Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

àJL ¥ iilâl §m mwââ 1 [Ctéllir tmfon é trwy y post am geinẁg; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gettir.] RHIF. XXIII. CHWEFROR 1, 1863. Pris 2z. CYNNWYSIAD. Cantawd Abertaw» -..... 173 Alawon Cymreig....... 174 Beirniadaeth Glees, Eisteddfod Rhymni - - 177 Manehester, Cyngherdd yn y Temperance Hall • 178 Newyddion Cerddorol...... 178 Y Calwìi yn Sir Lancaster..... 179 Y GBRDDORIAETH. Olee, " Y Dymuniad," gan Llew Lbvy vo. Glec, " Yr Aelwyd Lân," gan Ragelli. CANTAWD ABERTAWE. Htnod mor hoff ydyw ein cerddorion o ryw hóbby yn wastad ; ymddengys fod channel eu ehwaeth neu eu meddwl mor gul, fel nad oes ar y pryd le i ddim ynddi ond i'r hobby anwyl ddigwyddo gael ei luchio iddi. Anthemau dyrus a chywrain ydoedd unwaith yn bobpeth—dyna ddisgwylid ac a gefnogid fel cyn- nyrch pob Eisteddfod. Wedi hyny, darnau gwyllt dirwestol, a syfyrdanai ein clustiau. Drachefn, ym- rodresid ac ymorchestid gydag oratorios. Tymmor arall, ni wna dim y tro ond tônau coralaidd a chyn- nulleidfaol ; ceir eilwaith y glee for ever. Wedi hyny, caneuon teuluol a moeso!, a rigmarole marw fel cân y " Ti*i hen langc," a "Boneddwr inawr o'r Bala;" ond erbyn hyn, Cantawd, a dim ond Cantawd, yw pob peth. Nid ydym am ysgrifenu dim yn neillduol nac yn igyffredinol ar hyna; eithr carem fod mwy o feddwl annibynol yn llywodraethu ein canu ; yn lle, os cyfyd rhyw filgi o gerddor hyd yn oed gwningen, dyna holl gŵn y gân allan, gau syfrdanu a galw sylw yr holl daleithiau at yr hunt houo. Os edrychwn i 'fysg y Saeson, Canta'tas byth a hefyd sydd yno—a Chymru hithau, er fel arfer yn y rear, rhaid iddi hithau gael ymddawnsio o ddeutu y Gantawd. Cymmerodd Cantawd Caernarfon yn dda, a cheidw i raddau ei phoblogrwydd; eithr gocheler rhag gyru yr idea yn ormodol nes iddi golli ei phedolau, neu fel ambell i hen geffyl coach wëdi ei yru gan fell- dithion a ffrewyilau, fel na bydd yn dda i ddim ond i gario ei gi'oen a'i esgyrn i'r barcdý. Deallwn fod Mr. Brinley Bichards yn cyfansoddi Cantawd bwr- pasol, a thrwy annogaeth, erbyn yr Eisteddfod, a chenir hono, ynghyd â'r un ddigwyddo fod yn fudd- ugol ar yr adeg. " Credwn, am hyny y llefarwn," fod un Gantawd yn llawn ddigon yn yr un Eistedd- fod, ond dyma yw yr hobby, a rhad arnom, nid oes digon o annibyniaeth a gwroldeb ynom i godi ein cerbyd o'r hen rigolau clonciog a charegog, a rhaid gyru ar hyd-ddynt pe torid esgyrn a dadgymmalu Cymru penbaladr ; ond at ein testyn. Daeth wyin CantawJ i'r gystadleuaeth, ac yn dwyn y ffugenwau, Pumlumon, Mynyllog, Taronwy, Lleuver, Ieduthun, Christo Musicus, Rhys ab Thomas, a Gwladgarwr. Ni chaniatâ y beirdd, y mae yn debyg, i ni feirniadu dim ar eu cynnyrchion fel barddoniaeth, am nad ydym wedi ein hanrhyd- eddu â'r urdd farddol. Wel, foneddigion, ni ryfygwn ysgrifenu ar hyny ond gan lieied ag y gallwn. Dim ond hyny a farnwn yn angenrheidiol er dwyn eu harweddiad cerddorol i'r golwg. Gwladgaewe.— " Yr Eisteddfod yn y Dyfodol" yw testyn " Gwiadgarwr." Ceir yn ei gyfansoddiad naw o solos, a dim ond tri choì'us, a geiriau y cyfryw, dybiem ni, yn faith afresymol. Ychydigo eiriau, a'r rheiny yn ystwyth, eglui-, a tharawiadol, sydd eisieu at choruses. Rhys ab Thomas.—Testyn Rhys yw "Priodas Syr üwaiu Tudur o Benmynydd, Môn." Y mae Bhys wedi syrthio i'r un amryfusedda " Gwladgar- wr." Tua chanol y Cantawd, ar waelod y ddalen, ysgrifena Bhys "Gallai y cerddor gymmeryd ei ryddid i ranu y Gantawd yn unawdau, deuawdau, cydganau, &c, fel yr ewylìysio o hyn i'r diwedd." Da iawn, eithr disgwyliasid hjmy oddi wrthybardd yn hytrach na'r cerddor, canys ei waith ef yw trefnu y gerddoriaeth yn benaf, ac Did y farddoniaeth, yn enwedig gan fod Bhys wedi cymmeryd y gorchwyl hwnw arno yn nechreu ei Gantawd. Lleuvee.—Math o bryddest ar " Darogan Tal- iesin," yw y cyfansoddiad yma, ac os gweddus ydyw i ni ddadgan ein barn ar beth nad ydym yn ei hòni, credwn fod yma farddoniaeth o'r rhyw oreu, ond nid yw y trefniad yn gerddorol; felly, nid yw o ran cynnwys a chynílun yn atteb y diben mewn golwg, oddi eithr dau o gydganau lled feithion; nid yw yn amgen na chaneuon drwyddi. Tabonwt.—" Undeb y Bhosynau" a ddewiswyd gan yr ymgeisydd yma i gyfansoddi arno. Y mae yn gystal bardd a " Lleuver" bob dydd ycyfyd o'i weíy, ac i raddau pellyu mlaen arno fel cerddor ; ac etto y mae ei waith yn ein taraw rywfodd fel cyfan- soddiad rhy undonol. Dim digon o fynyddoedd a dyffrynoedd, neu os mynir, rhy fach o light and shade, i wneud y cyfansoddiad mewn ystyr beror- iaethol yn ddigon hoyw a chaniadol i fod yn dder- byniol fel Cantawd. Ieduthun.—" Elias ar ben Carmel " yw testyn y Gantawd yma. Mae trefniad a chynllun yr awdwr yma mor gerddorol ag odid un o'r ymgeiswyr, eithr dichon nad yw pob llinell mor farddonol; ond nid yw y testyn ynhollol gydweddol âg ardduîl Cantawd. Cheisto Musicus. — " Cantawd Gyssegredig " sydd gan hwn, a'i destyn ydyw " Y Croeshoeliad.^ Y mae genym yr un peíh i'w ysgrifenu am "Christo"