Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&& f mmàM [Oellir anfon i trwy y pott am gtiniog; a dymunol fyddai eael anfon i, 8, &c, ot gettir.] Bhif. XXII. IONAWR 1, 1863. Pris 2g» CYNNWYSIAD. Grammadeg Cerddorol Alawydd Cyfarfod Llenyddol Undebol Llandinorwig Dyddiau olaf a marwolaeth Mozart Grammadeg Cerddoriaeth ... Cyngherdd Blynyddol Clafdy Sir Ddinbych Ifottjn .... Drefnewydd ..... 165 16« 167 169 170 170 17C Y GERDDORIAETH. " Gwaüa" gan D. Lewis, Llanrhysfcyd. Ton — Mesur Hir, gan Ab Alaw. GRAMMADEG CERDDOROL ALAWYDD. Y mae llawer tro wedi ei ix>ddi gau y byd, ìe, y byd cerddorol, yn gystal a'r byd naturiol, os priodol gaíw rhyw fyd yn naturiol, er pan y gwelodd ein Uygaid, ac y swynwyd ein rneddwl gyntaf gan Rammadeg Cerddorol. Os da ydym yn cofio, Grammadeg Mr. William Owen, o'r Dref Newydd, oedd cyntafanedig ein hathrawou, a'r adgof cyntaf sydd genym am hwnw ydoedd, y benbleth o geisio dirnad " pa fodd i symmud y Mi" a'r f uddugoliaeth Wellingtonaidd ar y lleddfnodau a'r llonnodau pan y deallasom eu nerth a'u dylanwad i drawsddodi ac i gynnyrchu trawsgyweiriant. Yr oeddym yn lled gyfarwydd mewn cynghanedd cyn dyfodiad Grammadeg Mr. Mills allan; o blegid y mae genym rai darnau ar law o'n gorchestion plentynaidd mewn cynghanedd cyn hyny, eithr gan bwy neu yn mha le y cawsom allan ddirgeledigaeth- au y gynghanedd i ddeehreu, nid ydym yngwybod; hebiaw mai nid gan neb* yn ardal ein genedigaeth. Yr ydym yn cynimeryd y pleser o feddwl mai nyni a ddattododd y seiliau oddi ar y rhan hono o'r gel- fyddyd gyntaf yn yr ardal hono, canys nid oedd yno neb yn gwybod nemawr i ddim ynghylch cerddor- iaeth heblaw gallu canu rhyw lun ychydig o Salmau ac Anthemau Eglwysig, a rhai darnau o eiddo y melus-ber leisiwr, Mr. John Elhs, Llanrwst; a bendith ar yr hen frodorion hyny, yr oeddynt mor wir hunanol er yn ddiarebol o drwsgl, ac mor goeg- ddysgedig, er bod o dan yr angenrheidrwydd o gael hanner blwyddyn i ddysgu tôn newydd at y Nadoíig, i hogyn tlawd a dinôd ddyfod o fewn milldir o gwmpas iddynt, heb son am ryfygu anadlu yn yr un awyr, a chynnyg canu yn yr un addoldŷ. O ie, yr anwyl fawr ! byd ofnadwy a gafodd hawer heblaw ni gyda thyrants y gân dan yr hen oruehẁyliaeth— ond dyna y fath fanteision a fwynbeir yn bresennol, o herwydd rhadlonrwydd llyfrau da ar y gelfyddyd, rhagor yr amser y dechreuasom ni ar ein pererindod ar hyd lled a hyd cyfandiroedd eang a thoreithiog cerdddriaéth. Talasom ni am Rammadeg Albretchs- bérger ddwy bunt, ac am'eiddo Cherubini ddeg swllt ar hugain ; costiodd y Messiah i ni bedwar swilt ar hugain, a gwaith Cerny bum guinea, tra y mae y llyfrau yna i'w cael yn awr am ychydig sylltau. Nid ydym yn gallu cofio yn awr pa sawl Uyfr ar gynllun Grammadeg er egluro egwyddorion y gâu a ymddangosodd yng Nghymru, clywsom pa faint yn lled ddiweddar, eithr gallwn sicrhau o ran gwybod- aeth brofiadol, fel y dywedir, mai nid y lleiaf o ran pwysigrwydd a dylanwad ydyw Grammadeg Alaw- ydd; a'r prawf ymarferol goreu o'n haeriad, fe ddichon, ydyw, fod yr argraphiad cyntaf wedi ei lwyr werthu, a galwad parhaus, taer, ac erbyn hyn, effeith- iol, am argraphiad arall. Yr ydym yn cofio yn dda, ddarfod i'r ychydig sylwadau a wnaethom ers blyneddau bellach, mewn ffordd o gymmeradwyaeth i'r argraphiad cyntaf, dynu ychydig o helbul arnom ; ac o bossibl, nid heb achos, eithr os gallwn, cymmerwn ddigon o ofal rhag disgyn i'r un amryfusedd y tro yma, canys y mae y cymmylau wedi clirio, yr. ystorm wedi tawelu, y frwydr fawr wedi diweddu mewn heddwch sefydl- edig, a Gorfyniawc a ninnau yn gyfeillion ers blyn- yddoedd. Ond yn wir, nid oedd genym y golwg lleiaf ar Rammadeg Gorfyniawc y pryd hwnw ; amcanu gollwng ergyd at ryw un oedd yn nghym- mydogaethau Llanrwst— un a gyfrifem ni y pryd hwnw yn pretender hollol mewn cerddoriaeth, un oedd i'n tyb ni wedi meddwi braidd ar system Hullah, ac yn mesur a phwyso pob Hyfr a cherddor arall, a nyni yn arbenigol, yn oi y system hono ; ac yr oedd ein dynoliaeth orbwysig ni yn rhy amddifad o ras attaliol i oddef cymmeryd ein mesur a'n pwyso gan y fath hwnw, ac yn ol y system hono, ac at hwnw a'i system y bwriadem ollwng ergyd bapyr gyda'n gwn ysgawen. " Ond ha wŷr," drwy ein trwsgleiddwch a'n hanfedrusrwydd, cymmerodd yr ergyd gyfeiriad hollol wahanol. Yr oeddym yn ormod gŵr—Dear me, oeddym, i gyfaddef hyny y pryd hwnw wrth Gorfyniawc. Buasai tro honour- able felly yn rhy debyg i defeai, yn ol y syniad gwir- ionffol a chymmysgedig a feddiannai ein meddwi an- ffaeledig yn nhymmor ein ieuengctyd ; gan hyny, yr oedd yn rhaid dal ati i ymladd right or wrong. Yr anwyl fawr ! y fath ynfydrwydd ac ymddoethi—y fath rodres a phenchwibandod—y fath gamgymmer- iadau a chamrau gweigion a welwn ni wrth edrych yn ol ar ein llwybrau. Yr ydym yn awr yn cydnabod gyda'r gostyng- eiddrwydd mwyaf diffuant, mai ergyd annheilwngo ŵr boneddig oedd yr ergyd hono, yn y dull hwnw, ac ar yr adeg hono. Nid boneddigaidd fflangellu hyd yn oed pretenders ax draul teimladau ereill; nid gwronaidd saethu hyd yn oed at elyn, ac ymlochesu yn nghysgod cyfeillion, ac nid beirniadaeth onestj, gywir, a theilwng, ydyw darostwng a difrio un llylí'