Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AÂ T €#1141. [<7eKir an/o» 4 ẁ*u>2/ 2/ î>osí am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, ot geUir.] Rhif. VII. HYDREF 1, 1861. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tudal. Yr Hen Anthemau a'r Anthemwyr Cymreig - - 49 Grammadeg Cerddoriaeth..... 50 Celfyddyd Llais ac Arwest 51 Cerddoriaeth Genhedlaethol..... 52 Geiriadur Cerddoriaeth - - - - - - 53 Beirniadaeth Cynghaneddiadau Talwrn - - - 54 Helyntion Cerddorol y Brifddinas 55 Y Gymdeifchas Gorawl Eglwysig 55 Gwobretto!........ 55 Hysbysiadau........ 56 Y GERDDORIAETH. Bügeilgan—"Een Gymru hoff." Alaw Dyrolaidd wedi ei chynghaneddu gan Tavalaw. Can—" Nid oes dim dagrau yn y nef." Americanaidd. YE HEN ANTHEMAU A'E ANTHEMWYE CYMEEIG. GAN EOS LLECHID, Yn gynnar yn y ddeuddegfed ganrif, cyrhaeddodd cerddoriaeth a barddoniaeth eu graddau perffeithiaf yng Nghymru; er bod ygwyddoregau a'r celfyddydau, mewn gwledydd ereill wedi syrthio, i raddau, o uchder bri ac enwogrwydd, i ddifancoll ac ebargofiant. Priod- olir y cyfiwr dedwydd hwn ar gerddoriaeth a barddon- iaeth Gymreig yn hollol i ddylanwad yr eisteddfodau, pa rai a ddygid yn mlaen dan nawdd y tywysogion. Ar ddydd Nadolig y fiwyddyn 1177, cawn hanes Rhys ab Gruffydd yn rhoddi darfolliaut mawreddog, ynghyd â gorchestion milwraidd, &c, yn ei gastell newydd, yn Aberteifi, i liaws mawr o enwogion brodorol ac estron- ol, mewn cerddoriaeth a barddoniaeth. Rhoddwyd un dydd a blwyddyn o rybudd o'r eisteddfod uchod, drwy Brydain Fawr a'r Iwerddon, a chyrchodd iddi feirdd ac ofyddion o'r teyrnasoedd cyfagos. Y beirdd a'r cerdd- orion a wahoddasid o Wynedd a Deheubarth i'r ym- rysonfa hon, a osodid mewn cadeìriau, gyda seremoni a rhwysg mawreddog, yng nghanol neuadd y castell. Yn yr eisteddfod hon, ennülodd beirdd Gwynedd yr holl destynau barddonol, a cherddorion y Tywysog Rhys ab Gruffydd y testynau cerddorol. Dywedir i'r Arglwydd Rhys wneud cymmaint, os nad mwy, na neb o'i gyd- dywysogion. er hyrwyddo a meithrin llenyddiaeth y genedl, yn enwedig cerddoriaeth a barddoniaeth. Ond yr uu ag sydd yn dwyn y dystiolaeth gy wiraf a manylaf o sefyllfa cerddoriaeth Gymreig ydyw yr hanesydd cywrain ac athronyddol hwnw, Giraldus Cambrensis, yr hwn oedd hanedig o deulu parchus yn agos i Tenby, yn swydd Benfro. Yn y flwyddyn 1187, daeth Giralclus Cambrensis, gyda Baldwin, archesgob Caergaint, drosodd i Gymru, i bregethu Croesgad (Crusade) i'r Cymry, ac ysgrifenodd deithlyfr, yn yr hwn y ceir hanes manwl am sefyllfa cerddoriaeth yr adeg hono. A chan ei fod yn canlyn Baldwin, yr arch- esgob, drwy yr eglwysi, ac yn pregethu ynddynt hefyd, yr ydys yn ystyried ei dystiolaeth o barth cerddoriaeth Gymreig o'r awdurdod uchaf. Yn awr,ni a ddyfynwn, mor agos ag y gallwn, ei eiriau ef ei hun, o'i draethawd rhagorol, " Disgrifiad o Gymru."* •'Drwy bereidd-dra eu hoffer cerdd, y maent yn boddhau ac yn difyru y glust. Y maent i raddau yn wyJltaidd, etto yn dyuer yn eu trawsgyweiriant; a thrwy gyfiym ymruthriad rhyfeddol y bysedd, a'u trawsfudíad cyflym o anghydgord i gydgord, cynnyrch- ant y gynghanedd fwyaf hyfrydber. Y mae i'w sylwi, pan yn eu holl gyflawniadau cyflym,nid ydynt bythyn anghoflo y gwir amser, na'r cyfartaliad cerddorol; a'r fath yw eu celfyddyd, gyda'u holl gyfnewidiadau tonawl, amrywiaeth offerynpl, ac astudrwydd cynghaneddol, y maent yn dal y fath berffeithrwydd cyssonedd, a mel- odedd, y fath íwynaidd gyflymdra, y fath gyfartalwch anghyfartal, a chydgord anghywair, fel pe bai'r tanau yncydseinio mewn pedwarau neu bummau. Dechreuant yn wastad yn B leddf (B^r) a dychwelant i'r cyfryw gyda melusrwydd a seiniant hoffadwy. Y maent yn dechreu eu halawon, ac yn eu diweddu, mor gelfydd, a than drwm seiniad y tanau mwyaf y mae memllais, y rhai mân, yn trachwareu mor rhydd, yn dywenu mor ddirgelaidd, ac yn dyhuddo mor hyfrydlawn, ag y gwelir mai'r celfydd-dra mwyaf ydyw celu celfyddyd; o'r hyn y digwydd fod yr alawon hyny, y rhai a barant hyfrydwch mewnol annhraethadwy i ysbryd y rhai a sylwant arnynt yn ddeallus, ac a ystyriant yn dreidd- gar ddirgeledigaethau celfyddyd. Ond yn y gwrth- wyneb, i'r rhai a edrychant heb weled, ac a wrandaw- ant heb ddeall, y maent yn blino eu clustiau, yn bytrach na'u boddhau, ac a barant iddynt, ac a hwy yn wrandawyr anfoddlawn, flinder, megys ysgrechian didrefn ac anfwynaidd. Y mae gan y Cymry dri math o offerynau cerdd—y delyn, y bib, a'r crwth. Nid ydynt yn canu eu cerddau yn un Uais, fel mewn gwled- ydd ereill, eithr yn amryw ranau; fel ag mewn torf o gantorion, yr hyn sydd arferol yn y wlad hon, clywir cynnifer o wahanol leisiau cyfalawol ag a welir o ddyn- ion, ac oll yn cyduno gyda melusder addwyn, mewn cydseiniad ac alawiad celfydd yn B leddf," &c. Oddi wrth yr hyn a ddyfynwyd uchod, ac oddi wrth ffeithiau hanesyddol, y mae genym bob lle i gredu fod y delyn yn cael ei harferyd yn y gwasanaeth dwyfoL Fel enghraifft; cawn hanes un Ifan William yn chwar- eu telyn fel substitute i organ, mewn eglwys yn Llundain, yn rhywle o gant i chwech ugain mlynedd yn ol. Y mae twysgen byd o Salm donau yr Ifau Wil- liam hwn ar gof a chadw, yn ol fel y byddai ef yn eu chwareu ar y delyn. A chlywais fy nhaid yn dyweyd yr arferid y delyn ar uchel wyliau yn yr eglwysydd yn moreu ei oes ef. Yn awr, ni a roddwn enghreifftiau o'r tonau Gregor- aidd, y rhai oeddynt yn cael eu harfer yn yr eglwys o'r chweched ganrif hyd amser Guido, yn yr unfed ganrif ar ddeg. 1Y mae disgrìfiad Giraldus o gerddoriaeth, yn y traethawd uchod, yn perthyn mwy i'r gerddoriaeth wladol; ond fel y dywed- wyd eisoes, y mae fel drych i edrych drwyddo at sefyUfa cerddor- iaeth yn gýífredinol.