Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

àiL t mmàrn [Oellir anfon 4 trwy y post am geiniog; a dymunol fyddai cael anfon 4, 8, &c, os geUir.} Rhif. V. AWST 1, 1861. Pris 2g. CYNNWYSIAD. Tudal. Tr Hen Anthemau a'r Anthemwyr Cymreig - - 33 Cerddoriaeth Llydaw...... 34 Celfyddyd Llais ac Arwest 35 Grammadeg Cerddoriaeth •..... 36 Geiriadur Cerddoriaeth...... 36 Helyntion Cerddorol y Brifddinas 37 Gohebiaethau....... 38 Newyddion Cerddorol...... 38 Yr Eisteddfod Genhedlaethol..... 39 At y Cerddorion—Gwobr...... 39 Hysbysiadau........ 40 y GERDDORIAETH. Anthem—"Nid i Ni". Gan Eos Llechid. YR HEN ANTHEMAU A'R ANTHEMWYR CYMEEIG. GAN EOS LLECHID. ERTHYGL II. O'b seithfed hyd y nawf'ed ganrif, nid oes genym ddim neillduol i'w nodi o barth i gerddoriaeth eglwysig Gymreig. Cyfnod lled derfysglyd, yn gystal mewn pethau eglwysig a gwladol, oedd hwn. Mewn mater- ion eglwysig, tyfodd cryn anghydfod rhwng yr esgobion SeÌ8nig a'r esgobion Cymreig ynghylch defodau a seremoníau yr Eglwys. Ni chydnabyddai yr esgobion Cyroreig mo newyddion bethau Eglwys Rbufain. Saf- ent at eu defodau a'u seremonîau eu hunain, am ba achos cyfododd terfysgoedd blinion rhwng y ddwy genedl. Daeth y Saeson a'r Daniaid duon â chád yn erbyn y Cymry, a distrywiasant laweroedd o dai addoliad. ac eglwysydd Cymru, a Iladdasant lawer o wýr bucheddol, duwiol, a dysgedig. Mewn brwydr boeth ym Mangor Fawr yng Ngwynedd,1 lladdwyd esgob yr esgobaeth, ynghyd âg amryw o rai ereill perthynol i gôr Bangor. Ood er cymmaint y terfysg- oedd blinion hyn, ni oddefai y pendefigion Cymreig weled lleoedd o addoliad dwyfol, mewn rlian yn furdd- ynod Ailadeiladent a chyweirient bob llan a chapel, hyd y gallent, gyda'r gwresogrwydd a'r brwdfrydedd mwyaf. Yr oedd eu sel a'u cariad tuag at achos Crist yn gyfryw, fel, pan ysbeilid yr eglwys gan y Saeson a'r Daniaid, y rhoddent lawer o'u hetifeddiaethau at gynnal y rhai oedd yn gweini ym nihethau Duw ynddynt; hyny ydyw, adferent i'r eglwys ei chôr, yn gystal a'i gweinidogaeth. Ynghyleh y fiwyddyn 872 b.a , gwawriodd dyddiau gwell ar Gymru a Lloegr mewn materion eglwysig. Yr oedd esgobion y ddwy genedl weüi cyduuo, i raddau pell iawn, gyda golwg ar y defodau a'r seremoniau eglwysig-y Pasg, croes yn y bedydd, &c. Gwnaeth Rhoderic Mawr, brenin Cymru oll, ddiwygiadau pwysig iawn mewn Eglwysyddiaeth, yn gystal a Gwleidydd- iaeth. Ond yr ydys yn llawn mwy dyledus i Altred, brenin Lloegr, canys ar ei esgyniad' i'r frenhiniaeth, rhoddodd annogaeth i bobl ddysgediga duwioi ddyfod i Loegr o bob gwlad. Ac yn eu plith, gwahoddodd Aser, l Gwel Myvyrian Ârchaiology, cyf. ii., tudal. 480. J. Menevensis, a J. Erigina, o Dŷ Ddewi, tri Chymro duwiol a dysgedig ag oeddynt yn myfyrio yn yr athrofa hono. Trwy gynghor Aser, Menevensis, &c, sefydlodd y brenin Alfred Athrofa Bhydychain, a gos- ododd Aser i ddysgu grammadeg a rheitheg; Meneven- sis, rhesymeg, rhifyddeg, a cherddoriaeth; Erigina, y celfyddydau, &c. Ý mae yn amlwg fud y Cymry yn ddynion dysgedig iawn y pryd hwaw. Er gwahodd dysgedigion o bob cwr o'r deyrnas, a'r teyrnasoedd cyi'agos, nid oedd neb cymmhwysach i ddysgu areith- yddiaeth, &c, nag Aser, neb yn alluocach i ddysgu cerddoriaeth, &c, na Menevensis, na neb yn addasachi ddysgu y gwyddoregau a'r celfyddydau na J. Erigina. Yr oeddynt eisoes yn athrawon; a pheth cyffredin yn yr athrofäau Cymreig oedd bod athrawon cerddorol. Yn yr unfed ganrif ar ddeg, yr ydys yn cael cyfreith- iau a breintiau perthynol i farddoniaeth a cherddor- iaeth Gymreig, yn cael eu hail drefnu a'u cyweiriaw gan Gruffydd ab Cynan. Mewn eisteddfod yng Nghaer- wys, tua'r flwyddyn 1,100, gwnaethpwyd tret'n a dos- barth, ar donau a mesurau, arferedig y pryd hwnw; ac y mae twysgen byd o honynt ar gof a chadw, ac i'w gweled yn y 3edd gyfrol o r Myvyrian Arcltaiology, yn ol pricad a nodiad yr oes hono. Ond y maent mewn dull mor dywyll ac aneglur, fei y mae pob ymgais at eu hegluro a'u cael i'r amlwg, wedi syrthio i gwbl feth- iant hyd yn hyn; ac y mae yn canlyn fod ugeiniau, os nad cannoedd, o donau Cymreig wedi eu cloi i íÿny mewn nodau anhygyrch, fel yr ydym erbyn hyn wedi ein llwyr amddifadu o honynt. Er ein bod wedi traethu, gan mwyaf, parth yr alaw- on Cymreig, etto, yr oeddym yn gallu canfod, megys mewu drych drwyddynt, sefylllä cerddoriaeth eglwysig Gymreig, i raddau lled belL Yn ol y Missals sydd wedi dyí'od i lawr hyd atom, y tonau Gregoraidd oedd mewn ymarferiad, drwy yr holl oesau, ond wedi eu cyd-dymmheru a'u nawseiddio â'r teimladau Cymreig. O barth i nodwedd y gerddoriaeth eglwysig y pryd hwn, nis gellir dy weyd llawer, ond yn unig mai eu prif deithi oedd symlrwydd. Nid peth anghyöredin. yn y dyddiau hyn, oedd bod yr holl gynnulleidfa yn ymuno yn y gwasanaeth o ganu mawl. Yr oedd symlrwydd y tonau neu y corganiadau (chants) a ddefnyddid gan- ddynt, yn gyfryw, fel mai ychydig iawn o gyfnewidiad yn y llais oedd yn eisieu i'w cyflawni. Ehywbeth rhwng canu a darllen oedd y gerddoriaeth hon, ag sydd mewn ymarferiad (ond nid gyda'r fath symlrwydd) yn ein heglwysi cadeiriol a'r synagogau Iuddewig y dydd- iau hyn. Arddull ddiweddar mewn cerddoriaeth ydy w y dôn a'r antheui, fel y cawn sylwi yn ol llaw. Eisteddfod Teefftnnon.—Dydd Llun, Gorphenaf Ì5fed,cynnaliwyd eisteddfod yng nghapel y Wesieyaid, Treffynnon, pan gafwyd gwasanaeth dau gôr rhagorol, un dan arweiniad Ab Alaw, a'r lla.ll dan arweiniad Mr. Bobert Wìlscn. Ennillwyd y dôn gynnulleidfaol gan Mr. John Tnomas, Blaenanerch, ger Aberteifi, yr hwn sydd yn dyibd i enwogrwydd cyflym yn y dyddiau hyn. Cynnrychiolwyd Mr. Thomas gan yr enwog TaYalaw.