Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ìä ¥ mmàM t> [Oellir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os gellir.] Rhif. VI. MEDI 1, 1861. Pris 2g, CYNNWYSIAD. Tudal. Cynghanedd (Harmony)...... 41 Celfyddyd Llais ac Arwest 42 Grammadeg Cerddoriaeth..... 44 Geiriadur Cerddoriaeth...... 44 Helyntion Cerddorol y Brifddinas 45 Gohebiaethau ....... 45 -Tewyddion Cerddorol...... 46 tíysbysiadau........ 48 Y GERDDORIAETH. Choeale— " Molu-ch yr Arglwydd," wedi ei threfnu i'r Greal, allan o'r oratorio Americanaidd, " Esther" gan Tavalaw (Pencerdd). Y cynghaneddiad buddugol o "Talwbn," gan CYNGHANEDD (HARMONY). ERTHTGL III.—EI HANES. GAN EOS llechid. Fod cynghanedd mewn ymarferiad mor foreu a melod- edd, sydd bwngc ag y mae llawer o ddadleu wedi bod arno gan gerc dorion hen a diweddar. Haera rbai fod yr hynafiaid yn hysbys o gyrghanedd, yn ol ystyr presentol y gair. Fod ganddynt alawon wedi eu trefnu a'u cynghaneddu wrth reolau cyfeiiiant (coun- terpoini). Y rhai mwyaf brwdfrydig dros gyngbanedd bynafol oeddynt Gaflurio, Zarlino, Gio, Battista Doni, Isaac Vossius, Zaccharia Tevo, y tad Abbe Fraguier, a Stillingfleet, awdwr y traethawd rhagorol hwnw ar Princìples and Pouer oj Barmcny. Y blaid yn erbyn drachefn oeddynt Glareanus, Salinas, Bottrigari, Ar- tusi, Cerone, Kepler, Mersennus, Kircher, Claude Perrault, Bontempe, Burette, y tadau Bougeant a Cer- ceau, Padre Martini. M. Marpurg, M. Kousseau, a'r hen Dr. Wallis. Gaffurio. yn ei waith ar gerddoriaeth, a ddyfyna o waith Bacchus, yr ieuangaf, fel prawf o frawddeg yn gosod allan, medd efe, fod elfenau cy- nghanedd yn gwbl hysbys i'r hen dadau, &c, pryd, mewn gwirionedd, nad oes ynddo un gair yn dwyn perthynas á'r cwestiwn dan sylw, ond ychydig reolau o barth melodedd yn unig. Zarlino, drachefn, a haera ei bod yn ammhossibl, gan fod ganddynt gynnifer o wa- hanol ofíerynau tant, nas gallant o ddamwain chwareu yn gynghaneddol. Ý mae hanesyddiaeth yn dyweyd nad oedd y lyre, neu y delyn, a ddyfeisiwyd gan Mer- cury, yn cynnwys ond yn unig dri thant,1 a'r rhai hyny yn cyfatteb i'r tii thymmor: haf, gauaf, a gwanwyn; y tant cyntaf yn cyfatteb i'r haf, neu'r meiullais; yr ail i'r gauaf, neu'r llais dwfn, a'r trydydd i'r gwanwyn, neu'r llais canol. Pa fodd, gan hyny, y gallant "o ddamwain chwareu yn gynghaneddoí" ar offeryn trithant? O Mercury, ddwy fil o flynyddoedd cyn Crist, hyd Terpander, yr ydys yn cael fod chwaneg o donau wedi eu rhoddi at y lyre, neu'r delyn, a'u bod yn saith mewn nifer, ac yn cyfatteb i'r saith blaned; ond pan antur- iodd y cerddor enwog Timotheus chwanegu i>edwar yn rhagor, fe'i halltudiwyd o wlad ei enedigaeth, canys yr oedd yr hyn oedd uwch law saith yn ddirywiad ar berffeithrwydd, yn ol barn yr hen dadau. Doni, bon- eddwr o Florentine, yn y ganrif ddiweddaf, a haerai, oddi wrth frawddeg yn ngwaith Plutarcb, fod y lyreyn. cael ei thiwrio yn gynghaneddol, yn debyg fel y tiwnir y crwth neu viol y dyddiau presennol. Dychymyg yw hwn etto, fel eiddo Pythagoras, am gynghanedd yr awyrgylch. Yn y traethodau ag sydd wedi dyfod i lawr hyd atom o eiddo yr hen dadau boreuol, megys Plato, Aristotle, &c, nid oes ynddynt yr awgrymiad lleiaf eu bod yn bysbys o gynghanedd; canys ni olyg- ant wrth y gair harmonica, &c, gyfuniant gwahanol seiniau fel mewn cynghanedd, ond trefniant mydryddol, rheolaidd, a chyfartal ar seiniau unigol melodaeth; felly, ar wâg ddychymyg y beirdd paganaidd, y mae pleidwyr y gynghanedd hyDafol wedi seilio eu holl res- ymau. Hefyd, nid oes ymgais am gynghanedd yn un o'r alawon sydd wedi cyrhaedd hyd atom. Dyma enghraifft o alaw y prif gerddor, Pindar:— Chorus ad Cytharam. OIHy-O :ú i^ -ö- •& 13: P-ŵ^» +±Ŵ- ■er ^^r -ö- ©- =s:d: -ö- -•—• t=:t: p=í=o: -ö- o: ^ö nsi&or^i i Gwel Syr J. HawJdûa' Eistory oý Music, cyf. i., tudal. 3. Q^_ö_0—h©ri— =t