Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&& T iilâl [Gellir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gettir.] Rhif. XII. MAWRTH 1, 1862. Pris 2g. CrNNWYSIAD. TudaL Y Cantata........ 89 Geiriadur Cerddoriaeth...... 90 Grammadei Cerddoriaeth - - - - - 91 Cynghanedd (Harmony)...... 92 Gohebiaethau........ 93 líewyddion Cerddorol, &c. ----- 93 Hysbysiadau........ 96 y GERDDORIAETH. Tbio—" Efe yw'm Cymmydog," gan John Owen (Glan Marchlyn), Llandinorwic. Ctdgan—"Gwisgwch y Cai'n," y cynghaneddiad gan y Parch. E. Stephen. Y CANTATA. GAN Y PARCH. E. STEPHEN. Dichon na oddefa y beirdd i ni ysgrifenu dim ar y can- tata, fel barddoniaeth, am nad ydym yn un o'r oraclau barddol, eithr yn unig yn ei chyssylltiad â'r gerddoriaeth, ddisgwylir gael arni gogyfer âg Eisteddfod Caernarfon; ond pa un bynag am hyny, cymmerwn ein hyfdra i gychwyn yn y ffordd hono, canys credwn ein bod mor alluog i deimlo y peth a rydd foddlonrwydd a hyfrydwch i ni yn bersonol ag unrhyw oracl dan haul y nefoedd. Nid ydym yn dyweyd y caiff neb arall hyfrydwch a bodd- lonrwydd oddi wrth y peth hwnw, ond gwyddom beth a'n plesia ni, ac ammheuwn a all y beirniaid mwyaf manyl- graff fyned lawer ym mhellach na hyn yna wedi y cyfan. Ẅel, cawsom hyfrydwch mawr wrth ddarllen y cantata ; pe yn amgcn, ammheuasem, naill ai nad Ceiriog oedd ei hawdwr, neu fod rhyw ddiflyg anadferiadol wedi ein goddiweddyd; o herwydd pwy nad yw yn cael hyny wrth ddarllen gweithiau Ceiriog ? Os oes y fath beth a bardd cenhedlaethol i fod, a bod cenedly Cymry heb y ba'rdd hwnw, a fyddai hi yn bechod anfaddeuadwy i'r nrdd farddonol nêillduo y cyfryw yn Eisteddfod Caernarfon, a rhoddi yr anrhydedd hwnw i Ceiriog ? Dywedir fod chwilio am ddiffygion mewn gweithiau, â gwneud ymdrech mawr i anghyttuno âg awdwyr, yn un * hanfodolion beirniaid " yr oes oleu hon," a mwy na thebyg mai angenrhaid a osodwyd arnynt i hyny gan y silod beirniadol ag sydd yn cyhoeddi eu hanathema ar bob beirniadaeth, wedi iddynt hwy ddigwydd, fel arferol, bod yn rhestr yr esgymmunedigion; o blegid os bydd y mymryn lleiaf o ddiffiyg yn y gwaith llwyddiannus, gwae i fyd ac eglwys os na byäd y beirniad wedi gweled, wedi collfarnu, ac wedi rhoddi nôd Cain ar y diffyg hwnw. Mynant i'r beirniad fod fel y gath â'i lygaid ar lygoden o fai yn barhaus, ac ni faidd dynu ei iygaid oddi ar y llyg- oden, hyd yn oed pe byddai i elephant o feddwl fyned heibio—-rhaid Eurgunio y llygoden yn dragywydd, eithr gochelwch son fod y fath beth a chawrfii o feddwl yn agos i'r terfynau. Os oes beiau yn y cantawd, nid ydym ni yn ddigon o ferdd a beirniad i'w nodi allan; eithr y mae un peth ynddi ag yr ydym yn teimlo awydd i'w gollfamu; nid ydym yn siwr ai bai ai beth ydyw; eithr os bai, y mae y rhan íwyaf o'r beirdd presennol wedi syrthio mewn car- iad ato, ac y mae ein gwrthwynebiad iddo yn fwy fel yr ydym yn gerddor, nag oddi ar un ymhoniad arall. Dyna ydyw—cyfnewid yr accen a'r corfan yn yr un odliad, yn neillduol yn yr un linell, megys yn y llinellau can- lynol:— "Fel | Cî/mry | gonest gad | ewch in' | ddiceud ' Mai | hi ein | ŵunain | sÿdd yn j gwneud. Mae | Iorwerth | Lloegr am | weinio'r | cledd Am | wneud cyf I amod a sef I ÿdlu Aedd. * * * * * 0 | gastell | EAuddlan i'r | castell | Awn 1 gu | sanu fy | mab, ac i'ch J c^/farch | cäwj, Mae | llwch cyssegr | edig Car | adog, A gwedd | illion | ^rthur | Äwr. Gwelir y cyfnewidiad yma hefyd yng nghân ddiweddaf y nurse, eithr y mae unoliaeth yn y cyfnewidiad trwy y gân hono. Gall nad ydyw hyn yna nac yma nac acw i'r farddoniaeth, ond dilea unoliaeth a symledd symmud- iadol y beroriaeth ar unwaith. Pan yn cyfansoddi alaw ar ryddiaitli, nid ydys yn disgwyl nac yn edrych am yr unoliaeth hwnw, eithr disgwylir am dano gan y glust a'r teimlad mewn alaw ar fesur cerdd, ac os na cheir ef, mae y gerddoriaeth fel dyn yn cael cam gwag, a'i holl gym- rualau yn merwino ac yn anesmwyth. Gan fod y pwyll- gor am gyfansoddiad rhwydd a phoblogaidd, teg fuasai cael ymwared o bob peth a lesteiria hyny. 3Pa arddull fyddai ddestlusaf i'r cyfansoddiad, nid ywyn hawdd dyfa]u ; carasem i hyny fod yn hollol at ddewisiad y cyfansoddwyr, eithr gwelwn na wna arddull yr opera y tro, canys nid oes un plot yn y farddoniaeth, ac y mae ei chynllun a'i threfniant yn ei gwneud yn ammhossibl i*w gwisgo yn yr arddull Gymreig. Tueddir ni i gredu nad yw Ceiriog yn rhy gyfarwydd mewn cerddoriaeth; yn amgen, rhoddasai fwy o arbenig- rwydd i'w principals. Ni cheir onid un gân gan y sèprano, a rhyw un ar ddwywaith geir gan y bass; a chan bj^led ag y deallwn, nid oes ond un gan y tenor, pryd y mae yr alto yn ymddangos ar y stage ddwywaith. Y local chỳirs sydd yn cael y rhan fwyaf arbenigol trwy y cyfan- soddiad, ac yn hyny gwahaniaetha y cantawd yn hollol oddj wrth arddull gyntefig cantata, er y gwisga ychydig o arddull cantatas Mendelssohn a Beethoven; a gŵyr pob cerddor nad yr arddull Gymreig yw yr arddull hono. Y mae yn ddirgelwch anesboniadwy i ni, pa fodd y gelKr hebgor cyfeiliant i'r fath gyfansoddiad, yn enwedig pan y ceir yr harps yn chwareu neu yn gwneud rhywbeth ar agoriad cyntaf y cyfansoddiad. Tery y ddau bennill agoriadol ni yn fwy priodol fel solo na chorus o " English noblemen and Welsh chief- taìns." A ydym ni i gymmeryd y ddwy odl gyntaf o'r permill olaf fel geiriau yng ngenau y Monwyson; sef, " Fel mae 'r lloer yn hoflS sylwi Ar ei delw yn y Ui, Drych i Einwedd wel'd ei gle Fyddo oes dy faban di."