Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

4& ¥ €#m41 [OeUir anfon i trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai caél anfon 4, 8, &c, ot gellir.J Rhif. IX. RHAGFYE, 1, 1861. Pris 2g, CYNNWYSIAD. Tudal. Canu Cynnulleidfaol ------ 65 Yr Hen Anthemau a'r Anthemwyr Cymreig - - 66 Gluck yn Paris........ 67 Geiriadur Cerddoriaeth ------ 68 Helyntion Cerddorol y Brifddinas 69 Gohebiaethau........ 69 Anthem Genhedlaethol Gymreig 69 Gramadeg Cerddoriaeth - - - -''£'"• - 70 Newyddion Cerddorol, &c...... 70 Y GERDDORIAETH. Cydöan—" Molwch yr Arglwydd," gan Tavalaw (Pencerdd). ~~ CANU CYNNULLEIDFAOL. GAN T PARCH. E. STEPHEN. Mae y canu cynnulleidfaol yn cael, gan bob cenedl ac enwad, fwy o sylw yn y dyddiau preBennol nag arferol. Dyma bwngc y dydd gan y rhan fwyaf o'n cantorion, ac eto, rywíbdd, nid yw wedi dyfod ond i raddau am- mherffaith iawn, yn werth ei alw yn ganu cynnulleid- faol; os wrth ganu felly y golygir fod yr holl gynnull- eidfa, yn broffeswyr a gwrandawyr> yn cydfoliannu yr Arglwydd trwy gerddoriaeth yn yr addoliad cyhoeddus. Er cymmaint a ysgrifenir yn ein cyhoeddiadau yn erbyn y eanu corawl, ac o blaid y canu cynnulleidfaol, er cymmaint a gymmhellir ac a wesgir ar y mater i sylw yr eglwysi yn eu cyfarfodydd neillduol a chyhoeddus, er cymmaint o ymdrech a fu ac y sydd i ddewis tonau syml a phwrpasoì i'r gynnulleidfa, er sefydlu undebau i ddysgu a chynnal cyfarfodydd i ganu y cyfryw don- au, ac er i gantorion ag sydd yn alluog i ddysgu a chanu darnau cerddorol mwy cywrain, ac o bossibl, gerddoriaeth fwy swynol, yn gystaî a mwy aruchel, er i'r cyfryw, meddaf, hunanymwadu a rhoi heibio gryn lawer o'u mwyniant personol er mwyn cyfarfod â rhai Uai eu medr, er mwyn dysgu a chyfarwyddo rhai llai eu gwybodaeth, ac er mwyn bod ar dir digon isel fel y gallo pa»b, dybygid, gydgyfarfod a chydaddoli gyda y gân; er hyn oll, nid oes un o bob cant o'n cynnulleidfa- oedd wedi ymafiyd etto yn y gorchwyl, nac yn ym- ddangos eu bod yn teimlo odid ddim dyddordeb yn y symmudiad. Beth yw yr achos? Beth hefyd? À ydyw y canu yn rhan o'r addoliad? A oes mwy o rwymedigaeth ar rai nag ar ereill i ymgeleddu y rhan hono? A oes gan aelodau eglwys^g fwy o hawl i esgeuluso y cyfarfodydd canu na'r cyfarfodydd gweddi, &c. Ai cyfreithlawn ydyw yfed gwaed un ddyled- swydd er mwyn pesgi dyledswydd arall? A oes rhyw synwyr mewn ymosod byth a hefyd ar yr ycbydig gôr ag sydd yn teimlo awydd i feithrin y rhan yma o add- oliad y cyssegr, tra y mae'r rhan fwyaf o'r eglwys a'r gyn- nulleidfa mor ddifater o honi ag yw'r estrys o'i chywion ? Yr eBgusawd a glywir fynychaf dros y difaterwch ydyw hwn—pe cenid y tonau hyny a fedrent hwy, y canent hwythau; a thrwy nad ydynt yn medru y ton- au newyddion sydd wedi dyfod i arferiad yn ddiw- eddar, y rhaid iddynt o angenrheidrwydd fod yn ddis- taw. A gawn ni ofyn yn serchog i'r cyfryw, Pa rai yw y tonau a fedrant? Faint yw eu rbif, a pha bryd y darfu iddynt eu dysgu? Ai yn ddiweddar, ai ynte a oes llawer o flynyddoedd er hyny ? Os dysgasant ryw donau rywbryd, ai gormod gofyn, pa fodd, ac yn mha le? A fuont ryw dro yn ymdrechu dysgu y tonau hyny i ereill? neu ynte a wnaethant un ymdrech deg i geisio dysgu y tonau a arferir yn bresennol? Credwyf y byddai attebiad gonest a diamwys. i'r gofyniadau yna yn hanner y ffordd i gyrhaedd argyhoeddiad mai nid rheswm yw yr esgusawd a nodwyd; a gwaeth na hyny, ofnwyf y profant nad yw y cyfan ond ffordd respectable i dawelu y gydwybod,"rhag iddi gondemnio eu hym- ddygiad yn aberthu i'r Arglwydd eu Duw aberthau rhad, a'u dull oeraidd a diog yn addoli yr Arglwydd trwy gerddoriaeth fodd bynag by proxy. Tybed nad yw hyn yna yn fwy na digon yn y eyfeiriad yna; gan y credwyf ei fod, cyfeiriaf ychydig o sylwadau i'r ochr arall, ocbr ag y mae ei dylanwad yn Uawn mor bwysig er llwyddiant neu afiwyddiant y canu cynnulleidfaol. A ydym ni ag sydd yn blaenori ychydig gyda y canu yn sicr ein bod wedi deall gwir arddull y cyssegr? Dadleuir gan rai yn selog iawn,nad oes yr un slur byth î fod yn y tonau hyny, pryd y byddai ein hen dadau duwiol a gwresog eu calonau yn slyrio bron bob gair, a hyny mor fwyn a didrafferth, fel nad oes na llais na thafod yn bresennol yn hanner digon ystwyth i'w dilyn; acy mae slurs yn fynych yn nhonau Luther; hyny yw, yn eu ffurf wreiddiol, ac ystyrir Luther yn gyffredin fel tad yr arddull gyssegredig. Myn y nesaf nad oes dim ail adroddi a dyblu yr un geiriau i fod yn- ddynt, heb g»fio fel y byddai yrhen seintiau gynt yn dyblu a threblu drosodd a throsodd, a phob round yn gweithio ei ffordd yn mhellach i'r galon; ac yn wir pan y bydd tipyn o hwyl ar y canu yn awr, oni ddyblir hwynt drachefn a thrachefn ? Cofiaf byth yr effaith a gafodd un henGristion arnaf pan yn blentynwrth iddo ganu drosodd drachefn a thrachefn, â dagrau mawrion yn ffosydd ar hyd ei ruddiau, y geiriau hyny, "Bywha dy waith, ni phery'm taith yn hir;" "Clod" ydoedd y dôn; a gŵyr ein cantorion nad oes dim dyblu felly yn y dôn; a'r pryd hwnw, fel arferol, canai y gynnulleidfa y geiriau yn mlaen i ddiwedd y pennill; ond '" Bywhâ dy waith, Bywhâ dy waith," oedd yr olí a ganai ac a ddywedai yr hen Gristion, nes ydoedd y " Bywhâ dy waith " fel mellten fyw yn cerdded drwy y dorf; a diw- eddodd y canu hwnw mewn cawod faethlawn o orfoleddu bendigedig, ac echo creigiau y wlad drwy y noson hono ydoedd " Bywhâ dy waith." Dywed ereill wrthym nad ydynt i fod yn wahano leisiau; h. y.,nad oes dim cynghaneddu i fod arnynt; a phan y byddwn yn gwrandaw ar y gyngharedd a arferir arnynt gan ein cynnulleidfaoedd yn gyffredin, byddwn bron a chael ein perswadio i ddyweyd yr un peth; o blegid fod y symmudiadau mor afreolaidd a'r gwahanol leisiau mor anghyfartal i'w gilydd,nes yw y seiniau yn disgyn mor oer ac aflafar ar ein clustiau a chawod o genllysg. Dyma un aflwydd mawraddaeth i mewn i'r canu trwy y symmudiad diweddaf. Ceir yr undeb a'r ysgol gân fei un gŵr yn canu y cynghaneddiad a ddysg- wyd o Gerddor y Cyssegr, neu o lyfr tonau Ieuan Gwyllt, pryd y mae corph y gynnnlleidfa, os byddent yn canu hefyd, yn canu rhyw gynghaneddiad o eiddo rhywun arall, a llawer yn canu eu cynghaneddiad anwyl eu hun- ain; a thrwy'r cwbl, gofynir ar fedrusrwydd dewin o'r Aipht i wy bod pa un ai canu ai hogi llifiau y maent,