Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

àJL ¥ €#a4W [Gettir anfon i trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gettir.] Rhif. XX. TACHWEDD 1, 1862. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Canu ac Eisteddfod Caernarfon 149 YrailSalm........ 150 Geiriadur Cerddoriaeth...... 151 Adgofion ain Fordaith o Bleser .... 152 Adolygiad y Wasg ...... 153 Caneuon Cymreig ...... 153 Deborah Handel ...... 153 Sawd neu Isalaw....... 153 Gramadeg Cerddoriaeth...... 154 Y GERDDORIAETH. " Y Wenynen." Gan Mr. J. Ambrose Lloyd. " Yr Ymadawiad" gan Tavalaw. CANU AC EISTEDDFOD CAEENAEFON. Canu maswedd! Cwynai rhai, a haerai ychydig, fod yn yr Eisteddfod ganu maswedd. Beth yw canu maswedd ? Onid canu geiriau llygredig, serth- us, ac anllad ; geiriau â'u tuedd i roddi y nwydau anianol ar dân, ac i anifeileiddio creadur rhesymol, ydyw canu maswedd ? Os mai e, ni chlywsom ni y fath ganu, ac nis gallwn ganfod y eyfryw yn y pro- gramme. Byddwn yn wir ddiolchgar os gwnarhyw- un nodi un gân a ganwyd yn yr Eisteddfod, a thu- edd y gân hono at lygru ymarweddiad a meddwl y gwrandawyr. Hyny glywsom ni o bennillion gyda'r delyn, ni chlywsom "na serthedd, nac ymadrodd ffol, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus," gan yr un o'r dadganwyr. Cafwyd weithiau bennill digrif, ond tarawiadol, ar helynt serch a chariad. Ond pwy, heblaw rhagrithwyr Phariseaidd a'r " gŵr drwg," na ŵyr am serch ac yn hoff o gariad ? Ychydig iawn o rai felly a roddwyd hefyd. Dyma esampl neu ddwy o'r fath a ganwyd :— Rhois fy serch ar flodau'r dyffryn A rhoes hithau 'i serch ar rywun ; Fe roes hwnw 'i serch ar arall, B'run o'r tri sy* fwyaf anghall ? Ond ydyw hyn ryfeddod, fod dannedd gwraig yn darfod, A thra bo yn ei genauchwyth, nidderfyddbythmoithafod. Minnau glywais fod yn rhyw-fodd I'r byd hwn wyth ran ymadrodd, Ac i'r gwragedd anghlod iddynt Fyn'd â saith o'r wythau rhyngddynt. Myn'd i'r ardd i dori pwysi Gwrthod lafant, gwrthodlili, Gwrthod mintys a rhos coohion, Dewis pwyai o ddanadl poethion. Gwae a garia faich o gwrw Yn ei fol i fod yn feddw, Tryma baich yw hwn o'r beiohiau, Baich ydyw o bechodau. Clywais siarad, clywais ddwndro, Clywais ran o'r byd yn beio, Erioed ni chlywais neb yn datgan Fawr o'i hynod feiau 'i hunan. Dyna nhw. Beth sydd yn anfoesol ynddynt ? An- f oesol yn wir ! maent yn llawn o natur ac arabedd, yn ddifyr, ac yn wir addysgiadol. Am y "Sesiwn yn Nghymru " a ganwyd gan Mr. Williams, os na chân y gŵr boneddig hwnw rywbeth gwaeth na hono, gall godi ei wyneb heb wrido yn y fan y gweddai i'w ddelornwyr gywilyddio. Yn wir, y mae rhyw sych sancteiddrwydd ac ystumiau gor- fanwl pretenders gorgrefyddol fel hyn yn ddigon a chodi diflasdod yn meddwl pob dyn synwyrol at y peth a gam enwir yn grefydd. Os crefydd yw peth fel yna, goreu po cyntaf y gwareder ni rhagddi; ond ymdeimlwn yn falch, ac yn ddiolchgar ein calon, fod crefydd syml, diddichell, anymhongar, onest, a char- edig yr addfwyn Iesu yn llawer rhy haelfrydig ei hegwyddorion, yn llawer rhy uchel ei hamcanion, yn llawer rhy ddidwyll yn ei honiadau, ac yn llawer iawn rhy bur a sancteiddiol ei dylanwadau i endorsio cŵyn y fath gyhuddwyr ; ac i signio death warrant cyflwr a chymmeriad y rhai nad ydynt yn gallu ys- twytho eu cydwybodau na'u synwyr i chwareu gwag ymddangosiad ger bron eu cyd-ddynion. Y mae ein calon yn gwaedu y foment hon o her- wydd y pwyso, y mesur, yr esbonio, a'r collfarnu a fu ar ein cyflwr gan y bobl fryntion neu anwybodus yma, o blegid ein canu a'n darlithio. Addefwn fod y gor-fanyldra yma wedi ein temtio weithiau i fyned yn nes i gyfnniau y tir gwaharddedig nag yr aethem oni ba'i hyny ; a chododd ynom awydd annaturiol i osgoi pob math o ymddangosiad ffurfiol. Y dwys, y difrifol, y pruddaidd, y tragedy, ydyw tymmer naturiol ein meddwl; dyna y teimlad sydd yn cyd- daraw â theimladau dyfnaí ein calon, ond fel y trawsnewidiwyd ein natur gan honiadau trahaus, ac ymddangosiadau gwag, ffol, a ffurfiol ein coll- farnwyr. Ystyriwn gyda difrifwch fod yr amser i'r farn wirionffol, ac i'r collfarnu trahaus yma, beidio bellach yn Nghymru; y mae tuedd yn y fath ym- ddygiad i greu rhagrithwyr yn wholesale, ac aiff yr oes nesaf i gredu mai ymgadw rhag y cyfryw bethau sydd fywyd tragwyddol. Onid oes perygl i'r di- dwyll a'r gonest edrych ar y cyfryw ymosodiadau fel math o shamfights, er dallu y werin rhag gweled yr Amaleciaid a'r Absalomiaid o bechodau ag y dymunir eu harbed ? Beth ganodd Llew Llwyyo, Owain Alaw, a ninnau erioed yn ein darlithiau cerddorol â'u tuedd at lygru a newidio moesau ein gwrandawyr ? Dyna " Bugail Aberdyfi," " Morgan a'i Wraig," a " Gwialen fedw fy mam." Beth sydd yn fasweddol ynddynt ? Yr ydym yn nodi y rhai yna, am ein bod wedi clywed siarad, ac wedi gweled ysgrifenu yn eu herbyn. Anfynych y rhoddir ond rhyw un fel yna mewn noswaith ; ond etto, os oes tuedd fasweddol ynddynt, y niae un yn ormod. Nid ydym, ac m fuom &m gefnogi llygredigaeth ; ni ddysgasom ac ni chauasom bennill masweddol yn