchel yn gwbl trwy eu tal- ent eu hunain, a thrwy efrydu gweithiau aruchel a theilwng. Nid yẃ yr awenyddion ardderchog hyn yn gwrthddỳweyd eu hunâin ; nid oes dim yn y rhai hyn i arwaiir yr efrydydd ar gyfeiliorn ; ac yn y rhai hyn, ac ereill cyffelyb iddynt, yu unig y gellir dysgu rheolau-dilys er-cynnyrchu yr hyn sydd gywir a phrydferth, yn glasurol aç effeithiol. Wrth ddilyn y prif feistriaid yn unig y gall y disgybl ddyrchafu ei hun yn feistr yn y gelfyddyd. " " Ond," chwi a ddywedẁch, " nis gall fod ammheuaeth na threiddiai y celfyddwr ieuangc ammhrofiadol yn gyflymach i brydferthion cyfansoddiadau meistrolgar, y teimlai yn fwy diogel wrth efrydu, ac y cyrhaeddai eiamcan yn gynt trwy gael ei arwain gan feirniadaeth dynion profiadol a dysgedig." Yr wyf yn cydnabod gwir- ionedd y gosodiad gyda'r parodrwydd mwyafl; pe byddai genym weithiau ar gerddoriaeth cyffeíyb i eiddo Winkelmann ar y gelfyddyd ddarluniadol, neù Lessîng ar chwaroniaeth, cynghorwn bawb i'w darllen a'u hefrydu, ond ni chynghorwn neb i ddar- Uen y rhai hyn yn rhy fuan ; hyny yw, nes y bydd- ont wedi treiddio cryn lawer i elfenau y gelfyddyd, o herwydd y maent yn dangos ar unwaith yr an- hawsderau mawrion sydd gan y celfyddwr i'w gorchfygu,*a gallent drwy hyny frawychu yr ysgolor ieuangc, a rhwystro ei ymdrechion gwanaidd : ond nid oes genym y cyfryw weithiau mewn lleuydd- iaeth gerddorol. Y mae rhai erthyglau rhagorol ya wasgaredig yn rhai o'r hen leniaduron cerddorol, ond y maent yn anhawdd iawn eu cael y dyddiau hyn. Cyhoeddwyd gwaith yn ddiweddar, yr hwn sydd yn rhagori o ran ei feirniadaeth ddofn a chraff- us, ac mewn gwybodaeth ac ammhleigdarwch, ar unrhyw waith a ysgrifenwyd ar gerddoriaeth gan unrhyw awdwr adnabyddus i ni; sef "Byw- giaphiad Mozart," ynghyd â sylwadau rhagorol ar ei weithiau gan y Russian Oubiliche/. Cynghorwn bob celfyddwr ieuangc, a phawb sydd yn hoffi cerdd- oriaeth, i ddarllen y Üyfr hwn ; o herwydd ynddo y mae athrylith Mozart, ynghyd â'igelfyddyd, yncael eu chwilio a'u hegluro gyda'r manylrwydd mwyaf, o bob cyfeiriad, a thrwy hyny gallwn ganfod, nid yn unig pa beth yw ei dalent, ond hefyd y modd y cyr- haeddodd ei gogoniant ysblenydd. Hefyd, dylid darllen bywgraphiad Beethoven, gan Schindler; a chofiannau y prif feistriaid, megys Handel, Haydn, &c, o herwydd y maent oll yn cynnwys llawer o'r hyn sydd yn gynnhyrfiol, cefnogol, ac o duedd un- iongyrchol i wellhau yr efrydydd cerddorol. Dang- osir yn amlwg yn hanes y cyfansoddwyr penigamp hyn, er mor awenyddol, er mor feistrolgar yn y gelfyddyd oeddynt, mai dynion oeddynt wedi'r cwbl —dynion ag yr oedd yn rhaid iddynt ddysgu—dyn- ionaymdreehasanti ddysgu, ac a goronwyd âllwydd- iaut_dynion a ddechreuasant gyda phethau symj, ondtrwy ddyfalbarhad a gyrhaeddasant y safle uch- af a gyrhaeddwyd gan ddynion erioed fel cyfan-