Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

L T Ciiil [Geîlir -anfon 4 trwy y post am, geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gettir.] Rhif. XI. CHWEFROR 1, 1862. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tudal. Testynau Cerddorol Eisteddfod Caernarfon , . 81 Cynghanedd (Harmony)...... 82 Grammadeg Cerddoriaeth..... 83 Geiriadur Cerddoriaeth...... 83 Cerddoriaeth........ 84 Beirniadaeth ar Gyfansoddiadau Cerddorol . . 85 Newyddion Cerddorol, &c...... 86 Hysbysiadau -------- 88 Y GERDDORIAETH. Cydgan—" Cwymp Eden a Chodiad Calfaria," gan Eos Llechid. TESTYNAU CERDDOROL EISTEDDFOD CAERNARFON. GAN Y PARCH. E. STEPHEN. Ni wyddom yn iawn beth i'w ysgrifenu ar y mater uchod' ond trwy fod ein gohebwyr a'n cyfeillion yn gwasgu arnom i ysgrifenu rhywbeth arno, nid oes genym ond naill ai digio y cyfryw trwy fod yn ddisylw o'u heirchion, neu ynte cynnyg ar ysgrifenu rhywbeth. Beth fydd y rhywbeth hwnw, sydd etto tu hwnt i'n diraadaeth ni a hwythau. Addefir fod y darnau a ddewiswyd i ymgystadlu mewn canu, yn rhagorol, ac ni ehwynir yn erbyn y glees na'r tonau cynnulleidfaol, na chwaith yr alawon a nodwyd i'w cynghaneddu; eithr baich mawr y cwyn yw y Cantata; a chynnwysa y cwyn y tri pheth canlynol:— 1. Methu cael y geiriau. Dywedir fod y pwylîgor wedi addaw y cyhoeddid y geiriau yn y papurau tua mis Bbag- fyr diweddaf, yr hyn na wnaed, ac na wneir etto, ond y byddent i'w cael tua canol y mis hwn, trwy anfon a thalu am danynt; a haerir fod hyn yna yn gamchwareu, yn enwedig os yw y sl sydd allan yn gywir, sef fod rhai o'n prif gyfansoddwyr wedi eu cael er ys misoedd, a'u cael yn rhad. Yr oll sydd genym ni i'w ddyweyd wrth yr achwynwyr ar y pen yna yn awr ydyw—nad oes genym ni un wybod- aeth gyfrinachol, nac aü i ddrm o'r hyn a gyhoeddwyd o transactions y pwyllgor. Dichon fod gan y pwyllgor hawl i ohirio amser cyhoeddiad y geiriau, a hawl hefyd i'w rhoi am ddim i'r naill, a'u gwerthu i'r lleill, o'n prif gyfausoddwyr, fel y gwelont ac y teimlont oreu, nid ydyw yn ein gallu nac yn ein swydd i wybod y fath ddirgelwch. Os oes rhai wedi cael y geiriau o fiaen ereill, y mae gan y rhai hyny, ar ryw olwg, fwy o fantais ac amser i gyfan- soddi i'r gystadleuaeth na'r rhai sydd etto heb eu gweled; ond gall y cyfryw sydd hebddynt hyd yma, fod yn meddu ar stoch fawr o sylfonau ac alâwon ready made, wedi cael blynyddoedd o amser i'w cyfansoddi yn barod, wrth law, erbyn v byddo galw am danynt, a thrwy ychydig iawn o drafferth, eu cyfaddasu at y geiriau " yn ffamws," ac felly galíent chwareu " Titfor tat" â'r "prif gyfansoddwyr." Yr ydym ninnau yn gwisgo y cymmeriad o fod yn gyf- aasoddwyr, weithiau; eithr ni wyddom a yw yr achwynwyr hyn yn ein rhestru ym mysg " rhai o'n prif," ai peidio ; ond os ydynt, gallwn eu sicrhau na chawsom, na phryn- asom, ac na welsom erioed etto, eiriau y Cantata, ac na fu, a gwyddom hefyd na fydd, ynom y bwriad lleiaf i gyn- nyg arni ; a'n cynghor diragrith i bob cyfansoddwr ydyw, os na bydd yn hoffi y testyn, y beirniad, ac arnodau y pwyllgor, peidied a chynnyg; dyna fyddai oreu a challaf, ac nid rhingcian bytha, hefyd o eisieu cael pob peth yn oí square a chwmpas ein hanffaeledigrwydd anniddig ni ein hunain. 2. Arddull y Cantata. Nid yw hyn etto yn gorwedd yn esmwyth ar feddwl a theimlad rhai o'n cyfeillion. Cwynant nad ydynt yn gallu deall geiriad y testyn— " Cantata yn yr arddull Gymreig. Dim cyfeiliant yn angenrheidiol. Ehaid i ninnau addef fod hwn braidd yn dywyll, os nad yn anghysson ; ni wyddom yn iawn pa un ; o herwydd nid ydym yn meddu ar ryw wybodaeth eang iawn am yr arddull Gymreig, nac ychwaith yn orfanwl gydnabyddus am arddull cantata. Gwyddom fod i'r cantaia ei har- ddull, fel sydd i'r opera a'r oratorio, ac mai yr arddull gantataidd sydd yn rhoddi fynychaf i gyfansoddiad o'r arddull hono y cyfryw enw, ac nid ansawdd, ffnrf, ac arddull y farddoniaeth a ddewkk i gyfansoddi arni. Gwyddom hefyd fod i gerddoriaeth Gymreig ei harddull arbenigol wrth ba un y gellir, i raddau helaeth, ei hadna- bod oddi wrth yr arddull Ysgotaidd,Wyddelig, &c, a gẃyr pob un a ŵyr ddim am arddull gerddorol fod cymmaint o wahaniaeth rhwng yr arddull Gymreig, ac arddull cantata, ag a all fod rhwng dwy arddull gerddorol a'u gilydd. Os bydd y cyfansoddiad yn atteb i enw cantata, meiddiwn ddyweyd y rhaid iddo fod mewn rhyw arddull, amgen na'r un a ddeallir fel yr arddull Gymreig. Atddull gymmysg- edig, wediei ffurfio o, ac yn rhedegrhwngardduü yropera a'r oratorio yw cantata, ac nid un o'r ddwy yn gwisgo y ddelw Gymreig. Gwir fod genym Cantata Gymreig, wedi ei chyfansoddi gan J. A. Lloyd, Ysw., ond nid yr arddull Gymreig sydd i'r cyfansoddiad ardderchog hwnw. Yn awr, y mater sydd eisieu i'r pwyllgor, neu rywrai, ei egìuro, ydyw hyn—Pa un ai cyfansoddiad yn yr arddull gantataidd, ai cyfansoddiad yn yr arddull a hynodir fel yr un Gymreig, sydd i'w ddisgwyl. Os y gantataidd a olyg- ir, y mae yn dywyll i ni pa fodd y gellir hebgor cyfeiliant i'r cyfryw gyfansoddiad; ac os yw yr eglurhâd byr a roddwyd yn y Cerddor o gynllun ac ansawdd y farddoniaeth ja, gywir, ymddengys i ni yn orchwyl anhawdd iawn, os nad ammhossibl, eu gweithio allan yn deg a cherddorol heb gymmeryd rhyw arddull heb law yr un Gymreig. Os cywir yr eglurhâd, arddull yr opera a ymddengys i ni yn fwyaf cyfattebol â'r geiriau, ac nid yr ardduli Gymr- eig. Ar y pen yma hefyd, dywedwn—Dewised yr ymgeiswyr y drefn a'r arddulLsydd yn fwyaf anwyl gan eu chwaeth, ac yn fwyaf cydweddol â'u barn am arddull y l'arddon- iaeth, a chânt weled ddydd yr eŵtéddfod, os nad yn gynt, beth fydd barn y beirniad a'r pwyllgor am y dewis- iad hwnw. ; 3. Amser byr i gyfansoddi. Ydyw, y mae yn fyr, ac yn afresymcl felly, er cyfansoddi cantata deilwng o'r enw, yn enwedig i'r rhai sydd etto heb y geiriau, na cberddoriaeth wedi ei gwneud yn barod; a theimlwn braidd yn eiddiguf