Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mä ¥ ftlâl §m ww&& Hilẃ ŵwl ëÿwm* [Gellùr anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gettir.] Rhif. XIV. MAI 1, 1862. Pris 2g. CrNNWYSIAD. Tudal- Tipyn o Bobpeth....... 105 Cynghanedd (Harmony)...... 106 Geiriadur Cerddoriaeth - - - - - - 107 Grammadeg Cerddoriaeth..... 108 Joseph Haydn -------- 109 Gohebiaethau........ 110 Trychnodeb (Syncopation) - - - - - 110 Newyddion Cerddorol, &c. - - - * -111 Camp i Athronydd Cerddorol..... 1' 1 Hysbysiadau........ 112 Y GEEDDORIAETH. CTDGAN—" O Hyfryd Haf'%0 weithiau Haydn). TIPYN O BOBPETH. GAN Y PARCH. E. STEPHEN. 1. Y Cantata etto. Rhoddwyd cyfres o sylwadau eglurhaol ar gynllun y cantata yn y Faner gan Ceiriog. Yr ydym ni, bid siwr, yn tybied ddarfod i'n sylwadau blaenorol ar y cantata yn y Greal achlysuro rhai o sylw- adau Ceiriog; ac nid drwg genym hyny, o blegid diflas arswydus yw ysgrifenu erthygl bwysig a doniol (P) â neb o'r boneddigion yn cymmeryd arnynt ddarfod iddynt glywed gair am dani. Yr anwyl fawr, y mae hyny yn rhy mortifying i'w oddef genym ni, drueiniaid llenyddol, ag sydd yn gofalu am symmudiadau y bodau anffortunus sydd yn digwydd byw " yn y byd isloerawg " yma. Bydd yr ymgeiswyr wedi anfon eu cyfansoddiadau i'r frawdle cyn y daw y rhifyn hwn allan, eithr rhag y digwydd rhywbeth cyffelyb etto i fod yn destyn cerddorol mewn rhyw Eisteddfod, dichon na byddai gair neu ddau yn mhellach ar y mater yn anfuddiol, ac yna bydded fel yr ewyllysio y neb a ewyllysio. Ein prif gŵyn oedd, ac ydyw, yr ammod yma: " Cerdd- oriaeth y Cantata i fod yn syml ac mewn arddull Gy- mreig: fugues i gael eu gochel: ni bydd cyfeiliant yn angenrheidiol." Meiddiasom ddyweyd fod yr ammod yna yn annheg, yn gystal ag yn orthrymus, a bod y cais yn afresymol, a'i gyflawni yn ammhossibl, ac yr ydym yn digwydd bod etto o dan ddylanwad yr un argyhoeddiad. Nid ydym yn beio y cantata, nac yn collfarnu ei chyn- llun, eithr cwyno yr ydym yn erbyn y drefn a'r ammod a osodwyd i'r ymgeiswyr i weithio y cynllun allan. Beth a ddywedasid gan ein hadeiladwyr, pe buasai rhyw archi- tect wedi tynu plan adeilad hardd a chostfawr yn y Goíhic style, ac etto yn y specifications yn gwahardd holl neill- duolrwydd y cyfryw style, ac yn gorchymyn gweithio y plan allan yn arddull bwthynod tywyrch neu gabanau un- nos? Beth farnasai, deimlasai, siaradasai, ac a ysgrifen- asai ein beirdd cadeiriol, pe nodasid mai am awdl y rhoddasid y wobr a'r gadair yn Eisteddfod Caernarfon, ond nad oedd yr un gynghanedd gaeth i fod yn yr awdl hono ? Golwg fel yna yn union sydd genym ninnau ar ammodau y cantata. Dywed yr awdwr ei fod ef yn barnu " mai lle y cerddor ydyw gwneud cerddoriaeth i'r geiriau fydd o'i flaen—y dylai y geiriau fod o arddull y testyn, a'r gerddoriaetli fod o arddull y geiriau." Gwir bob gair. Am y rhyddid yna yr ydym yn dadleu; ac os cymmer Ceiriog y boen o edrych dros ein hysgrifau, canfydda hyny, a chenfydd hefyd mai am fod yr ammodau y cwynir yn eu herbyn, yn cyfyngu y rhyddid yna, yr ysgnfenasom. Diau y creda yr awdwr fod y geiriau " o arddull y tes- tyn," a chredwn ninnau, a chreda pob un ŵyr rywfaint am arddulliau cerddorol, nas gall " cantata mewn arddull Gymreig," &c, fod " o ardduíl y geiriau " a gyfansodd- wyd gan Ceiriog gogyfer â'r Eisteddfod Genhedlaethol yn Nghaernarfon. Y casgliad bellach ydyw fod Ceiriog a ninnau "yn unfryd unfarn " ar brif bwngc ein cweryl. " Felly, gan hyny," terfynwn y debate gyda dymuno llwyddiant i'r cantata, a heddwch i'r Eisteddfod. 2. Y gofyniad yn y Greal am Ionawr. Derbyniasom amryw lythyrau oddi wrth gyfeillion yn nghylch y gofyn- iad hwnw. Cynnygia rhai ei atteb, eithr yn gynnil i'w ryfeddu. Gofŷna ereill i ni egluro chwaneg arno. Wel, y mae hyn yna dipyn yn rhy rich. Erfynia amryw ereill arnom ei atteb ein hunain, er rhoddi eglurhad o'r modd y disgwylir attebiadau i ofyniadau cyffelyb. Wel, y mae hwn yna etto yn gaîs na buasem yn ei ddisgwyl. Y dosbarth yna yw y lliosocaf, a theilynga y flaenoriaeth. Nid ydym yn gweled yn ddoeth nac yn deg yn awr, atteb y gofyniad hwnw, gan mai nyni a'i rhoddodd, eithr os yw y peth yu ddewisol a chymmeradwy, cymmerwn ein rhyddid i atteb un arall cyffelyb iddo, a chredwn y bydd hyny yn rhesymolach ac yn fwy dyddorol. Tybier ein bod yn cael y sain yma— tr— Perthyn i ba gordiau y gellir tybied fod y B yna? fod yn sylfon i'r cordiau cyffredin canlynol:— GaU Os chwanegir y seithfed at y cordiau yna, gall y B fod yn sylfon i'r gyfres yma, a phob un o honynt yn wa- hanol:— GynSylfon. GÿyaSylfon. AJjynSylfon. Gall fod yn bummed y cordiau yma ar E:— * Neu y nawfed, fel uchod