Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&& ¥ €€E4 [GWMr an/o» 4 frecy y jjoíí om geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gellir.] Rhif. X. IONAWR 1, 1862. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tudal. Canu Cynnulleidfaol...... 73 Yr Hen Anthemau a'r Anthemwyr Cymreig - - 74 Geiriadur Cerddoaiaeth...... 75 Gluck yn Paris- -...... 76 Cerddoriaeth........ 77 Calenig......... 73 Newyddion Cerddorol, &c...... 79 At ein Gohebwyr....... 79 Hysbysiadau.......- 80 Y GERDDORIAETfl. Ctdíjan—" Molwch yr Árglwydd," gan Tavalaw (Pencerdd). CANU CYNNULLEIDFAOL. GAN T PARCH. E. STEPHEN. Canu cynnulleidfaol oedd pwngc ein herthygl ddiweddaf, ac yn ol ein haddewid, rhaid dychwelyd ato etto ; eithr cyn hyny, y mae ein teyrngarwch yn galw arnoni i amlygu yn fyr ein cydymdeimlad o berthynas i farwolaeth sydyn ac annisgwyliadwy y Tywysog Albert; o herwydd bu yn ystod yr holl amser y trigiannodd yn ein teyrnas ya noddwr gwresog i'r holl gelfau breiniol, yn enwedig i gerddoriaeth. Heb law hyny, yr oedd y Tywysog ei hun- an yn gerddor medrus, yn feirniad inanylgraff, ac yn gyf- ansoddwr destlus a pheroriaethol, yn neillduol tonau o arddull gyssegredig. Y mae hyn yn unig yn ddigon o reswm dros y crybwylliad yma am dano, ä'n gweddi ddi- ffuant ydyw ar i'r Duw sydd yn addaw bod yn Dad yr amddifaid ac yn farnwr i'r gweddwon, daenu ei aden dyner a thadol dros ein brenhines dirion a'i theulu galarus. Bellach, at fater ein herthygl. Cwynem y tro diweddaf o herwydd y gynghanedd af- rywiog ac afreolaidd a glywir yn fynych yng nghanu ein cynnulleidfaoedd. Gan fod rhyw ysbryd hynafol i'w ryfeddu wedi ein meddiannu gyda y canu yn y dyddiau presennol, fel nad oes un dôn yn warantedig fel un deil- wng o'r cyssegr, os nad ellir profi ei bodolaeth o ddyddiau Luther, neu ei bod yn nawsio yr arddull Lutheraidd. Beth fyddai i ni wneud pob peth " in character " trwy eu canu hefyd yn arddull yr oes hono ? Gŵyr yr hanesydd cerddorol mai y drefn fynychaf cyn hyny, y pryd hwnw, ac wedi hyny, ac hyd yn oed yn awr, mewn amryw leoedd ar y Cyfandir, wrth ganu y cyfryw donau, fyddai i'r holl gynnulleidfa gymmeryd yr alaw, yr hyn a alwent yn canto fermo, ac i'r côr a'r offerynau gymmeryd gofal y details, sef y gynghanedd, &c. Pe cynimerid y dull yma yn ein cynnulleidfaoedd ninnau, rhoddid mwy o arbenig- rwydd i'r alaw, a dichon y ceid mwy o gywirdeb a chys- sondeb gyda y gynghanedd. Beth feddylier o gynllun fel hyn, nes cael ei well—Fod i'r gynnulleidfa yn gyffredinol ddysgu a chanu y prif lais, a chael organ neu harmonium ym mhob addoldy, ynghyd âg ychydig o'r prif gantorion, i ofalu am yr harmony. Trwy ychydig bach 0 arferiad trefnus, chwaethus, a difrifol, gellid,yn y modd yna.dafiu naws y minor neu y major i'r gynghanedd, a hyny yn uniongyrchol ar y pryd, yn ol fel y byddo natur ac an- sawdd y geiriau yn galw, heb newid dim ar ffurf a sym- mudiadau gwreiddiol y canto fermo. Y mae y wedd sectol hefyd sydd ar ein canu yn gryn attalfa iddo ddyfod yn un cyffredinol. Gwir fod rhai tonau annibynol ar bob enwad—tonau a glywir ym mhob gwlad, a arferir gan bob cynnulleidfa, ac a genir gan bob un ag sydd yn " arfer ei ddawn er yn achlysurol " i hyny ; a chyd âg ychydig o eithriad, dyua y tonau goreu o lawer a feddwn, etto, hawdd iawn ydyw adiiabod yr enwad wrth ei ganu. Oni welir hymnau yr enwad, a'r tonau a gasglwyd 0 dan nawdd yr enwad, ac yn cael eu harfer yn ol ffurf ystrydybedig yr enwad, yn cael eu gwthio i bob cyfarfod a chynnulliad o eiddo y cyfryw enwad; a phob dieithr- ddyn o fewn y pyrth yn edrych yn safurwth a phrydyddol iawn ar yr enwad yn mwynhau ac yn helpu eu hunain, tra y mae yr estronddyn druan yn analluog hollol i brofi dim o'r seigiau. Os yw y sylw yma yn gwisgo gwedd rhy gondemniol, dymunem gael ein deall, nad condemnio yr ydym, eithr dangos y pa ham nad yw ein canu yn fwy cyffredinol; ac yn wir, os condemniad yw, pa enwad yng Nghymru a all haeru ei ddieuogrwydd ? " Canys gwyrasant oÚ; aethant i gyd yn anfuddiol; troisom bawb i'w ffordd ei hun." A oes dim rhyw ddiluw 0 wir gerddoriaeth i'w ddisgwyl ag y byddo ei lifeiriant mor nerthol, mor eang, ac mor gyffredinol, nes y byddo channels eulion a beision y canu enwadol yn cael eu colii a'u hanghofio byth gan helaeth- rwydd, dyfnder, ac eangder y môr o gerddoriaeth gyffred- inol ac ysbryüol fydd wedi eu gorchuddio. Os oes, dyna un fendith ammhrisiadwy i ganu ein cynnulleidfaoedd. Pechod parod i'n hamgylchu gyda y tonau cynnulleid- faol yn y dyddiau hyn ydyw eu canu yn rhy araf. Os Bu eu canu yn rhy gyflym ac anystyriol yn merwino ein clust- iau unwaith, yn awr ymgreinia ein henaid ynom o her- wydd yr arafwch a'r marweidd-dra, y ffurfioldeb a'r difat- erwch, sydd wedi ymdaenu drostynt fel penwyni Ephraim. Yr ydym yn llwyr argyhoeddedig fod rhyw fath o fywyd, er ei holl ddiffygion, yn tra rhägori ar y farwolaeth fwyaf trefnus; ac os na ddiwygir yn fuan yn hyn yna, bydd i'r ysgerbydau meirwon a dienaid yma bechu allan bob pleser ac ysbrydolrwydd o'r gwasanaeth. Gelwir am earnestness yn y pregethu a'r gweddîo, onid oes angen am hyny hefyd yn y canu ? Nis gallwn roddi darnodiad o'r hyn a feddyliwn wrth earnestness mewn canu, ond gallwn ei adnabod a'i deimlo lle y byddo, a gwyddom nad y ffurf- ioldeb a'r difaterwch presennol ydyw. Y mae gormod 0 fanylrwydd o'r hanner yng nghylch amser y don, a pha faint ddylid aros ar y gwahanol nodau, nes yw nerth a dylanwad y geiriau yn colli, ac yni a hoenusrwydd y ber- oriaeth yn diflanu. Siarad y geiriau oedd yn fwyaf hywel yng nghanu yr hen bobl, ac nid cyfartalwch amser; a chredwn fod hyny i fod yn arbenigrwydd yn y canu cyn- nulleidfaol, canys prif wasanaeth y cyfryw donau ydyw arddangos y geiriau, a bod yn foddion mwy effeithiol i'w hargraphú yn ddyfnach ar y galon ; tuag at hyny, tybiwn fod ŷn rhaid amrywio, nid yn unig amser y dôn, eithr hefyd amser cyfartalaidd y nodau, er mwyn cyfarfod â'r amrywiaeth a ddigwyddo fod yn y geiriau. Cymmerer y dôn " Clod," fel enghraifft, o Gerddor Eglwysig Mills:— 22t 2Ä2Ì 1=2- ?= -^R- ^^ Ehyfeddu 'rwyf, a mawr ryfeddod ;yw.