Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

& Y €#m4 [ẅẅ ítnfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, o? ^eHir.] Rhif. XVI GORPHENAF 1, 1862. Pris 2g. C YNNWYSIAD. Grammadeg Cerddoriaeth..... 117 Geiriadur Cerddoriaeth...... 117 Joseph Haydn........ 118 Gohebiaethau........ 120 Cyfundrefn........ 120 Llais......... 120 Solffâd......... 121 Ei8teddfod Llandinorwig...... 121 Cylchwyl Deirblwyddol Handel 122 Eisteddfod Gerddorol Caerfyrddin 123 Y Cyngherdd Mawr Cymreig yn Llundain - - 123 Y GERDDORIAETH. CaNIG.—"Ser y Nos.'' "Wedi ei chyfaddasu i GaEAL Y Coeaü gan y Parch. E. Stephen. GRAMMADEG CERDDORIAETH. GAN AB ALAW. F Raddfa Drydonig a'i Chyfryngau. Yr wyf eisoes wedi dangos ym mha ddull y mae y cyf- ryngau yn cael eu cyfrif, ac fod y pellder o un nod i'r líall yn cael ei alw yn eilfed, trydydd, pedwerydd, pum- med, chweched, seithfed, neu wythfed, yn ol nifer y graddan a ddicbon fod yn cael eu cynnwys rhwng y ddau nod a fyddo yn ffurfio y cyfrwng; neu, mewn geiriau ereill, yn ol y sefyllfa ym mha un y gall y ddau nod, sydd yn ffurfio y cyfrwng, gael ei gosod yn y raddfa. Ond yn awr, rhaid i mi egìuro fod gwahauol fathau o eilfedau, trydyddau, pedweryddon, &c; hyny yw, y mae gwahan- iaeth rhwng y naill eilfed a'r llaÜ, y naill drydydd a'r llall, &c; ond nid oes ond un math o wythawd (octare) yn y raddfa drydonig; o ganlyniad, ni fydd raid dywedyd llawer am hyny yn bresennol. Yn y raddfa hanner tonol (chromatic), a'r oseinradd (enharmonic scale), y mae mathau ereill o wythodau (octaves), y rhai a eglurir etto. Y mae amryfal gyfryngau y raddfa drydonig yn cael eu gwahaniaethu gyda'r ymadroddion — mwyof, perffaith, eithafol, a lleihaol. Y mae amryw awduron yn defnyddio ymadroddion ereill, ond credaf mai yr ymadroddion uchod yw y rhai mwyaf dealladwy. Y mae dau fath o eilfed yn y raddfa drydonig, sef mwyaf a Ueiaf. Pan fyddo cyfrwng yrAeilfed yn cynnwys tôn gyfan, megys o C i D, _Z\ fe elwir y cyfrwng yma, rhwng y C a'r ;j D yn eilfed mwyaf. Pan fyddo cyf- 1 ' -<J- d rwng yr eilfed yn cynnwys hanner tôn, C D megysoEiF.rj>----------—ìfyddai megys < fe elwir y cyfrwng yna yn eilfed j lleiaf. Dichon mai buddiol • fim hon, mai y gwahaniaeth rhwng eilfed mwyaf ac eilfed lleiaf, trydydd mwyaf a tlirydydd Ueiaf, &c, ydyw hyn— fod y oyfrwng lleiaf yn cynnwys hanner tôn llai na'r cyf- íwng mwyaf. Y mae puinp eilfed mwyaf, a dau eilfed lleiaf, yn gynnwysedig yn y raddfa drydonig; hyny yw, y mae pump o eilfedau sydd yn cynnwys tonau cyflawn, a dau eiifed sydd yn cynnwys hanner tonau:— Mwyaf. Mwyaf. Lleiaf. Mwyaf. Mwyaf. Mwyaf. Lleiaf. ^S ö= -^^m ■^_cJxeJ& Y mae dau fath o drydydd, sef mwyaf a lleiaf—y trydydd mwyaf, megys o C i E a gynnwys ddwy dôn gyflawn; ac o ganlyn- iad, fe'i geîwir y trydydd mwyaf. Y mae'r trydydd ZZ± 3t lleiaf, megys o D i P, yn gynnwysedig o dôn a hanner— ac am hyny, fe'i gelwir y trydydd lleiaf. Yr hyn a feddylir wrth ddyweyd fod y trydydd mwyaf yn gynnwysedig o ddwy dôn gyfan ydyw, fod pellder o ddau cyflawn rhwng y ddau nod sydd yn ffurfio y cyfrwng. Eglurhad: cymmerwn etto yr esampl a roddwyd o dryd- ydd mwyaf, sef o C i E. Mae yn ddigon amlwg y géllid gosod y nodyn D rhwng y ddau nodyn, C ac E, megys^— Y mae'r nodyn D yn cael ei gyn- nrychioli gan yr ysmotyn du yn yr A m—&—* esampl yna, o blegid ei fod yn nod- C D E yn sydd yn cael ei ddeall heb ei enwi. Yn awr, y pellder o C i D ydyw tôn gyflawn, a'r pellder o D i E ydyw tôn gyflawn ; o ganlyniad, y mae dwy dôn gyflawn o C i E. Etto, er mwyn bod yn ddigon eglur ar y pwngc, mi ddangosaf, yn yr un dull, pa ham y dywedir fod trydydd lleiaf yn gynnwysedig o don a han- ner. Cymmerwn yr esampl a roddwyd eisoes o'r trydydd lleiaf, sef o D i F. Y mae yn ddigon amlwg y gellid gosod y nod E rhwng y D a'r F, megys— Yn awr, y pellder o D i E yw ton gyfan, a'r pellder o E i F ydyw hanner ton; o gnnlyniad, rhwng y D a'r F, nid oes ond tòn a hanner, yr ■ hyn yw'r trydydd lleiaf. Y mae tri thrydydd mwyaf, a thri thrydydd lleiaf yn gynnwysedig yn y raddfa drydonig:— Mwyaf. Lleiaf. Lleiaf. Mwyaf. Mwyaf.. Lleiaf. W^- -T sfcs ztá 2=4 21 T5H DF EG FAGB AC GEIRIADUR CERDDORIAETH. (Parhád.-) R. R, nen R. H. a ddynoda fod yr adran uwchben yr hon ei dodir i'w chwareu â'r llaw dde. Rabbia, con (It.): gyda chynddaredd; yn angerddol. Raddolcendo ) (It.): tynerach a thynerach yn radd- Raddolcente ) ol. Rallentando (It.): term yn dynodi fod amser yr adran a nodir i'w arafu yn raddol. Dynoda hefyd leihad cy- hydedd (quant%ty) tôn. „ . ... Ranz des Vachts (Ffr.): alawon Swissaidd a ddefnyddir