Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

& ¥ €#E4' [Gellir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gellir.] Rhif. XV. MEHEFIN 1, 1862. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tudal. Cylchwyl Goffadwriaefchol Handel .... 113 Geiriadur Cerddoriaeth...... 114 Cân.......... 115 Joseph Haydn........ 115 Y GERDDORIAETH. CTDGAN—" Hosannáh Chorus." Gan Mr. John Williams (Ab Alaw), Treffynnon. CYLCHWYL GOFFADWEIAETHOL HANDEL. GAN Y PARCH. E. STEPHEN. Mae gwneud ysgrif neu gân goffadwriaethol am y rhai a ymadawsant â'r fuchedd hon, nid yn unig yn groes i'n harfer, ond hefyd tu hwnt i'n gallu. Er fod gwneud y cyfryw yn ffordd hynod o fanteisiol i gyrhaedd poblogrwydd gyda y cyhoedd, etto, teimlasom er's blynyddoedd fod cyrhaedd poblogrwydd yn y ffordd yna, i ni, fodd bynag, yn orchwyl rhy anhawdd, yn gystal ag yn rhy beryglus. Bu llawer farw yng nghylchoedd ein gweinidogaeth nad oedd genym, er chwilio, ddim defnyddiau coffadwriaeth o honynt, oddi eithr pethau ready made—pethau a wnaent goffadwriaeth o rywrai ereill, llawn gystal ag o honynt hwythau. Bu ereill farw ag yr oedd bod yn ddistaw yn eu cylch yn llawn mwy o garedigrwydd â'u perthynasau, ac yn llawer mwy cydweddol â'n teimladau ninnau, na phe ysgrifenasid dim am danynt, os gadawsid i onestrwydd lef'aru. Bu farw ereill ag y carasem eneinio eu henwau â'r awen oreu, a thragwyddoli eu coffadwriaeth â'r ysgrifau mwyaf effeithiol; eithr teimlem bob amser, nid yn unig ein bod yn analluog i wnend y cyfryw orchest, ond hefyd fod glan y bedd yn lle rhy ddifrifol, a'r fonwent yn dir rhy gyssegredig i'n bath ni, i ddwyn allan ein " galluoedd ysblenydd " at y gorchwyl o wahaniaethu rhwng cymmer- iad a chymmeriad ; a chan nas gallem wneud yr anrhyd- edd i bawb, dewisasom fod yn ddistaw am y cyfan, gan ystyried hyny yn fwy cydnaws â theimlad ein cyfeillion, ac yn Uai peryglua i'n defnyddioldeb ninnau. Gall y neb a fyno weled dau beth yn y rhagymadrodd yna—Fod rhai yn marw yng nghylchoedd ein gweinidog- aeth ni, fel rhywle arall, a Pha ham nad ysgrifenem gof- iantau a marwnadau ar eu holau, fel y gwna lliaws o weinidogion ereill ? Etto, er hyn yna, carwn ar hyn o bryd alw sylw ein darllenwyr at gylchwyl goffadwriaethol Handel, yr hon a gynnelir ddiwedd y mis hwn (Mehefin). Os bu cerddor erioed "yn teilyngu gwneuthur hyn iddo," diau y teilynga Handel, canys saif byth yn ymlier- awdwr yr oratorio ym mysg holl gyfansodd wyr eerddprol y ddaear. Nid dyma y gylchwyl gyntaf er cof am Handel. Cynnaliwyd amryw o'r blaen, er's blynyddoedd yn ol, yn y Westminster Abbey, lle y claddwyd ef; ac uwch ben y fan, yn y Poets' Corner, y mae cofgolofn o fynor iddo. Dywedir fod tebygrwydd mawr yn ffigyrau y golofn i Handel: saif ar ei draed, ac yn ei law gwelir rhol, ac yn gerfiedig arni, eiriau a nodau yr alaw bendigedig hwnw o'r Messiah, "I knoio that my Redeemer liueth." Ni buom yn Llundain erioed, heb fyned i'r Abbey i dalu ein gwar- ogaeth a'n moesgarwch i arwr anfarwol ygân. Y mae yn fater o gydwybod, yn gystal ag yn fater o serch a phleser genym fyned yno i ddal cymmundeb mud a distaw, etto dwfn, byw, a goruwchnaturiol, â'r ysbrydol Handel. Idea ofnadwy i gerddor hunanwneuthurol—cerddor wedi ei fagu rhwng mynyddoedd gwylltion Cymru—cerddor y gwaedwyd ei deimladau gannoedd o weithiau gan sarhâd bodau y disgwylid amgenach pethau oddi wrthynt—erdd- or a deimlodd i'r byw mai ymladdfa bywyd ydoedd sicr- hau rhywfaint o lonyddwch iddo ei hun, i ymbleseru yng nghreadigaethau diniwed ei grebwyll ei hun—cerddor yr ammheuwyd ei synwyr a'i gyflwr gan lawer Pharisead hunanddoeth, am iddo fentro cynnyg ymwthio i gyntedd nesaf allan teml y dduwies gerddorol—idea ofnadwy yw i un felly deimlo ei hunan ym mhresennoldeb, nid yn unig colofn, ond ysbryd tywysogaidd Handel. Rhyw dro yn y byd mawr tragwyddol, fe ddichon y deallir, 'ie, y gwelir, y teimladau gwylaidd, etto serchog—y meddyliau gor- lethol, etto adeiladol—y penderfyniadau anesboniadwy, etto annileadwy, a orseddodd ar ein calon, ac a Iwyr fedd- iannodd ein hysbryd byth o'r pryd y gwelsom gyntaf gof- golofh Handel yn Westminster Abbey. Wel, i ba le yr aethom—ie, dyweyd yr oeddym mai nid hon yw y gylch- wyl gyntaf er coffadwriaeth am Handel. Cynnafiẃyd hono yn Westminster Abbey, yn y flwyddyn 1784, tua chan mlynedd wedi ei eni, a phum mlynedd ar ugain wedi ei farwolaeth. Yr oedd y brenin George ni. yn bresennol yn hono. Cynnaliwyd un neillduol arall yn y flwyddyn 1791, y flwyddyn yr ymwelodd yr anfarwol Haydn gyntaf â Llundain, ac yr oedd yn bresennol yn y gylchwyl, ac o hyny allan, meddiannwyd yntau hefyd â pharch annilead- wy tuag at athrylith freiniol ac aruchelaidd Handel. Yr olaf a gynnaliwyd yn yr Abbey ydoedd yn y flwyddyn 1834, hanner can mlynedd ar ol y gyntaf. Pum mlynedd yn ol, cynnaliwyd cylchwyl arall o goffadwriaeth am Handel yn y Crystal Palace, ac un drachefn dair blynedd yn ol yn yr un lle; felly, y mae hon yn drydedd gylch- wyl yn y lle hynod a rhamantus hwnw, a thybir y bwriedir cynnal un o hyn allan bob tair blynedd. Yr oedd dros bedwar ugain mil yn bresennol yn y ddjweddaf; a chredir y bydd miloedd lawer yn rhagor yn y nesaf, yr hon a gyn- nelir yn y Crystal Palace eleni, ac y mae rheswm cryf dros gredu hyny, trwy fod yr Arddangosí'a yn Llundain, a'r ŵyl hefyd yn ennill mwy o sylw a dylanwad drwy yr holl deyrnas. Bydd golwg ar yr orchestra, heb son am ei gwrandaw, yn ddigon o dâl a boddhâd i bob calon. Y mae, rhifedi y chwareuwyr a'r cantorion yn aruthrol. Stringed instru- ments, 419; wind instruments, 86=505; trebles, 810; altos, 810; tenors, 750; basses, 750=3,120; principal iwcalists, 10; y cyfanrif yn 3,635. Dyna y perforjners eu hunain yn llawer iawn, iawn, mwy na llon'd y capel