Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

[Gcllir anfon 4 trwy y post am geinẁg; a dymunol fyddai eael anfon 4, 8, &c, os geUir.] Rhif. XIII. EBRILL 1, 1862. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tudal. Beirniadaeth ar yr Anthcmau yn Eisteddfod Melin- byrhedyn -------- P7 Cynghanedd (Harmony)...... 98 Geinadur Cerddorìaeth -..... 99 Joseph Haydn........ 100 Cherubini........ 101 Gohebiaethau........ 101 Newyddion Ceiddorol, &c. - - - - - 102 Hysbysiadau........ 104 Y GERDDORIAETH. Ctdgan— " YBugail Dedwydd" (The Merry Mountaineer). Trefnedig i Greal y Corau gan Llew Llwyvo. BEIENIADAETH AE YE ANTHEMATJ YN EISTEDDFOD MELINBYEHEDYN. GAN T PARCH. E. SIEPHEN. Y mae y geiriau a ddtwi&wyd i'r ymgeiswyr i'w gweled yn Ioel ii. 1, 2, 28, 32; a iii. 18, 19, 20; digon o eiriau i wneud oratorio. Nid yn aml y byddwn yn gallu niwyn- hau chwaeth pwylJgor eisteddfodau yn dewis geiriau at gyfansoddi cerddoriaeth arnynt. Digon tebyg mai ynom ni y mae y difiyg ; eithr beth ydym ni yn bersonol haws o hyny, gan nad yw eu harchwaeth hwy yn dygymmod â'r eiddom ni, nac yn ein hargyhoeddi mai ynom ni y mae y diffyg ? Gall y geiriau fod yn farddoniaeth fyw, er na fyddant y rhai mwyaf destlus i ymddangos mewn gwisg gerddorol, Nid â'r un delweddau, bob amser, y mae y bardd a'r cerddor, er yn frodyr, yn syrthio mewn cariad— a swyna y naill, ni hudola y llall—y peth sydd oruchel ac yn destyn gorchest gan y bardd, nid yw ond israddol ac anneniadol, o bossibl, yng ngolwg y cerddor, o herwydd mai nid o'r un safle, nac i'r un cyfeiriad, y mae y naill a'r llall yn edrych. • Talwn y warogaeth fwyaf cyssegredig i farddoniaeth Ioel. Y mae yn erchyll, yn gynnhyríus, ac yn ofbadwy o ogoneddus—y peth ydym ni yn ei hoffì jnewn barddon- iaeth. Yr ydym er's talm wedi myned yn llawer rhy galed ac anystyriol, neu y mae ein teimlad a'n meddwl wedi myned yn rhy ddwl a marwaidd i'r dandies ysnodenoga'r ffrithenau maiwodaidd, a welir yn rhy aml o lawer yng nghyssegrleoedd barddoniaeth, i effeithio arnom ; ac v mae caël barddoniaeth tebyg i eiddo Ioel yn ddeffroad adfywT iadol i'n henaid, ac etto, er hyn yna, ni fuasem yn hoffi cynnyg cyfansoddi cerddoriaeth arnynt, buasai y delwedd- au ofnadwy yn ein dycbrynu—y golygfeydd amrywiaethol yn ein llethu â'r tywyllwch gogoneddus—Beth ddywedwn ni ? A ydyw dywediad fei yna yn gywir ? Pa un ai cywir ai peidio, y mae gogoniant Ioel yn llawn tywyllwch -*-a'r tywyllwch yn orlawn o ogoniant—buasai peth fel yna yn ein gyru yn ol mewn arswyd ac ofn parchedig. Heb law dewis geiriau anghymmhwŷs, y mae dewisgor- mod o honynt yn " bechod parod i anigylchu " ein pwyll- gorau; ac o blegid hyny, y mae arddull yr Antbem yn . çael ei heBgeuluso,, ac «iddo yr oratorio yn cymmeryd ei lle, canys ammhossibl trafod cymmaint a hanner pennod heb i arddull syml yr anthem fyned o'r golwg; ac y mae hyn yna yn un achos fod y rhan fwyaf o'n hanthemau buddugol yn hollol ddifudd tuag at wasanaethu corau a chyunulleidfaoedd cyfíredin ; yn rhy faith ac anhawdd o ddim rheswrc—maent fel ffyrdd mynydd Hiraethog, yn tori eich calon, ac yn blino tich enaid wrth edrych ar eu meithder cyn dechreu eu teithio. Weithiau, gwna y cyf- ansoddwr yr hyd yn "fwch diangol" i'r lled, a chymmerir lliosogrwydd y geiriau yn esgus dros anystwythder ao annaturiobrwydd y gerddoriaeth. Bhwng y naill beth a'r llall, ychydig o'n hanthemau buddugol sydd yn eistedd ar orsedd caîon y genedl. Carem yn fawr i'n pwyllgorau gymmeryd y pwngc hwn at eu hystyriaeth; nid chwareu plant yw casglu arian gan wreng a boneddig tuag at les- oli y genedl, a rhoddi deg neu ugain punt o wobr am anthem; ac ar ol creu disgwyliad a myned i gostau i'w hargraphu, a'i thynged yn y diwedd fydd i ychydig o'r corau medrusaf ei dysgu trwy boen a thrafferth, yna ei gadael i huno yn llwch ebargofiant, heb neb yn gofyn pa I beth y mae hi da, a hyny yn unig am nad oedd y peth ddîs- ! gwyliasid, na'r hyn oedd ar y genedl angen, Credwn mai nid ar y cyfansoddwr na'r beirniad y gor- ! phwys y bai yna. Ymdrechu gosod allan y geiriau goreu I y gallo y mae y cyfansoddwr; a'r gŵr wnelo hyny oreu yn ol deddiàu addefedig cerddoriaeth, a wobrwya y beirniad; i ond dyna ddigon, tybed? I Pedair yn unig a ddaeth i'r ymrysonfa yma—sef Bobin ! Ddu o Feiripn, Henry, Ab Llawenydd, ac Owain Wyn. | Drwg genym nas gallwn ganmawl rbyw lawer ar y naill I na'r llall; a^ chan nas gallwn ganmawl, gwell genym | beidio condem^jio. Haera rhai ymgeiswyr nad ydyw y i policy yna yn uniawn—ond y dylid eu hysbysu o'u beiau | a'u colliadau, fel y gallont ddiwygio. O! ie, gallech feddwl eu bod mor addfwyn ag ŵyn bach, ac mor dringar I a blagur Mai; ond gwarchoder ni rhagddynt. Nid rhyw | ]awer o'r ddynoliaeth gerddorol a drwythwyd yn y gras- i usau yna ; yr edifeiriol yn unig a wrendy yn esmwyth am i ei feiau, ac a wna ei oreu i ddiwygio heb deimlo yn dram- gwyddus at ei gyhuddwr. Heb law hyny, y mae y beiau, o bossibl, yn gyfryw ag y dylai pob ymgeisiwr am wobr mewn eisteddiod fod yn eu gwybod, ac wedi dj'sgu eu gochel, cyn erioed dwyn ei waith o dan feirniadaetb, ond ei feirniadaeth fanwl a diduedd ei hunan ; a'r gŵr a esgeuluso hyny, pid yw yn ddiofal i'r beirniad penaf ei gyhoeddi yn droseddwr; ao ychwaneg, y mae amhell gyfansoddiad mor ddi-ddim, fel y mae yn ammhossibl cael d\m i'w ddyweyd am dano. | Os nad oes ynddo feiau i'w condemnio, y mae yn rhy | amddifad o rinweddau i'w ganmawl; a beth wna beirniad yn well â chyfansoddiadau o'r natur yna na myned heibio ìddynt mor ddisylw ag y goddefa eu hanelwig ddefnydd. Y mae Bobin wedi cynnyg am fugue. ac imitation am- ryw weithiau. Fugue wedi ei gweithio yn dda sydd orchestgamp, eithr nid oes dim mor angberddorol ag esgyrn sylfonau dignawd a difywyd yn ymritbio fel ysger- bydau augeu mewn cyfansoddiad. Os nad ellir ehtdeg at y mawreddog a'r goruchel gyda nerth a medr eryr- aidd, gwell ymfoddloni gydayrhyn sydd yn ein cyrhaedd. Y mae gan yr awdwr hwn un sylfon y buasem yn falch o honi: àyma hi--