Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€#m4W [Gellir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon á, 8, &c, os gettir.] Rhif. VIII TACHWEDD 1, 1861. ns 2g- CYNNWYSIAD. Anerchiad ------ Cynghanedd (ffarmony) - Geiriadur Cerddoriaeth - Gluck yn Paris- - - . - Helyntion Cerddorol y Brifddinas - Newyddion Cerddorol - ündeb Cerddorol CynnuHeídfaol Arfon - Eisteddfod Genhedlaethol 1862 Y Oyngherdd Dirwestol yn y Palas Grisial Bethlehem, ger Bangor - Gwobr etto!...... Hysbysiadau...... Tudal. 57 58 58 t<9 60 61 61 62 62 63 63 6i y GERDDORIAETH. CTDGAN—" Telyn Iudah," gan Mr. J. Wüliams (Ab Ahw), Treffynnon. IV Nghyfeillion Cerdboeol, Wrth ymgymmeryd â rhan yn ngolygiid y Greal, nid oes eísieu i mi eieh hysbysu ei fod wedi dyfod erbyn hyn i safle bwysig yn mysg cyhoeddiadau ein cenedl, a bod argraff ei ddylanwad i'w weled yn amlwg eisoes ar ein corau. Felly, nid am fod y Greal yn colli tir, a bod ei ohebwyr presennol yn rhy egwan i'w gario )-n mlaen heb fy nghynnorthwyon, yr ydwyf yn cydsynio i fod yn un o'i olygwyr, eithr am y mynai y cyhoeddwr gael help fy ngwasanaeth. Ni bu ynof erioed ryw archwaeth neillduol at ys- grifenu, na'r rhyfyg hwnw i ymhoni mewn medrus- rwydd anghyffredin fel llenyddwr; o herwydd hyny, petrussis lawer, a bum yn hynod o hwyrfrydig cyn cydsynio. Ond wrth weled y cyhoeddiad yn dal ei ffordd, a'i gyhoeddwr mor benderfynol am ei ddwyn allan, a chael addewid o gefnogaeth rhai o brif lenydd- wyr cerddorol ein cenedl, tybiais mai fy nyledswydd oedd rhoi i fyny, a gwneud yr hyn a allwn. Addefaf yn rhwydd, a chyda y pleser mwyaf, fod cyhoeddiad galluog a difyrus arall o'r un natur ger bron y cyhoedd; eithr y mae channel lenyddol a dar- llengar Cymru benbaladr yn ddigon llydan a dofn i'r àdwy lestr fechan yma nofioynddi,heb fyned ar draws, na suddo y naill a'r lla.ll; ac ond i bob un ofalu am y cargo teilyngaf, bydd mwy na digon o ofyn am eu nwyddau. Felly, na chaffed malais ei lochesu, nac eiddigedd ei goleddu rhyngom—oddi eithr yr eiddigedd anrhydeddus hwnw o fod am y goreu i lesoli a dyrch- afu ein gwlad mewn moes a rhinwedd, ac i roddi yn meddiant ein cydwladwyr gyfansoddiadau, ac i weithio i'w calonau gerddoriaeth teiiwng o'u hoesa'u galluoedd, a theilwng o'n crefydd a'u cyssegrodd. Y mae y weinidogaeth yn anwyl a gwerthfawr iawn yn fy ngolwg, ac y mae bron fy holl amser yn cael ei gyssegru iddi; etto, er pan wyf yn cofio diro, yr oedd ynof serch a chariad angerddol at y canu, yn gystal ag at y pregethu; a mynych y dywedwyd gan aml i fod hollwybodol, fy mod yn fwy o ganwr nag oeddwn o bregethwr. Wel, gadawer i hyny fod; ond os bydd y bodach hyny rywfaint boddionach, gallaf eu sicrhau, pa mor selog bynag ydwyf dros y canu, fod yn weíl o lawer genyf am y pregethu; ac os bydd raid, caiff y "canufyued i'r ceunant" cyn y caiíf y pregethu ei esgeuluso. Ond pa angeDrheidrwydd sydd i nychu y naill er ymgeleddu y llall? Dim, mewn un modd; y maent yn gyfnerthiad i'w gilydd, ac yn berthynasau agos iawn â holl wasanaeth y cyssègr. Gan hyny, tra y credaf na bu fy llafur ynddynt yn gwbl ofer, ac ynof allu i weithio, a chyfleusderau yn cael eu rhoddi; a thra byddo fy liafur yn dderbyniol, a'm hoes yn cael ei hestyn, caiff yr ychydig fedr a thalent a feddwyf yn y canghenau yma eu cyssegru ar alîor fy ngwlad, er ei mwyniant presennol a'i buddiant dyfodol. Nid wyf yn dewis dilyn yr arfer fawreddus o hysbysu y cynlluniàu sydd genyf mewn golwg, na chyhoeddi piogramme o'r "gorchestion dihafal" a fwriadwyf eu cyíiawni, am yr ystyriwyf hyny yn ddiangenrhaid, ac weithian yn anfanteisiol. Nid oes un cadfridog prof- iadol yn hoffì i'w stratagems ddyfod yn hysbys nes i'w fuddugoliaethau gael eu hennill; ac os gwneir rhyw orchest genyf o gwbl, gwell genyf daraw y darllenwyr yn sydyn a dirybudd.fel y feliten,yn hytrach na chyn- hyrfunefoedd a daear, a chreu disgwyliadau afresymol er mwyn y pleser hunanol o'u somi yn y diwedd. Teimlwyí' yn wir ddioìchgar, os gwna cyfansoddwyr a lloffwyr cerddorol fy nghynnorthwyo, trwy alw "fy sylw, yn awr ac eilwaith, at ddarnau o (a chyfansoddi hefyd)gerddoriaethgymmhwys i ymddangosynyGaEAL. Meddyliwyf mai darnau hawdd, ystwyth,^ byrion, a tharawiadol, fyddai y goreu am ychydig—rhjwbeth rhwng tônau araf a chyssegredig, a choruses mawrion, gorchestol, ag sydd yn gwisgo arddull yr oratorio. Nid ydys yn meddwl gwrthod y rhai yna chwaith; eithr mwy dewisol fyddai genym ddarnau fel y nodwyd, am ychydig, fodd bynag, nes magu digon o tìas a medr yn y genedl at gerddor.aeth o radd uwch, ac o arddull gywreiniach. Yn awr, gj'feillion, meddyliwch a chyn- northwywch ni yn hyn yna, rhag gosod Mr. Gol. yn y brofedigaeth lem a'r weithred annerbyniol o argraphu gormod o'i " waith anwyl ei hunan." Er arbed traul ac amser, gwell fyddai i'r cyfryw ddarnau, ynghyd â'r cyhoeddiadau y dymunir galw sylw darllenwyr y Greal atynt, gael eu hanfon yn uniongyrchol yma, eithr anfoner pob gohebiaeth arall i'r swyddfa yn Ninbych. Hyderaf na bydd un cyhoedd- wr nac awdwr yn disgwyl i mi adolygu eu heiddo, heb yn gyntaf anfon y cyiryw i'm gofal; canys nid ydwyf yn ddigon cyfoethog i brynu pob cyhoeddiad, nac'yn ddigon hyf i'w benthyca, nac ychwaith yn ddigon doeth a medrus i'w barnu neb eu gweled. Ond os danfonir hwynt, ystyriwyf hi yn ddyledswydd arnaf naill ai i ddywedyd fy meddwl arnynt, neu eu dychwelyd yn ddistaw i'w perchenog; megys ag yr ysgrifena un, "fod canmawl llyfrau diwerth yn anghyfiawn, a chadw yn ddis)'lw rai ereill yn Uadrad." Beth bynag a wnaf ac a ysgrifenaf, ymdrechaf gyda fy nghydolygwyr (sydd wedi bod wrth Jyw y cyhoedd- iad o'r dechreu, a'r rhai sydd etto yn parhau gyda'r